Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gryfder

gryfder

Efallai fod y reverb sydd wedi ei roi wrth gymysgu, wedi effeithio ar gryfder swn yr offerynnau gwreiddiol ac o ganlyniad mae'n tynnu oddi ar y gân.

Afraid sôn am gryfder y Saesneg yn ein cymdeithas yn gyffredinol; mae'n treiddio i bron bob cilfach ohoni, yn yr ardaloedd gwledig fel yn y trefi a'r dinasoedd.

Ond mae Nowa Juta yn gartref hefyd i ddwy eglwys Gatholig enfawr sydd yn symbolau o gryfder credoau'r Pwyliaid.

Mae'r naill neu'r llall yn dibynnu'n gyfan gwbl ar gryfder cymeriad y wraig.

mater hollol wahanol yw penhwyaden y gaeaf yn ei holl gryfder.

A sylwer yn neilltuol ar gryfder y ferf yn llinell olaf y pennill hwn: rhaid 'rhwygo'r gwanwyn pêr' o bridd y ddaear, fel pe bai honno eisiau gorwedd yn ddiffrwyth yn nhrymder a syrthni ei gaeaf.

Ond tra oedd Llanelli yn dal yn y gêm wrth flaene eu bysedd, cafodd y cwbwl ei wyrdroi gan un symudiad cryf gan y blaenwyr, a Tommy David yn arddangos ei fedr a'i gryfder wrth garlamu dros linell gais Castell Nedd i sgori pedwar pwynt.

Cynhelir momentwm y broses ehangu dros y flwyddyn sydd i ddod, wrth i'r BBC baratoi i wynebu cystadleuaeth i gryfder ei arlwy arlein, parhau i fuddsoddi yn y dalent syn angenrheidiol i gynnal twf, ac atgoffa rhaglenni o'r cyfleoedd ardderchog a gynigir drwy gyfrwng arlein.

Bu cyfnod pan oedd gwybodaeth o'r tair R yn gryfder, ac roedd medru Saesneg yn rhoi awdurdod.

fwydo ei wynfyd, neu ar ddiwrnod pan ddisgyn y glaw megis rhaeadr o nodwyddau dur; eto yn fynych gorfod gostegu yw tynged y glaw o dan gryfder ynni a dirmyg gwynt a ddaw yn syth o'r fan lle mae crud a bedd yr oerni bythol wedi ymgartrefu ar y rhewfil sydd yn sgleinio'n ddiog, ac yn ddi-ildio.

Gogoneddwn Di am gryfder oesol ein mynyddoedd, am amrywiaeth yr haenau creigiau ac am lyfnder a gwyrddlesni ein dyffrynnoedd.

O'i bas ef rhedodd Scott Gibbs nerth ei draed i'r gornel gan ddangos ei gryfder wrth chwalu'r ddau gais i'w daclo.

Cynhelir momentwm y broses ehangu dros y flwyddyn sydd i ddod, wrth i'r BBC baratoi i wynebu cystadleuaeth i gryfder ei arlwy arlein, parhau i fuddsoddi yn y dalent sy'n angenrheidiol i gynnal twf, ac atgoffa rhaglenni o'r cyfleoedd ardderchog a gynigir drwy gyfrwng arlein.

Astudiaethau ar gryfder ffydd mewn Cristnogion.