Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwaelodol

gwaelodol

Mewn gair, llenyddiaeth fyddai hon a âi i'r afael â phynciau mawr gwaelodol bywyd dyn.

Synied am y genedl yn nhermau'r iaith Gymraeg y mae Sion Dafydd Rhys yma: y mae iaith a chenedl yn gyfystyr iddo, ac y mae'n cydnabod bod bygythiad gwaelodol i'w bodolaeth yn y math o feddylfryd unoliaethol a ymgorfforir, er enghraifft, yn y Ddeddf Uno.

Rhydderch a Gwenlyn fu'r tim o fets a ddyfeisiodd rai o sefyllfaoedd gwaelodol mwyaf frwythlon y gomedi sefyllfa Gymraeg: Hafod Henri, Glas y Dorlan, a'r anfarwol Fo a Fe.

Llwyddodd BBC Adnoddau, Cymru i wella ar y targedau ariannol ar gyfer 1999/00 yn sgîl incwm gwaelodol cynyddol yn ogystal â pharhau i leihau costau oherwydd holl ymdrechion staff BBC Adnoddau, Cymru i sicrhau llwyddiant i'r busnes hwn ynghyd â'r awydd i gryfhau a chynnal y sylfaen grefft ar gyfer BBC Cymru.

Cwestiynau gwaelodol Mae yna dri chwestiwn gwaelodol i'r sawl sy'n meddwl o ddifri am ddysgu'r Gymraeg fel ail iaith.

Ffydd sy'n mynegi teyrngarwch gwaelodol i rywun neu ryw egwyddor, ein hymgysegriad i Dduw neu ryw eilun hen neu fodern.

Y teyrngarwch gwaelodol hwn yw "crefydd" ac y mae'n rhoi cyfeiriad nid yn unig i'r ffydd yr ydych yn ei fynegi ond pob gwedd arall hefyd ar eich gweithgarwch.

O'r holl siarad ac ymgynghori hwn, erys sawl gwirionedd gwaelodol.

"Pa beth sy'n gwahaniaethu cymundod cenedlaethol oddi wrth gymundod politicaidd?" Sonia am gylymau gwaelodol sy'n rhwymo dynion ynghyd.

Archwiliwyd perthynas y gwahanol grwpiau hyn o silia a'r celloedd gwaelodol, gan ddefnyddio'r microscop electron trawsyriant.

Llwyddodd BBC Adnoddau, Cymru i wella ar y targedau ariannol ar gyfer 1999/00 yn sgîl incwm gwaelodol cynyddol yn ogystal â pharhau i leihau costau oherwydd holl ymdrechion staff BBC Adnoddau, Cymru i sicrhau llwyddiant i'r busnes hwn ynghyd âr awydd i gryfhau a chynnal y sylfaen grefft ar gyfer BBC Cymru.

Dichon fy mod yn camddeall, ond mi gymerais i hyn i olygu ein bod ni, feidrolion, fel popeth arall a wnaed o fater, yn ymddatod ryw bryd annirnadwy bell i ronynnau gwaelodol y cosmos; ein llwch o atomau gwahanol elfennau yn troi'n ronynnau egni annistryw.

Cyn mynd ymlaen i drafod y datblygiad hanesyddol, fodd bynnag, mae'n ofynnol yn gyntaf gosod y ddadl o fewn ei chyd-destun theoretaidd, er mwyn gosod allan yn glir y cysyniadau gwaelodol sy'n sail i'r drafodaeth.

Drysodd yn llwyr a disgyn i'r iselder mwyaf gwaelodol a chadw'i gwely am rai dyddiau, Janet yn ei thendio a merched, plant a rhai o ddynion y Teulu'n galw i ddangos eu gofal.