Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwaredu

gwaredu

Ac yr oedd dyn yn ffyrnigo a ffieiddio am fod y Philistiaid dienwaededig yn mathru'r lle sanctaidd, yn gwaredu am fod yr inffidel ddiddymwr a'i griw mor ddihidio ag a fu Antiochus Epiphanes a'i lu 'rioed, yn halogi'r cysegr a'i droi'n ffieidd-dra an~hyfaneddol yno o flaen ein llygaid:

Felly y sefydlwyd New South Wales, ac yn ddiweddarach Van Diemen's Land a gorllewin Awstralia, yn garchar eang i drigolion yr hen wlad y mynnai'r awdurdodau eu gwaredu.

CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Iechyd Amgylchedd yn egluro'r drefn o ganiatau trwyddedau gwaredu gwastraff.

Byddai'r fraich wedi ei gorchuddio a'i chadw mewn cadachau o formalin ac wedi'r cam cyntaf hwn aem ati wedyn i'w gwaredu o'r saim a'r bloneg nes dod at y croen sy'n dal y cyhyrau yn eu lle a dysgu wedyn am fan tarddiad a phwrpas pob un.

Ar ei dystiolaeth ei hun bywyd digon ofer a fu ei hanes am ran helaeth o'i oes, ond daeth i brofiad trwy droedigaeth o'r Crist yn gwaredu, a threuliodd y rhan olaf o'i oes yn tystio i ddawn yr efengyl yn achub hyd yr eithaf.

Mae'r carbohydradau ynddynt yn symbylu cynhyrchu ensymau treulio; y selwlos yn hybu symudiadau cyhyrau'r cylla; a'r alcalinedd yn cynorthwyo gwaredu deunydd gwastraff.

sioc o weld ei lun ar y newyddion, a gwaredu wrth feddwl be oedd y creadur byrbwyll wedi'i ddweud rwan, nes i sioc y cyhoeddiad ddyrnu eich gwynt.

Er nad oedd ond cymedrol o ran maint, 'roedd ganddo groen eliffant, ystyfnigrwydd mul a thymer y byddai'r mwyaf eofn yn gwaredu rhagddi.

casgliad hwn a roddodd i Schneider ei ddyfyniad enwocaf: 'Bydd gwaredu'r mur yn ein meddyliau yn cymryd llawer iawn yn hwy nag unrhyw ymdrech i chwalu'r mur gweladwy'.Calon y Dywysoges - H.

Gwelodd y gorthrymedig a'r modd y gorthrwymwyd hwynt, a Duw a ddisgynnodd i'w gwaredu hwynt.

Rydw i'n siwr mai ffrwydryn yw e.' `Iawn - fe fyddwn ni gyda chi cyn pen dim.' Rhoes Swyddog Gwaredu Bomiau'r Fyddin y ffôn i lawr a galw ar ei sarsiant.

Cyfeiriodd at gwestiwn y llynedd ynghylch trefniant gwaredu gwastraff i'r dyfodol drwy ddweud bod y Cyngor wedi derbyn dau dendr ac wedi ystyried adroddiad manwl ar y tendrau.

RHEOLI GWASTRAFF: Gall is-gynhyrchion cloddio mwynau gael effeithiau andwyol sylweddol os na chânt eu hail-ddefnyddio, eu hail-brosesu neu eu gwaredu'n ddiogel ac mewn modd heb fod yn rhy amlwg.