Bydd traean o'th bobl yn marw o haint ac yn darfod o newyn o'th fewn; bydd traean yn syrthio trwy'r cleddyf o'th amgylch; a byddaf yn gwasgaru traean i'r pedwar gwynt ac yn eu dilyn â'r cleddyf.
Un yw'r gwasgaru afradlon o ffrwythau a hadau, a hyn yn paratoi ar gyfer gwanwyn arall, ac ail ddechrau byw.
Dro arall fe dorrodd i mewn i'w swyddfa drwy'r ffenest, gwasgaru ei ffeiliau, a rhwygo baner Jac yr Undeb oedd yn hongian ar y wal.
Dyma un o'r materion y rhoes y Trefnydd, J. E. Jones, fwyaf o sylw iddo a chryn orchest ar ei ran oedd ei lwyddiant i gyhoeddi a gwasgaru cymaint o ddefnydd.
Byddai gwasgaru ychydig o wrtaith cyffredinol rhwng y rhesi'n hybu tyfiant y tatws.
Trafodwyd y mater gyda'r perchennog pryd y cyfeiriodd at y ffaith mai ar gyfer pwrpas amaethyddol oedd y sied (nid ar gyfer anifeiliaid) a'i fod wedi gwasgaru "hardcore% tros y llain er mwyn cael mynedfa rwyddach i'r tir.
Buasai i lawr, medde fe, yn ardal y Bae, y Tiger Bay oedd hwnnw, i weld hen fêts a ddalodd eu tir ar y cyrion pan fynnai'r datblygwyr a'r cynllunwyr eu gwasgaru a'u hailgartrefu fan hyn a fan draw ar stadau o gwmpas y ddinas.
Gwledda yw bwriad yr aderyn, ond gwasgaru hadau yn y modd rhataf posibl yw amcan y goeden.
A'r achos - eu gwrthwynebiad i orchymyn y Senedd iddyn nhw a'u milwyr derfynu eu gwasanaeth a gwasgaru!
Mae'r planhigion blynyddol fel llau'r perthi a'r ffrom- lys a'r pys per yn gwasgaru'r had, yn gwywo a marw, a'r hadyn wedyn goroesi'r gaeaf i egino yn y gwanwyn.
Effaith honedig gwasgaru defnyddiau ymbelydrol ar y boblogaeth leol oedd testun rhaglen Fighting for Gemma ar HTV -- sef brwydr i achub bywyd merch ifanc yn dioddef o liwcemia.
Gan fod tyrfa fawr yn dod o Lansdowne Road, yn aml byddai rhai o'r hogiau'n cael eu gwasgaru.
Ni fydd yn chwith gennyf gefnu ar y Pencadlys, gan fod mwyafrif llethol y cwmni a ddaeth yma o Rouiba wedi gwasgaru eisoes.
"Rydw i'n ofni mai prinhau mae'r Cymry sy'n câl y fath foddhad heddiw; mae cynifer o'r genhedlaeth iau wedi'u gwasgaru i bob rhan o'r byd a Saeson wedi dod yn 'u lle nhw.
Termau a glywid yn aml mewn cynadleddau rhanbarthol ac yn nhrafodaethau Ysgolion Haf Plaid Cymru ydoedd annibyniaeth, rhyddid, perchentyaeth, cydweithrediad mewn diwydiant, datganoli, gwasgaru diwydiant a dangos mai un o amodau gwarineb yw osgoi mawrdra.
Mae'r ystafell gyntaf yn wag er bod yna gryn lanast yno, gyda'r dodrefn ac eiddo gweision Eiryl wedi eu gwasgaru i bob cyfeiriad.
Bydd y wiwer a sgrech y coed yn eu claddu gryn bellter oddi wrth y goedwig, a dyma un o'r ffyrdd y cafodd y deri eu gwasgaru ar hyd a lled y wlad.