Yr hyn a'i dychrynai fwyaf oedd bod ei gwas ffyddlon wedi bod yn helpu'r lladron.
Sawl gwas fferm (os yw'n dal i fodoli) sy'n plygu gwrych yn lle defnyddio fflêl?
" dilynodd hi'r gwas at fwrdd yn ymyl y ffenestr.
Clywai'r gwas yn sgwrsio gyda Tom.
Fe arhosodd y gwas suful Huw Onllwyn Jones i gymryd cyfrifoldeb am y sector preifat; fe ddaeth Rhys Dafis o Tai Cymru i ofalu am y sector cyhoeddus a Meirion Prys Jones o Orllewin Morgannwg i daclo addysg.
Arweiniai'r ymweliad hwn ni at ei hanes fel gwas bach (page boy) yn Llwyngwair gyda'r Boweniaid a'r atgofion am ymweliadau'r teuluoedd o'r Cilgwyn a Stradmore a'r dillad hardd a wisgent wrth y bwrdd cinio lle'r oedd disgwyl iddo weini yn gwrtais.
Hyd yn oed yma, mae treulio noson yn yr awyr agored, mewn dillad gwlyb, yn gofyn am drwbwl." "Fyddwn i ddim wedi aros allan drwy'r nos." "Roeddech chi'n cysgu pan gefais i hyd ichi..." Tawodd pan ddaeth y gwas â'r coffi a'r ffrwyth iddi.
Roedd ganddi wallt tenau melyngoch, tonnog wedi ei dorri yn dipyn byrrach na'r ffasiwn cyfoes o dresi "gwas bach" wedi eu cyrlio odditano ar y gwaelod.
Mi roisoch gartre i Aled a'i fam er mwyn cael howscipar ar y cheap, a rydach chi am dynnu Aled o'r ysgol er mwyn cael gwas yn y siop ar y cheap!" Nid atebodd Matthew.
Un hen ddyn, un gwas bach ac un marchog wedi'i glwyfo.
Cydweithredai meistr a gwas, ac o'r un bwrdd y byddai'r feistres a'r forwyn yn bwyta'u prydau.
daeth y gwas yn ôl ac archebodd y dyn gig oen gyda salad, a photelaid o win coch.
Sdim gwas 'ma rhagor i fod ag ishe'r lle arno...
Yn 1988 y cyrhaeddodd Derek Jones Gwmderi ac ar y pryd 'roedd yn gweithio fel gwas i Mrs Mac.
Rhoddodd Richard yr awenau i'r gwas a dilynodd hi yn ol tuag at y ty yn anfodlon ac araf gan gicio ambell garreg o'i ffordd.
Aeth i mewn iddi nid fel cadfridog ar gefn march rhyfel ond fel gwas ar gefn asyn, arwydd o'r fath o oes fesianaidd y buasai Iesu'n ei chyhoeddi o'r dechrau.
Y gwas priodas oedd Dewi Jones, ffrind y priodfab, a'r ystlyswyr oedd Gwyn Vaughan Jones, brawd y priodfab a Mark Jones, brawd y briodferch.
Yn aml nid oes ond y ffermwr ei hunan ar gael, aeth heibio'r oes pan fyddai gwas ar bob fferm.
Roedd hi'n barchus i fab fferm briodi merch fferm arall; nid oedd yn hollol amharchus i fab briodi'r forwyn, eithr gwarth oedd i'r ferch briodi'r gwas.
Yn 1982 y cyrhaeddodd Dic Ashurst Gwmderi a bu'n gweithio am gyfnod fel gwas ar fferm Colin a Beti Griffith.
'Cyfaill gorau dyn,' meddir, 'yw'r ci.' Onid 'gwas gorau dyn' oedd y ceffyl?
Mae Jim, y gwas sydd gen i yn y siop, yn 'madael ddiwedd y mis.
Ymddengys fod Wil y gwas bach wedi hen flino ar ddilyn yr injan lladd gwair o gwmpas y cae ar ddiwrnod poeth o haf ac iddo achwyn ar ei fyd.
Ystorya Trystan yw'r peth tebycaf sydd gennym i chwedl go iawn am Drystan, ond anghyflawn iawn yw'r naratif fel y mae wedi ein cyrraedd, fel y dengys crynodeb ohono: Aeth Trystan ap Tallwch ac Esyllt gwraig March ap Meirchiawn yn alltudion i Goed Celydon, yng nghwmni morwyn Esyllt, Golwg Hafddydd, a gwas ifanc o'r enw y Bach Bychan.
Wil oedd y gwas bach, tua phedair ar ddeg oed, a'i ben sgwâr, a'i wyneb fflat, gwelw; byddai'n gwlychu'r gwely, er i f'ewythr Vavasor roi cynnig ar lawer meddyginiaeth, ond doedd dim yn tycio, a Gwladys yn ddig bob bore y byddai'n gorfod llusgo'r matras gwlyb i lawr y grisiau cerrig o'r llofft stabal.
Anodd oedd i grefftwr neu weithiwr a gwas gyrraedd y swydd barchus arswydus' o gael ei ethol yn flaenor.
Dymchwelodd y chest de y funud y cychwynnodd y ceffylau a'r injan ar eu taith a thaflwyd y gwas bach yn bendramwnwgl i ganol y gwair.
Yma y gorffwys gweddillion yr hen a'r ifanc o bob rhyw, meistr a gwas, y medrus a'r anfedrus.