Wedi i ddwy fuwch a dynewad a llo fod yn y beudy trwy oerni'r hirlwm, erbyn dechrau Ebrill, mi fyddai'r tamaid awyr fyddai i'w weld trwy'r drws o'r beudy dros ben y domen yn mynd yn llai ac yn llai a'r llwybr i basio rhwng y drws a'i godre yn mynd yn gulach ac yn gulach.
Ac fe gefais gyfarwyddiadau - manwl; pwy ffordd i'w dilyn allan o Langolwyn, troi i'r chwith wrth eglwys y Santes Fair, a dilyn y ffordd fawr am ryw ddwy filltir, troi oddi ar honno wedyn wrth westy'r Tarw Du, a dilyn y ffordd gulach i fyny'r llechwedd; troi heibio talcen capel Methodus a dilyn ffordd y chwarel garreg galch; yna, ar grib rhiw go serth, ac yng nghanol y wlad yr oedd Trem Arfon.
Tro ar y dde y tro yma, a ffordd gulach os rhywbeth.