Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwagio

gwagio

Pan fyddid yn sôn am ei gampau'n gwagio siopau o'u nwyddau oll byddai hithau'n dal dano'n dweud, 'Wel, ddaru o ladd neb, yn naddo?' A phan ddaru o ladd Huws Parsli am y tro cyntaf dyma hi i'r adwy eto: 'Toedd dda gen i mo'r hen gingroen afiach beth bynnag.

Parodd streic y gyrwyr loriau i silffoedd a chistiau'r siopau mawr gael eu gwagio'n noethlwm hyd at y fframau.

Yn y diwedd mynnwyd fy mod i fy hunan yn gwagio casys Siwsan a'r plant ar y ddesg o'u blaenau.

Wrth i ni danysgrifio i'r is-normal a derbyn safonau dwbwl, wrth i ni ddweud celwydd a thwyllo'n agored, wrth i ni amddiffyn anghyfiawnder a gormes, yr ydym yn gwagio ein hysgolion, difrïo ein hysbytai, llenwi ein boliau â newyn a dewis cael ein gwneud yn gaethweision i rai sy'n arddel safonau uwch, sy'n geiswyr y gwirionedd, sy'n anrhydeddu cyfiawnder, rhyddid a gwaith caled.

Pelagiaeth yn fwy na dim sydd wedi gwagio'n heglwysi a'n capeli.

Roedd o'n mynd i godi wynab concrit y gorlan i osod traen newydd sbon fel mai dim ond matar o dynnu plwg fyddai gwagio'r twb dipio wedyn.

Mae'r capeli a'r eglwysi wedi gwagio a'r adeiladau mewn llu o fannau ar werth.

Er bod yr Eglwys yn sgut yn erbyn y Cacao, criw o Leianod yn Chiapas oedd y rhai cyntaf i gymysgu'r Cacao efo siwgwr gan wneud y cachu carnero yn debycach i be ryda ni'n gwagio bocseidia ohono fo i lawr ein llwnc bob Dolig a phen-blwydd heddiw.