Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gryfderau

gryfderau

Casgliad y llyfr yw mai mudiad oedolion ifainc dosbarth canol addysgiedig oedd y Gymdeithas rhwng 1962 a 1992, proffil sy'n gyffredin i lawer o fudiadau ymgyrchu eraill; yn wir, un o gryfderau'r astudiaeth hon yw'r modd y defnyddir astudiaethau ar fudiadau megis CND a Chyfeillion y Ddaear i oleuo datblygiad y Gymdeithas a'i rhoi hi yn ei chyd-destun fel mudiad pwyso.

Mae ymchwilio manwl hefyd yn un o gryfderau'r gyfres awdurdodol, uchel ei pharch, Taro Naw, sef y rhaglen materion cyfoes fwyaf poblogaidd ar S4C.

Y dull gwyddonol yng nghyd-destun eich prif bwnc chwi eich hun Lle Gwyddoniaeth yn y cwricwlwm a'r berthynas rhwng y gwahanol wyddorau a rhwng gwyddoniaeth a thechnoleg, mathemateg a phynciau eraill Datblygiadau diweddar mewn meysydd megis technoleg gwybodaeth, micro- electroneg, a biotechnoleg Perthynas gwyddoniaeth a thechnoleg a bywyd bob dydd ar bob lefel Defnyddio'r amgylchfyd ar gyfer dysgu Asesu Sgiliau sylfaenol asesu a sut i'w cymhwyso wrth ddysgu Sgiliau cadw golwg ar gynnydd a chyrhaeddiad disgyblion a'u cofnodi, gan gynnwys swyddogaeth gwaith cartref Sgiliau angenrheidiol ar gyfer cloriannu gwerth gwersi, defnyddiau dysgu a meysydd llafur Iechyd a Diogelwch Yn ogystal â gwybodaeth am ddeddfwriaeth ynglŷn ag iechyd a diogelwch yng nghyd-destun yr ysgol, cynhelir sesiynau ar gyfer pob myfyriwr gwyddoniaeth ar beryglon arbennig labordai bioleg, cemeg, ffiseg ac astudiaethau maes Ymarfer diogel wrth wneud gweithgareddau ymarferol gyda disgyblion Storio a chynnal cemegau a chyfarpar Gofalu am greaduriaid a phlanhigion cyffredin y labordy Egwyddorion sylfaenol ac ymarfer Cymorth Cyntaf Datblygiad Personol a Phroffesiynol Paratoi'r myfyriwr ar gyfer profiad ysgol Datblygu hyder fel athro ac ymwybyddiaeth o gryfderau a gwendidau personol wrth ddysgu Hyrwyddo cyfranogi bywiog gyda chydweithwyr wrth ddatblygu a dysgu cwricwla newydd, cynlluniau gwaith, ymarferion theoretig ac ymarferol Bod yn ymwybodol o'r cynnydd mewn ymchwil addysgol, yn arbennig ym maes dysgu'r gwyddorau Astudiaethau Addysg a Datblygiadau Arloesol Bod yn ymwybodol o bwysigrwydd dysgu 'sgiliau proses' mewn gwyddoniaeth Dod yn gyfarwydd a mentrau megis, Cofnodi Cyrhaeddiad, Disgwylir i bob myfyriwr archwilio posibiliadau Gwybodaeth Technoleg, eu heffaith ar arddulliau addysgu a dysgu, a dod i'w defnyddio'n hyderus.

Yn wir un o gryfderau mawr y llyfr yw'r iaith - mae'n batrwm ardderchog ar gyfer gwerslyfrau ar unrhyw destun.

A lluniau, yn sicr, yw un o gryfderau amlwg y llyfr hwn.

Mae darparwyr gwybodaeth yng Ngwynedd yn cydnabod yr angen i wneu y defnydd gorau posib o gryfderau a chyfleoedd ei gilydd yng ngwasanaeth yr hen bobl a phobl sydd ag anabledd.

Un o aml gryfderau'r gyfrol ydi nad teyrnged ramantus i hafau hirfelyn ydi hi - er fod y rhamant yna.

Yr hyn sydd ei angen yw ymdrech integredig a chyfnod o gynllunio pendant er mwyn adeiladu ar gryfderau sy'n bodoli, adnabod unrhyw anghenion datblygu a gosod ar waith strategaeth i ateb yr anghenion hynny.

Mae i'r Gwasanaeth Cynghori nifer o gryfderau, yn cynnwys:-

Yn ôl Dylan Phillips, 'Go brin fod gan yr aelodau cyffredin y diddordeb lleiaf yn yr athronyddu a'r gwleidydda: profiadau uniongyrchol y brotest a'r weithred a oedd yn eu diddori hwy' (t.181). I fudiad ymgyrchu dyma un o'i gryfderau: tra bod rhai mudiadau eraill yn trafod beth i'w wneud, mi roedd aelodau'r Gymdeithas yn gweithredu ac yn tynnu sylw at ddiffyg statws yr iaith.

Unwaith y byddwch yn gyfarwydd â'r cymhwysiad fe gewch weld bod cymwysiadau eraill yn hawdd i'w defnyddio; dyma un o gryfderau mawr system y Mac, mae cymwysiadau gwahanol yn gweithio mewn ffyrdd tebyg i'w gilydd.