Y noson honno cafodd Gwaethfoed a Morfudd lety gyda chawr o'r enw Carwed Feudwy wrth odre Rhiw Garwedd ond pan geisiodd y cawr lofruddio'r ddau yn eu cwsg fe laddodd Gwaethfoed hwnnw hefyd.
Yn agos i fil o flynyddoedd yn ôl fe deithiodd Gwaethfoed, un o fân benaethiaid Ceredigion y ffordd hon ar ei ffordd adref o Went gyda Morfudd ferch Ynyr Ddu, ei wraig newydd feichiog.
Daeth tri herwr ar ddeg ar eu gwarthaf ger Bwlch y Clawdd Du ond fe laddodd Gwaethfoed y cwbl a chodi carnedd dros eu cyrff.