Yr oedd i hanes, felly, gymhelliad gwareiddiol.
O'i fewn y ffynnai'r diwylliant a'r grymusterau gwareiddiol hynny a roesai hynodrwydd i deulu ac ardal ac a luniai undod unigryw mewnblygol a safai dros werthoedd cynhenid y gymdeithas.