Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwasgarog

gwasgarog

Nid wyf yn cofio'n iawn beth a ddywedwyd, ond rwy'n meddwl inni gytuno mai ymgais yw'r naill a'r llall i roi trefn ar amrywiaeth mawr o elfennau gwasgarog, a'i bod yn werth inni ddyfalbarhau.

Y pryd hwnnw byddwn yn dechrau eto ar y gwaith o greu geiriau ac ystyr allan o'r llythrennau gwasgarog.

Ardal gwasgarog ydy Bol y Mynydd a'r ffermdai a'r tydynnod wedi eu hau yn blith draphlith dros wyneb y rhostir ac, yn ôl un hen goel, y cawr Odo sy'n gyfrifol am y blerwch Un pnawn mwll cyrcydai Odo ar ysgwydd Mynydd yr Ystum yn ddrwg ei hwyl, a hynny am fod ganddo gorn ar fawd ei droed chwith, a hwnnw'n pigo.

I'r gorllewin, i lawr y cwm, y mae'r pentref bach gwasgarog a man cyfarfod y gymdeithas o'r pedwar ban.