Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwantan

gwantan

Doedd 'na neb arall yno ar y pryd; a golygfa digon cyffrous oedd hi wrth i'r haul - gwantan braidd - foddi y tu ôl i gymylau llwydion cyn diflannu.

Gwantan iawn oedd record Llanelli yn y gême yn erbyn Caerdydd--wedi'r cwbwl, dim ond un gêm ro'n ni wedi'i hennill mewn pedair blynedd ar ddeg, ac roedd hwn yn gyfle rhy dda i'w golli, er mwyn dechre unioni'r cydbwysedd.

"Ma'ch traed bach hi fel llyffantod." Dechreuodd Laura Elin oglais gwadn troed dde Jeremeia Hughes, yr unig fan gwantan yn ei holl bersonoliaeth, ac aeth y gŵr piwis i ffit aflywodraethus o chwerthin.

Dyn y pwll nofio'n dod i Ysgol Fitzalan i achwyn wrth y prifathro 'beutu Sandy a fi; ein bod ni 'di pigo ar ryw grwt bach gwantan - babi mami - o blith y crachach.

Roedd yr Howard cegog, galluog a fyrlymai o egni wedi troi o fewn ychydig fisoedd yn gadach gwantan.