Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwadd

gwadd

Gallasai adrodd yn llawen ambell dro, ac mi'r oedd yn dysgu partin aelwyd erbyn pob amgylchiad a weithiau yn gwadd y cymdogion i ganu efo ni.

Y siaradwr gwâdd eleni fydd Allan Wynne Jones, Cadeirydd Biwro Ieithoedd Lleiafrifol Ewrop.

David Roberts fydd ein gwr gwadd, is-gennad Prydain yn Vancouver.

Yr adeg hyn, oedd dad a man yn cynnal ysgol Sul yn y tŷ ac yn gwadd y cymdogion, tri theulu, i ddod atom.

Yn y dull traddodiadol Gymreig roedd yn rhaid cael pwyllgor i ddod a phopeth i fwcwl gyda dros 300 o Gymry yn edrych ymlaen at fwynhau gwledd Gwyl Dewi yn un o westai Dubai yng nghwmni'r gwr gwadd, Phil Steele o adran chwaraeon BBC Cymru Wales.

Y Pregethwr gwadd oedd y Parchg.

Mae'n cyhoeddi cyfrol o Drafodion (mae cyfrol 1999 ar gael yn awr) ac yn cynnal tri achlysur arbennig pob blwyddyn- Cyfarfod y Gwanwyn, gwibdaith yr Haf a'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol gyda siaradwr gwadd.

Ond prin yr oeddwn wedi cael sicrwydd y medrwn astudio yma ac wedi dechrau hel fy mhethau at ei gilydd pan dderbyniodd y bonwr Schneider wahoddiad i dreulio cyfnod fel awdur gwadd - yn Abertawe.

Cofiaf rai blynyddoedd yn ol, mewn cinio ym Mangor, wrando ar y gŵr gwadd sef Richard Lloyd, cyn Organydd Eglwys Gadeiriol Henffordd ac yn ddiweddarach Durham, sydd yn awr wedi ymddeol ac yn byw ym Mhentraeth, Mon, yn cofio ei wyliau pan yn fachgen yn Llangairfechan ac yn mynd i un o ddatganiadau Ffrancon a hefyd yn cofio ei garedigrwydd drwy ganiatau iddo ymarfer ar organ wych Eglwys Crist.

Holodd ni'r plant a oeddem ni wedi bod ar gyfyl ystafell Mr Sugden, ond na, gallem gymryd ein llw, ac er bod arni gywilydd mawr o'i hamryfusedd 'doedd dim amdani ond gosod allan liain glân iddo a byw trwy amser cinio ac amser te ac amser swper mewn sachliain a lludw, yn ymwybodol iawn o'i bai ond heb ddweud gair wrth y gŵr gwadd amdano.

"Mae Stiwart wedi'n gwadd i gael cinio gydag e a Meri fory, os nad oes gennych chi wrthwynebiad," meddai Tom, cyn paratoi at fynd i'w wely - neu 'n hytrach, ei soffa.

Mrs Jane Jones, brithdir oedd yn llywyddu'r cyfarfod a'r gwestai gwadd oedd John Ogwen a Maureen Rhys.

Llywyddwyd gan Mr Evan Lloyd Jones, Moelwyn a'r gŵr gwadd oedd yr Athro Gwyn Thomas, Coleg y Brifysgol.

Mae un peth yn sicr: mae'r mediums, ac eraill erbyn heddiw, sy'n cael eu gwadd i drin ysbrydion mewn tai yn cael eu cadw'n hynod brysur, ac mae galw mawr amdanyn nhw i roi cymorth a chefnogaeth i'r nifer fawr fawr sy'n cael eu dychryn gan wahanol ysbrydion sy'n cyd-drigo â nhw.

Ceisio tynnu ein sylw yr oedd y ferch, a phan lwyddodd gwelem ei bod yn ein gwadd ati.

Yr arweinydd gwadd oedd Mr Alun Tregelles Williams o Abertawe a'r organydd oedd Mr Peter David o Smyrna Pen y fai.

Cyplyswyd yr achlysur â chyfarfodydd pregethu blynyddol yr eglwys a'r pregethwr gwadd yn y rheini oedd T.Glyn Thomas, Wrecsam.

Parciwyd y fan yn agos i'r llwyfan bychan a osodwyd ar gyfer y siaradwyr gwadd.

Mae nhw'n ymarfer efo ni nos fory, wedyn mi ddônt am wythnos gyfa, ac mi fydd fel Cad Gamlan acw wedyn." "Mae'n debyg y dylswn i ddangos fy wynab, gan mai Gwyn ddaru'u gwadd 'nhw yn y lle cynta'." "Debyg iawn; ond nid ddylswn i ddylech chi ddeud ond mi liciwn i.