Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwag

gwag

Yma, mewn man gwag yn cynnwys fflagiau siâp hecsagon, taenwyd hen ryg Twrcaidd coch ar lawr ac ar y ryg roedd cadair olwyn, ac yn y gadair olwyn roedd gŵr oedrannus, yn amlwg yn darfod, yn ein gwylio ni'n dod gyda llygaid du y diffoddwyd yr holl dân ynddynt ers amser maith, ond a gynhwysai o hyd uniongyrchedd glo-ddu y llygaid yn y darlun a grogai uwchben y silff ben tân yn y cyntedd.

Roedd yn anrhydedd mawr pan ymddangosodd pedwar gwleidydd blaenllaw sef Mary Robinson, Mikhail Gorbachev, Eduard Shevardnadze a Lech Walesa mewn rhaglen arbennig, Dathliad Gwag? a gynhyrchwyd ar gyfer BBC Cymru gan y cwmni annibynnol, Quadrant.

Darllenodd y llythyr, a'i ddarllen yn araf eilwaith, yna'i ddarllen eto, a'i roi yr un mor araf yn ei amlen a syllu'n hir i'r lle tân gwag.

Meddyliais am fy nhŷ gwag; fawr o ddim yno ar wahân i ddau wy, tamaid o gaws a choffi du i swper, a'r awydd i fwyta mwy ond heb yr hawl i wneud hynny.

Bydd peilotiaid Americanaidd bob amser yn croesi gwregysau diogelwch ar seddau gwag yn yr awyren er mwyn plesio'r ysbrydion anhysbys.

Yng nghanol y wal orllewinol roedd lle tân mawr gwag gyda sgrîn efydd o bedwar panel colynnog ac uwchben y lle tân roedd silff ben tân gyda chiwpids yn y corneli.

A phrun bynnag, meddai, petai o'n dechrau poeni am bob tū gwag roedd o'n ymweld â nhw byddai ar ei ben yn y seilam.

ETHOLIAD SWYDDOGION Cyhoeddwyd na chafwyd ond un enwebiad yr un am y swyddi dwy flynedd canlynol:-Cadeirydd Jo Weston Trysorydd Mandy Wix Un enwebiad yn unig a dderbyniwyd ar gyfer un lle gwag ar y Pwyllgor Gweithredol ac felly etholwyd Sybil Crouch.

Tyddyn gwag ar dir ei thad, yn uwch i fyny'r mynydd, oedd Llety'r Bugail.

Maent yn byw bywyd gwag rhwystredig yn y dref mewn cymdeithas lle nad oes iddynt swyddogaeth.

Ymhen rhyw ddeuddydd daeth y goruchwyliwr drwy lefel yn y chwarel a gweld nifer o sledi gwag yn sefyll yn ei cheg.

Gwersylloedd gwag yw llawer o ffobias bywyd.

Aeth Waldo ar ei ôl i'r Cei, a chopi o'r swyddi gwag yn y Sir gydag ef.

Roedd cadeiriau caled mawr gyda seddau crwn coch moethus wedi eu gwthio yn erbyn y bylchau gwag ar hyd y wal o gwmpas.

Gwna di hynny.' 'Helô 'ma.' Daeth atynt gyda gwydryn hanner peint hanner gwag yn ei law a bwrw ati'n syth bin.

Mynegodd ef ei argyhoeddiad, a'i ddilyn gan bob beirniad o bwys, mai'r bardd yw'r un â'r gallu ganddo i feddwl yn drosiadol, i glymu dau argraff efo'i gilydd yn undod clos - i weld henaint yn ddeilen grin ar drugaredd gwynt, i weld bedwen yn lleian, i glywed cân ceiliog yn y pellter yn dristwch mwyn hiraeth, i deimlo yn hen gapel gwag, i droi Angau yn weinidog yn dod i'w gyhoeddiad.

Nodwyd fod yna ddigon o eiddo gwag a ellid ei addasu yn gartrefi mewn nifer helaeth o ardaloedd heb fynd ati'n ddi-reolaeth i adeiladu ystadau o dai drud ar gyrion penterfi.

'Gwell i tithe fynd ffor 'ny c'lo!" Wrth sgrifennu hanes siwrne hir a gwag fel hyn, mae'n rhaid i mi gael dweud i mi fwynhau'r dydd yn Aberteifi.

'Roedd yn well gan John Roderick Rees weld estroniaid yn byw mewn hen fythynnod yn hytrach na gweld y bythynnod hynny yn furddunod gwag ar draws Cymru.

Yn wir, yr oedd gyda nifer ohonon ni luniau yn ein meddyliau o dreulio penwythnos mewn rhyw hen hongliad o adeilad oer a gwag, di-gysur a diarffordd.

Pryderon gwag ydynt i gyd.

Wrth fynd heibio llyn oedd ar ymyl y ffordd, dyma'r chwiaid oedd arno, wrth glywed eu twrw, yn dechra gweiddi, 'Gwag,Gwag,Gwag'.

Ond nid tŷ gwag.

Gallwch dreulio hanner awr yn rhwydd yn eistedd mewn tŷ bwyta gwag cyn i'r 'waiter' ddod i holi beth hoffech chi ei gael i'w fwyta.

Cylch o blant yn chwarae gem yng nghanol cae gwag.

Ond pan lanwyd ei hysgyfaint fe aeth i gyd i fwydo'r sgrech a atseiniodd drwy ystafelloedd gwag y tŷ.

At bwy y trodd o am gysur wrth ddianc o'i gartre gwag?

(iii)Caniatau'r ceisiadau canlynol dan yr amodau a nodir ar eu cyfer yn y Gofrestr Ceisiadau:- Cais amlinellol - newid defnydd tir gwag ar gyfer diwydiant Cais llawn - arwydd wedi ei oleuo'n allanol Cais llawn - estyniad i falcon Cais amlinellol - tŷ annedd Cais llawn - manylion mynedfa a ffyrdd ystad, ac ail-leoli cyffordd ffordd gyhoeddus ar gyfer parc bwyd/amaeth gyda lladd-dŷ (Datganwyd diddordeb yn y cais hwn gan y Cynghorydd JR Jones ac ymneilltuodd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio).

Gyrru 'mlaen at y bont Wyddelig dros yr afon gerllaw i ffermdy gwag Llannerchirfon (Llannerch Yrfa ar y map OS).

Ynteu a ydym i dderbyn nad yw dyfynnu'r geiriau hyn ond yn rhethreg gwag ar ran Tywysog, nad yw'n deall, neu nad yw o ddifrif ynghylch, y geiriau y dewisodd eu llefaru?

Os cymerodd gaff gwag yr oedd pawb yn rhy brysur i sylwi ar hynny.

Yn sicr, dylid sylwi mai wedi alaru'n hollol ar siarad gwag a hunangais ein gwleidyddwyr Cymreig a'n harweinwyr cendlaethol y mae'r ieuanc, ac mai elfen bwysicaf ei gred yw sel angerddol dros yr iaith Gymraeg a'r hen ddiwylliant Cymreig.

Codai cyfog gwag arno o hyd, a bustl ambell waith.

waith yn yr hanner dwsin cyntaf o symudiadau'r Agoriad - y tebygrwydd yw eich bod wedi cymryd cam gwag.

Aeth y ddau ddyn draw i'r rŵm ford, ac yno fe'u clywodd yn hir drafod dyfodol y tyddyn gwag.

A gwag hefyd nyth y wennol.

Profiad ingol ar drothwy'r 'Dolig oedd mynd heibio a gweld dim ond pedair wal yn sefyll a pheirianna'n turio hyd yn oed i sylfeini un o'r rheini tra llosgai'r gweithwyr rai o blancia'r to yn ei grombil gwag, y gwreichion yn tasgu o'r fflama' a'u cochni yn cael ei adlewyrchu yn gysgodion grotesg ar blastar y muria' i oleuo mwrllwch bore oer o Ragfyr.

'Siarad gwag ydi hyn 'na.

Cynhyrchwyd y Cam Gwag gan Buddug Medi ac actorion eraill oedd Dorothy Vaughan Jones, Alun Jones, Gwynedd Jones, ac Anwen Williams.

Yn y man gwag wrth wal y cei lle'r arferai'r Wave of Life angori roedd chwip o gwch cyflym.