Hyd at, efallai, os… Mae'r sefyllfa yn gofyn fod pobl yn gallu gweld gwahaniaethau mwy cynnil rhwng lliwiau gwleidyddol erbyn hyn na du a gwyn yn unig.
Mae'r amrywiaeth yn y cyfartaleddau uchod yn codi yn bennaf oherwydd gwahaniaethau yn yr amodau o fewn y canolfannau y dyrennir y grant iddynt.
Rhoddodd amlinelliad o'r camau a gymerwyd i gwblhau'r gwaith, drwy adrodd bod y cynghorau cymuned yn edrych ar y sefyllfa o fewn eu hardal eu hunain ond bod y cynghorau sir a dosbarth yn edrych ar y sefyllfa strategol i ardal ehangach ac felly bod gwahaniaethau barn yn sicr o ddigwydd.
Am ganrifoedd, hawliai'r Eglwys Geltaidd ryw radd o annibyniaeth oddi wrth Eglwys Rufain, a pharhaodd gwahaniaethau rhwng ei defodau hi a rhai'r eglwysi Rhufeinig hyd ddyfodiad y Normaniaid.
Ni ddilyd gorbwysleisio'r gwahaniaethau rhwng y ddau ddehongliad hwn: golyga undeb â Christ ynuniaethu, mewn rhyw fodd, â'r dwyfol tra nad oes lle mewn theosis i'r syniad naill ai am berffeithrwydd dibechod neu am ymgolli digyfrwng yn y duwdod.
Maen nhw'n derbyn eu haddysg mewn sefyllfaoedd tra gwahanol ac o dan amodau gwahanol, gyda gwahaniaethau yn ardaloedd a maint yr ysgol, ym mhrif iaith a nifer y plant, ac amrywiaeth yn yr amser maen nhw'n treulio yn yr ysgol bob wythnos.
Syniai Saussure am iaith fel chwarae gwyddbwyll, lle y bo i'r darnau eu gwerth a'u swyddogaeth a lle y bo'n rhaid eu symud yn ôl rheolau arbennig; bod dwy wedd ar astudio iaith, sef y wedd syncronig, disgrifiad o gyfansoddiad iaith, ei sieniau, ei geiriau a'i gramadeg mewn cyfnod arbennig, a'r wedd ddeiacronig, y cyfnewidiadau sy'n digwydd i iaith dros gyfnod o amser; a bod rhai gwahaniaethau rhwng Langage, gallu cynhenid yr hil ddynol i gyfathrebu trwy gyfrwng arwyddion llafar confensiynol, la langue, y system ieithyddol fel y mae'n bod yn meddwl pawb sy'n defnyddio'r iaith, a la parole, arferion llafar ac ysgrifenedig y siaradwyr, yr unig wedd y gellir ei hastudio.
Fe geir y teimlad mai'r amcan yw arddangos tebygrwydd y gorffennol i heddiw, er gwaetha'r gwahaniaethau arwyenbol, a hynny yn y pen draw er mwyn cyfleu'r syniad mai'r un yn ei hanfod yw'r natur ddynol ymhob cyfnod.
Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg yr oedd y gwahaniaethau technegol rhwng Sais a Chymro a rhwng rhydd a chaeth yn llawer llai grymus nag y buont: y gwahaniaeth arwyddocaol bellach oedd hwnnw rhwng y rhai a lwyddai i gynnull tiroedd ac adeiladu ystadau a'r rhai a fethai wneud hynny ac a gâi eu gwthio tuag at y cyflwr o fod yn llafurwyr di-dir.
Trown ato ym mhopeth ac, er gwahaniaethau diwinyddol, ffeindiais hi'n haws i weithio gydag ef na neb o genhadon y Gwastadedd.
Rhoi darlith ar gelfyddyd a bywyd Prydain i'r athrawon gan egluro'r gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr ymysg pethau eraill.
Daw'r gwahaniaethau rhwng y ddwy gymdeithas i'r golwg yn eu hagwedd at ddau arfer cymdeithasol, sef mabwysiadu a'r arferiad i ddyn briodi gweddw ei frawd er mwyn codi teulu iddo.
Y fframwaith greiddiol yw'r ymwneud a'r defnydd o iaith mewn dulliau dysgu ond bydd gwahaniaethau ym mhrofiad yr athrawon ac yn eu gallu i drin a thrafod y Gymraeg yn hyderus.
Mae'r gallu i edrych ar y bydysawd yn y gwahanol rannau o'r sbectrwm wedi bod o gymorth i ni ddeall y bydysawd yn well nag erioed o'r blaen; fel y byddai siarad pob un o ieithoedd pobloedd y blaned yn golygu dysgu llawer mwy am y gwahaniaethau sy'n bodoli yn y byd.
Heblaw am y deunydd, mae'r egwyddorion hyn yn debyg iawn i rai laser rhuddem - ond y mae gwahaniaethau pwysig rhwng y laser ffibr a rhai cyflwr solid.
Mae ffurf a lliwiau hynod y blodyn yn nodweddiadol o'r teulu, er bod gwahaniaethau rhwng blodau y gwahanol rywogaethau.
Un o'r pethau rhyfedd ynglyn ag ysgrifennu hanes yw y gall ysgolheigion, gwahanol iawn eu hargyhoeddiadau personol, gytuno ar fanylion, ond pan ddônt i'w cyfuno mewn panorama eang, daw gwahaniaethau sylfaenol i'r golwg.
Mae anwybyddu'r gwahaniaethau naturiol rhwng dynion a menywod yn groes i reolau natur, ac yn gwadu rhyddid y wraig i gyflawni ei dyletswyddau naturiol.
Diau fod gwahaniaethau sylfaenol rhwng ei ddaliadau gwleidyddol ef ac eiddo sylfaenydd ac arweinydd L'Action Fran‡aise.
Mae'n bosibl trefnu fod tonfeddi'r rhain yn cyfateb i'r gwahaniaethau rhwng lefelau egni'r crisial, ac mae'r datblygiad hwn wedi rhoi hwb anferth i faes ymchwil laserau cyflwr solid.