'Tydi'r ystol yn y ty gwair, yn pwyso'n erbyn y gowlas, 'run lle ag y bydd hi bob amsar.' 'Ond, Miss Willias.' 'Ewch i' 'nôl hi, Norman.
Synfyfyriai'r gwartheg gan sefyll hyd at eu caderi yn y gwair.
Dim iws ei roi yn y gwair fel hyn, gwna ryw fath o le iddo orwedd wrth y tân.
Wedyn, wrth gwrs, llwytho'r hulogydd a chario'r gwair o'r cae i'r gadlas neu das.
Doedd dim hanes am dywydd gwair, felly codais fy mhac a'i throi hi am Iwerddon.
Llonydd hefyd y peiriant siaffo, heb na gwair na gwellt nac eithin mân i'w falu.
Darparu coed tân, torri gwair, peintio gatiau, trwsio waliau, gwaith clirio, gwaith cynnal a chadw, plannu coed...
Ond clywed yr hanes am osod ei was bach mewn bocs te a chlymu'r bocs wrth sedd yr injan lladd gwair wnes i.
Pobl unplyg, gweddigar, duwiol, yn mwmian emynau wrth ladd y gwair a chywain y cynhaeaf, yn cynnal y weddi deuluaidd bob bore wrth ford yr allor, gan dynnu Duw i lawr i'r ceginau rhwng y potiau a'r pedyll.
Roedd o'n mynd i drwshio to sinc y tŷ gwair a syrthiodd hefo'r daeargryn dwytha a chlirio'r nialwch o fieri, weiran-bigog, prenia, heyrs a blerwch yn y gadlas.
Er i lawer o gaeau gwair ddiflannu a thir gael ei drin neu ei ddefnyddio'n wahanol, mae'n dal yn bosibl dod o hyd i'r tegeirian tlws yma.
"Bob yn ail ddiwrnod," ebe Owen Owens, gan aros i boeri i'r tân, 'y ngwaith i oedd mynd lan ar hyd llwybr mynydd i ryw hen dŷ allan tua milltir o'r tŷ ffarm, a llanw'r rhastal â gwair o'r dowlad, a rhoi gwellt glân o dan y bustych ac edrych eu bod nhw'n iawn.
Hynny yw, y bêl yn bownsio fel pe byddai ganddi ei meddwl ei hun wrth rowlio dros wyneb y gwair.
Y fath lafur ydoedd yn y dyddiau gynt i dorri'r gwair, ei hel, a'i fydylu ambell waith os oedd argoel o wlaw, yna 'tannu'r' mydylau drachefn, a'i huloga, a'r cyfan gyda phicffyrch.
Edward Vaughan yn ddiau yw'r amaethwr gorau yn Nyffryn Aerwen a phob ffermwr yn disgwyl ei arweiniad ef i dorri'r gwair: Yr oedd Edward Vaughan fel barcud i weld gweiryn aeddfed a machlud cadarn.
Mi roeddwn i wrth fy modd pan oedd hi'n bwrw glaw, gan y byddai nhad wedyn yn gweithio yn y stabal, neu'r tŷ gwair, neu'r beudy.
Eithr am yr hen Seren yma...Gwir bod ei hanadl mor bêr â gwair, a'i blew fel sidan coch cynnes; ond yr oedd ei llygaid mor eiddgar â'i thafod.
Byddai'n dod yn ol yn gyson bob haf i gynaeafu'r gwair cwta ar gaeau Glanrafon.
Fe gwympodd y corff lawr blwmp i'r gwair oedd ar y llawr.
Os taenwch yr ewyn yn wastad ar eich bys fe welwch greadur bach melynwyrdd yn llechu ynddo, larfa pryfyn eithaf cyffredin, llyfant y gwair.
mae nofel yn brosiect naratif hir, tra bod stori yn brosiect naratif byr, er mwyn pwysleisio'r hyn sy'n amlwg i bawb ond beth mae hyn yn ei olygu i rywun fel fi, sydd â meddwl gwibiog, sioncyn-y-gwair, yn neidio o'r naill beth i'r llall o hyd, yw yw i'n gallu symud o'r naill brosiect naratif i'r llall yn gyflymach neu'n amlach wrth weithio ar stori%au byrion gan ddechrau prosiect hollol newydd bob tro.
Pan ddaethon ni i'r ddaear yn y diwedd, roedden ni ar fryncyn braf y gwair yn hir ac yn ir o'n cwmpas, fel matres esmwyth.
Mor wrthodedig y gweddillion gwair yn y preseb, a'r sarn anniben, a'r sodren aflan.
Yn niwedd y pedwar-degau prynodd ffermwr Bryscyni, Capel Uchaf, Clynnog, geffyl a oedd wedi arfer gweithio yn Chwarel Dorothea, Dyffryn Nantlle, ar gyfer y cynhaeaf gwair.
Mae'n well gan lawer o bobl ddefnyddio porthiant planhigion naturiol a wneir trwy bydru gwastraff llysieuol, gweddillion bwyd a throiadau gwair mewn tomen gompost neu dail.
Fe'i paratowyd gan ragdybio mai chwyn yw'r planhigion dail llydain, ac mai gwair yw'r rhai dail main.
Edwin Caebrynia oedd mor bryfoclyd a chawodydd amser cynhaeaf gwair.
Cafwyd tywydd braf a heulog, tywydd cynhaeaf da ac aethpwyd ati i hel gwair.
Daeth niwl dros ei lygaid, a syrthiodd yn swp ar y gwair.
Mae'r cawell wedi ei osod gan rywun yn hwyr neithiwr mewn lle reit ddirgel yng nghanol y gwair, ac fe ddaeth y person a'i gosododd drwy'r bwlch yn y berth.
Ymddengys fod Wil y gwas bach wedi hen flino ar ddilyn yr injan lladd gwair o gwmpas y cae ar ddiwrnod poeth o haf ac iddo achwyn ar ei fyd.
Does neb yn carrega bellach, ac mor wir yw englyn y diweddar Dafydd Williams, Bryn Hyfryd, Y Garn, Pentrefoelas, i'r chwalwr tail: Ni raid wrth deisi gwair ac ŷd mwyach, ac mae'r grefft o'u toi ymhlith y pethau a fu - un o'r crefftau hynny y byddai dyn yn ymhyfrydu ynddynt ar derfyn dydd.
Byddai'n dwyn gwair o ffermydd cyfagos, ond er y gellid dilyn ei drywydd yn ôl am Dyddyn Bach ni feiddiai neb ei gyhuddo, gan fod arnynt ei ofn.
Dymchwelodd y chest de y funud y cychwynnodd y ceffylau a'r injan ar eu taith a thaflwyd y gwas bach yn bendramwnwgl i ganol y gwair.