Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwadnau

gwadnau

Dyna fe, ddarllenydd - yn llafn main, tal, teneu, gwledig, - mewn gwisg ddiaddurn a digon cyffredin yn dyfod trwy ddrws y capel - am dano y mae coat winlliw o frethyn gwlad wedi ei wau yn lled fras, a hono wedi gweled ei dyddiau goreu; ac oblegid ei fod wedi tyfu ar ol ei chael, edrychai yn fer a chwta - gwasgod o stwff ac un rhes o fotymau yn cau i fynu yn y glos am ddolen ei gadach India oedd yn dorch am ei wddf - llodrau o ffustian rhesog; a phar o esgidiau mawrion cryfion, gyda dwbl wadnau am ei draed, wedi eu pedoli yn ol ac yn mlaen; a'u llenwi â hoelion, ac ymylau hoelion y rhesau allanol yn amgylchu ymyl y gwadnau, fel y gallesid tybio y buasai eu cario yn ddigon o faich i unrhyw ddyn, heb sôn am gerdded ynddynt.

Pe byddai'r Bod Mawr wedi bwriadu inni dreulio cymaint o amser ar bedair olwyn byddai wedi rhoi castars dan ein gwadnau.

Yr esgidiau oedd yr unig bethau a'm trawodd i, y gwadnau crêp trwchus.

Mewn colofn olygyddol arall o dan y pennawd, 'Y Gwahanglwyf', beirniadodd yr un mor ddychanol esgob Tyddewi am iddo wahardd offeiriadon 'rhag anghysegru gwadnau eu traed ar linoleum tŷ cwrdd'.

Tywysodd Lisa yr ymwelydd o gwmpas, gan symud o'r meinciau at y byrddau, o'r torwyr at y peirianwyr, o'r rhesi o esgidiau lliwgar ar eu hanner at y gwadnau yn disgwyl am sodlau, ac o'r diwedd at yr esgidiau gorffenedig yn cael eu gosod yn daclus mewn blychau gwynion.