Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwasgarodd

gwasgarodd

Yn raddol, gwasgarodd pawb a gwthiodd Dilwyn, Rhian ac Ifan eu beiciau'n araf i ben y rhiw cyn dringo arnynt a theithio'n flinedig hyd bentref y Bont, heb ddweud gair.

"Dydach chi ddim wedi newid ych plaid, gobeithio?' 'Na, 'dydw i ddim yn cofio imi wneud.' 'Cellwair o'n i, wrth gwrs.' Gwasgarodd Rhodri dipyn go lew o 'i gwrw ar hyd y bwrdd a' ddillad wrth i'r chwerthin chwalu allan pan oedd ar ganol cymryd llwnc.

Yn araf gwasgarodd y dorf, yr awydd am ymladd wedi'i ddeffro, a dau o'r plant iau yn dechrau arni, ond dim ond ein dynwared ni oedden nhw, ac ni allai smalio tila felly fyth ddigoni syched y dorf am waed go iawn.

Perthynai Bowser i deulu a ddeilliai o Swydd Efrog o ardal Castle Howard ond yn araf gwasgarodd y teulu fel y ceisiai'r aelodau ifanc ledu eu hesgyll i chwilio am borfeydd brasach.