Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwarthaf

gwarthaf

Bydd cyfle iawn i ni rhwng wyth a hanner nos." "Dim siawns i neb arall ddod ar ein gwarthaf?" "Neb.

"Dyma ni wedi dod yr holl ffordd o Gaerdydd er mwyn osgoi prysurdeb dinas, a dyma'r rhain ar ein gwarthaf ni.

Dinistriwyd y byd hwnnw gan y Rhyfel Byd Cyntaf, a phan oeddynt yn dechrau dadebru ar ôl y chwalfa torrodd yr Ail Ryfel Byd ar eu gwarthaf, gan chwalu'r holl obeithion am amgenach byd.

"Faint o fwyd fydd ar eu byrddau nhw tybed?" Cyn iddi gael gorffen yn iawn daeth y dyn ar eu gwarthaf.

Daeth tri herwr ar ddeg ar eu gwarthaf ger Bwlch y Clawdd Du ond fe laddodd Gwaethfoed y cwbl a chodi carnedd dros eu cyrff.

Oherwydd ei bod wedi mynd heibio i'r wâl am oddeutu ugain llath cyn dod yn ei hôl drachefn ar yr un trywydd, y mae wedi gadael dwbwl ei thrywydd arferol ar y darn hwnnw o dir a bydd y gelyn yn cael ei gamarwain i dybio ei fod ar ei gwarthaf ac ar fin ei goddiweddyd.