`Peidiwch â phoeni,' gwaeddodd Gunnar, `fe fyddwn ni'n cael ein hachub gyda hyn.' Gwenodd ar ei wraig a'i ferch un ar ddeg mlwydd oed.
`Mae'n rhaid i ni eu helpu nhw nawr,' meddai Gunnar, gan edrych i weld a oedd criw'r hofrennydd yn fyw ar ôl taro'r môr.
`O, na,' meddai Gunnar wrth i saith o bobl ymdrybaeddu yn y dŵr oer.
`Edrychwch,' meddai gwraig Gunnar, `mae'r hofrennydd yn dod.' Safodd y teulu i gyd ar y dec gan gymeradwyo.
`Fedrwch chi ddim cymryd dim byd yn ganiataol!' meddai Gunnar.
`Y tro hwn mae angen achub pump ohonon ni.' Pan gyrhaeddodd y cwch dringodd Gunnar, ei deulu a'r ddau ddyn o'r hofrennydd i mewn iddi'n ddiolchgar.