Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

grymus

grymus

Oni bai am yr adroddiadau gafaelgar yn y wasg a'r lluniau grymus a ddaeth yn dystiolaeth feunyddiol o dynged y Cwrdiaid, dwi'n ofni mai troi cefn fyddai ymateb gwledydd y byd.

Darganfu seryddwyr, wrth ddefnyddio telesgopau grymus, mai'r seren ddis- glair agosaf wedi'r haul yw Alffa Centawrws, a bod y goleuni oddi ar ei hwyneb yn cymryd dros bedair blynedd i gyrraedd atom.

Ganwyd Phil ar ddiwedd y ganrif o'r blaen pan oedd nerthoedd grymus yn dygyfor ar bob llaw, mewn cymdeithas a gwlad a byd, ac ni allent lai na dylanwadu ar drigolion y cyfnod.

Wrth ymladd etholiadau yr ydych yn creu gelynion, gelynion grymus, ond wrth gwrs dyna beth y mae'n rhaid i'r grŵp ymwthiol ei osgoi ar bob cyfrif.

Oni lwyddwn ni drwy dulliau di-drais grymus, bydd eraill yn troi at ddulliau trais.

Tanlinellir yn gyson fod y tebygrwydd rhwng Harri a i dad yn cryfhau o hyd (yn enwedig yn y dilyniant lle mae'r syniad cyfarwydd o linach a pharhad yn arf grymus i ddwysa/ u apêl emosiynol yr holl saga).

Fe'i heriodd i'w wynebu mewn dadl gyhoeddus a phan wrthododd yr eglwyswr cyhoeddodd gyfres o lythyrau chwyrn yn achub cam merched ac Ymneilltuwyr Cymru yn y Monmouthshire Merlin a'r Caernarvon Herald, a'r llythyrau hyn a fu'n sail i'w bamffled grymus, ...

O'n nhw'n eitha grymus yn y dechre ond yn y diwedd r'on ni'n rhy gryf iddyn nhw.

Mor gras yw'r cywair yn y cwpled cyntaf, gyda'r canoli sylw ar y gair 'ymryson' (meddylier am gynodiadau tyrfus y gair) ac ar y tri ansoddair grymus 'ynfyd', 'chwerw' a 'blin'.

Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg yr oedd y gwahaniaethau technegol rhwng Sais a Chymro a rhwng rhydd a chaeth yn llawer llai grymus nag y buont: y gwahaniaeth arwyddocaol bellach oedd hwnnw rhwng y rhai a lwyddai i gynnull tiroedd ac adeiladu ystadau a'r rhai a fethai wneud hynny ac a gâi eu gwthio tuag at y cyflwr o fod yn llafurwyr di-dir.

Fodd bynnag, er bod yr NCT yn cymryd cam i'r cyfeiriad cywir, ofna'r Gymdeithas nad ydyw'r Swyddfa Gymreig wedi achub y cyfle i lunio canllawiau grymus a fyddai'n fodd i warchod yr iaith yn ei chadarnleoedd traddodiadol a hyrwyddo ei hadferiad mewn ardaloedd a'i collodd yn ystod y ganrif a hanner diwethaf.

Yng ngallu grymus ei chof yr oedd Sarah Owen yn ymgysylltu â'r werin Gymraeg cyn i honno fynd i ysgolion Griffith Jones, Llanddowror, ac yng nghyfoeth lleferydd ei thafod, yr oedd yn uno treftadaeth hen ddiwylliant Twm o'r Nant â diwyllinat newydd Charles o'r Bala.

Y Cynulliad yw'r sumbol mwyaf grymus yng Nghymru heddiw.

Wedyn dyna ailadrodd yr un gosodiad, yn fwy grymus: diddim a mud yn y gofod yw 'holl drybestod dyn a byd'.

Mae hyn yn gyson â'r cysyniad ffasiynol yn ninasoedd Lloegr o ysgolion mawr a grymus yn cystadlu â'i gilydd yn y 'farchnad' am ddisgyblion.

Aeth ambell aelod o'r gynulleidfa adref mewn dagrau, eraill mewnsyndod ond pawb yn teimlo iddynt elwa o weld perfformiad diddorol, grymus ac addysgiadol.

Yn sicr yn agoriad grymus i'r albym ond biti nad yw'r gân yn cychwyn yn bendant.

Dyma'r adeg y bydd pwerau grymus yn Difo oddi wrth Dduw a'r Crist Atgyfodedig trwy nerth yr Ysbryd Glân i mewn i feddwl, enaid a chorff y claf i'w gyfannu.

Yn groes i hynny, os ewch ymlaen bymtheg tudalen fe gewch eich cymell i wrando ar un o areithiau mwyaf grymus, a mwyaf dyfynadwy, y Bardd o Stratford, mor huawdl nes ei bod yn berwi drosodd chwarter y ffordd i lawr y tudalen nesaf.

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg dechreuodd capeli'r Anghydffurfwyr ymddangos ym mhob man ar hyd a lled y wlad, ac apeliai neges y pregethwyr grymus yn arw at bobl Cymru.

Gellid llunio rhestr faith o bregethwyr grymus ond y mae enwau rhai'n amlycach na'i gilydd.

'Roedd Halen yn y Gwaed yn plymio i ddyfroedd dyfnion pechod a chydwybod yr wythnos hon, mewn pennod o actio grymus.

Carwn gymeradwyo, hefyd, glocsio grymus Aled Owain Morgan.

Gallwn grynhoi felly trwy ddweud fod yr eglwysi'n sefydliadau neilltuol gryf yn Eifionydd ac yn ddylanwad grymus iawn ar fywydau'r trigolion.

Cyril Edwards, iddo gael y fraint o wrando ar siarad grymus dros ben ac fe ddyfarnodd Clwb Dolgellau yn orau.

Cafwyd areithiau 'grymus a hyawdl' ganddo ef, a chan nifer o weinidogion lleol, gan gynnwys Nefydd o'r Blaenau, a'r Parchedig J.

Ni fyddai'n ddiogel caniata/ u i un o'r dynion mwyaf grymus yn y byd fod mewn cyflwr o'r fath!