Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

grynhoi

grynhoi

Dylai arolygwyr grynhoi'r cryfderau a'r gwendidau a welir wrth arsylwi addysgu'r pynciau, gan amlygu'r agweddau pwysicaf y mae angen rhoi sylw iddynt.

Daethpwyd i ymddiddori yn y gorffennol er ei fwyn ei hun, daethpwyd i astudio dogfennau, daethpwyd i grynhoi 'ffeithiau', ac i ddilorni cynlluniau dwyfol a chwedlau dynol.

I grynhoi, felly, er ei bod yn bur annhebyg bod polisi%au gwrthgylchol y llywodraeth ar ôl y Rhyfel wedi cael effaith groes i'r bwriad, y tebyg ydyw mai bach iawn hefyd oedd eu cyfraniad positif tuag at sefydlogi'r economi.

I grynhoi, ceisiwyd gwneud yr achlysur yn un cenedlaethol i Gymru gyfan, i alluogi Caerdydd a Chymru i ddangos eu hochr orau i'r byd.

Amcangyfrifwyd mai rhyw dri chan mil oedd ohonynt, gyda thuedd naturiol i'r boblogaeth grynhoi ar y tiroedd isel ac yn y dyffrynnoedd: anial a choediog oedd llawer o'r tiroedd uchel, ac anodd oedd teithio ar hyd y ffyrdd lleidiog a garw.

Cynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Uned Defnyddwyr i grynhoi gwybodaeth berthnasol i'r Cynllun Gofal.

Nid oes mo'r gofod yma i grynhoi ei sylwadau ynghyd â'r ymateb a gawsant.

Ni chlywais i'r un gof gwlad grynhoi llawer o gyfoeth, er ei fod, ar y cyfan, yn un o'r rhai a weithiai galetaf o bob dosbarth o weithwyr.

Ni chymer ond cwmpas byr i grynhoi'r hyn sy'n hysbys am hanes barddoniaeth yn y ddwy dalaith hyn cyn cyfnod y to olaf o'r Gogynfeirdd ac oes Dafydd ap Gwilym.

Dyma'r noson a ddewisodd i grynhoi'r trigolion at ei gilydd i drafod y trefniadau.

I grynhoi, felly, gwelir fod y newidiadau sy'n digwydd o fewn yr economi yn effeithio ar yr uwch-ffurfiant, gan greu deinamig ac achosi newidiadau i'r ffurfiant cymdeithasol.

Curig Davies oedd yn fwyaf cyfrifol am grynhoi defnyddiau'r llyfrynnau dathlu a'u gweld trwy'r wasg.

I grynhoi eto gellid yn fras eu rhannu'n dri dosbarth.

Efallai y byddai'n fuddiol cwblhau'r ffurflen grynhoi a lledaenu'r wybodaeth hon.

I grynhoi, mae rhinweddau'r llyfr hwn yn pledio'n gryf tros ei gyhoeddi.

Llwyddodd yr amddiffyniad i grynhoi ynghyd gorff niferus o Gymry parchus Lerpwl ac o fyfyrwyr Cymreig.

Gallwn grynhoi felly trwy ddweud fod yr eglwysi'n sefydliadau neilltuol gryf yn Eifionydd ac yn ddylanwad grymus iawn ar fywydau'r trigolion.