Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwadu

gwadu

Gwadu popeth y mae o, ond waeth iddo heb.

Yn sicr nid oes modd gwadu fod rhai o'r enwau ar y cryno ddisgiau hyn yn anghyfarwydd ond, er hynny, mae'r label wedi llwyddo hyd yma i ryddhau amrywiaeth eang o senglau.

Mae'n awgrymu mai gwadu'r gwirionedd fyddai sgrifennu am y bobol ifanc mewn unrhyw arddull arall, yn union fel y byddai ' n gwadu ' r gwirionedd i osgoi ' r rhegfeydd a'r rhyw.

Ydych chi'n gwadu hynny?" Ni ddywedodd y twrnai ddim.

Mae Gweinidog Nawdd Cymdeithasol yr Wrthblaid, David Willetts, yn gwadu honiadau Llafur y byddai'r pensiynwyr tlotaf yn dioddef.

Yng ngolwg yr arweinwyr Ymneilltuol, yr oeddynt, drwy ddifrio'r Cymry a'u hiaith, wedi gwadu hawl yr Eglwys ar eneidiau'r Cymry.

Mae'r awdurdodau yn Mhalesteina wedi gwadu eu bod eu bod nhw'n gysylltiedig âr ffrwydriad.

Nid wyf yn gwadu na byddai cyfnod o gas ac erlid a chynnen yn hytrach na'r cariad heddychol sydd mor amlwg ym mywyd politicaidd Cymru heddiw.

Ond ni ellir gwadu nad yw llenydda yn Saesneg yn eich galluogi i farchnata nid yn unig yn Lloegr, ond ledled y byd.

Yn anffodus, er na fedrir gwadu na allai Dafydd ap Gwilym fod yn ddyledus i gorff o farddoniaeth werinaidd, nid yw'r fath gorff wedi ei gadw, tra cedwir corff o ganu cyfandirol yn ieithoedd Profens, Gogledd Ffrainc, yr Almaen, etc., sy'n cyfeirio at un ffynhonnell bosibl i'r dylanwadau a fu'n gweithio ar y bardd Cymraeg.

Nid oes gwadu, serch hynny, apêl barhaol y cartref a'r aelwyd werinol a'u gafael ar y sentimentau gwâr.

Roeddan nhw'n treulio'u dyddia a'u horia ola cyn yr enedigaeth yn y beudy, yn gwadu eu bod nhw'n feichiog o gwbwl.

Ond llawer mwy difrifol na'r ddeubeth hyn oedd fod Evan Meredith yn amau fod i Forgan ran mewn dwyn achos o odineb yn ei erbyn yn llys yr esgob yn Llanelwy, er bod Morgan yn gwadu hynny; a hefyd y ffaith ddiymwad fod Morgan wedi helpu i sicrhay llaw aeres Maesmochnant, un o stadau cyfoethocaf y gymdogaeth, ar gyfer Robert Wynne, mab ei noddwr, Maurice Wynn o Wedir, er bod Edward Morris hefyd a'i lygad arni.

Buaswn irmau'n ateb y pwynt cyntaf a ddyfyrmwyd o'r Llythyr ynghylch Catholigiaeth trwy fynnu bod gwadu ymhoniadau ysbrydol a gwleidyddol yr Eglwys Babyddol a herio ei hawdurdod cyn hyned ac mor Ewropeaidd â'r Eglwys Babyddol ei hun.

Gwynn Jones at eu chwaeth, ond wfft i'r sawl sy'n gwadu mawredd 'Ymadawiad Arthur'.

Mae pethau'n dechrau torri lawr rhyngon ni - elli di ddim gwadu hynny - a wela'i ddim sut y gall gadael i'n cariad ni farw gyfrannu mewn unrhyw ffordd at wneud iawn am farwolaeth Heledd." Rhedodd Marc ei fysedd drwy ei wallt du, cyrliog a dechrau cerdded yn ol ac ymlaen ar draws yr ystafell.

Nid yw'n annheg dadlau fod y ddisgyblaeth hon wedi crisialu'n ddiweddarach yn barchusrwydd ffurfiol a phobl yn canmol y gwerthoedd yn gyhoeddus ac yn eu gwadu yn y dirgel.

Ni ellir gwadu nad Brad y Llyfrau Gleision a daniodd enaid Ieuan Gwynedd ac a fagodd ynddo wir ymdeimlad o Gymreictod a gwladgarwch.

Hwn yw y gofyniad mawr, a yw Cymru i bara yn wlad foesol a chrefyddol fel ei gwnaed gan Ymneilltuaeth Gymreig, ynte a ydyw yr egwyddorion, dros y rhai y gwaedodd ein tadau, i gael eu gwadu?

Ac o ganlyniad y mae'r sawl sy'n credu yn Nuw a'r sawl sy'n gwadu'r gred ar yr un gwastad.

Gwadu'r cyhuddiadau mae Mr Morgan sy ar ymweliad swyddogol â Lyon yn Ffrainc.

Hynny ydi, mae gwadu ffaith drwy beidio newid y sefyllfa yn gwbl ddi-ystyr.

Yn ail, dydi gwadu baich yr ymgyrhcu dros yr iaith ddim yn dileu y baich hwnnw'n syth.

Mae cyn-gapten tîm criced India, Mohammed Azzaradin, wedi gwadu fod ganddo unrhyw gysylltiad â threfnu canlyniadau gemau criced.

'Sut ydych chi yn beiddio gwadu fi!' Erbyn hyn roedd y chwilen dew yn dawnsio'n wyllt yn ei chynddaredd, yn siglo o ochr i ochr dan wthio'i habdomen yn erbyn tarian ei hadenydd i greu sūn suo gwirion.

Yn ôl y Palesteiniaid, ychydig wedyn ymosododd hofrenyddion Israel ar ganolfan yn perthyn i warchodwyr Yasser Arafat, ond gwadu hyn wnaeth byddin Israel.

Ond gwadu ein hetifeddiaeth yw hynny.

"Wrth gwrs nad ydych chi'n gwadu, fedrwch chi ddim.

Gwadu hynny a wnaeth hi gan ychwanegu y byddai'n derbyn ei harian dipyn yn haws o hynny ymlaen - roedd yn mynd i fod yn butain broffesiynol.

Mae John Hollins yn gwadu hynny yn bendant.

Ie, ie, dewis ei ffeithiau, dewis ei lluniau, dewis ei phrofiadau y mae hi fel pob llenor ni fynnir ac ni ellir gwadu hynny Ond yr oedd hi heb os yn llenor gwyddonaidd iawn, yn llenor a gadwai at galendr o ddigwyddiadau y gallem, pe mynnem, eu gwirio'n hanesyddol.

Mae'n debyg y bydd y darllenydd lleyg - o safbwynt seiciatreg - yn cael rhannau o'r gwaith yn ddyrys ac weithiau'n anghredadwy; yn enwedig felly, hwyrach, pan fo seiciatryddion yn ymarfer eu credoau ynglŷn â gwadu ac amwysedd sy'n golygu y gellir maentumio mai'r gwrthgyferbyniol a amlygir neu a arddangosir gan yr hyn sydd fel pe bai'n gwrth- ddweud eu damcaniaethau.

Ac er nad ydym yn dymuno argymell iaith o'r fath, does dim diben gwadu fod y ddau fics ychwanegol a geir ar y sengl yn llawer mwy pwerus ac effeithiol na'r fersiwn lân, a hynny am nad ydynt wedi cael eu golygu o gwbl.

Wrth gwrs, mae'n gallu bod yn oer ym mis Awst - does neb yn gwadu hynny!

hynny yw, baswn i'n gwadu bod na galon thematig i'n cyfnod ni fel does dim calon thematig i naratifau'n cyfnod.

Monica Lewinsky yn datgelu iddi gael perthynas rywiol â Bill Clinton, Arlywydd yr Unol Daleithiau, ac yntau yn gwadu'r honiad.

Mae anwybyddu'r gwahaniaethau naturiol rhwng dynion a menywod yn groes i reolau natur, ac yn gwadu rhyddid y wraig i gyflawni ei dyletswyddau naturiol.

Yr oedd y plethu hwn yn beth bwriadol ganddo; yn sicr ddigon, nid gwadu'r Gymraeg oedd ei amcan: Perthyn y mae Elfed i'r un ysgol o feddwl a Cheiriog yn hyn o beth.

Gwadu y cyhuddiad a wnaeth golygydd newydd Seren Gomer; "Egwyddorion ein Cyhoeddiad a gadwyd hyd yma yn ddilwgr", meddai, ond defnyddiodd Seren Caernarfon enghraifft gohebiaeth Hughes ei hun yn Seren Gomer ar fater yr eglwys wladol er mwyn profi ei bwynt: