Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwasgu

gwasgu

Ond er mai apel gyfyngedig sydd i'r nofel mewn cymhariaethau, mae iddi role ddiwylliannol o bwys, ac mae'n bwysig nad yw'n cael ei gwasgu i farwolaeth am resymau economaidd yn unig.

Hynny yw, y wynebau sy'n gwasgu at ei gilydd wrth reoli bwrw dwr allan yn ystod y symudiadau nofio.

Hwnnw'n bodio'n ofalus, holi, a rhybuddio cyn gwasgu'n drwm mewn mannau arbennig.

Yn y cyfamser, rhaid byw yn Nhir y Cwango a gweld democratiaeth ac atebolrwydd yn chwalu'n chwilfriw o'n cwmpas, a'r gwasanaethau sy'n cwrdd ag anghenion sylfaenol ein cymdeithas yn cael eu gwasgu o bob tu.

Fe wyddai gystal â neb am wleidyddiaeth, ac y byddai Genoa o bryd i'w gilydd yn cyflawni rhyw gamwri yn y rhyfel masnach â Fenis, ac y byddai'r elynddinas honno yn ei thro yn gwasgu ar ei chynghreiriaid er mwyn gwneud pethau'n anodd i'w ddinas enedigol yntau.

Gwasgu llaw a chusan i Dad bob un, ac allan o'r ward gyda'r nyrs.

Gellid gweld bod yna gysylltiad rhwng diffygion yr awyrgylch moesol a'r diffygion yn yr amgylchedd materol, a rhwng y rheini a'r gwasgu a oedd ar addysg i wneud iawn amdanynt, dyna arwain at un o'r themâu pwysicaf yn yr Adroddiadau.

Yn wyneb y sefyllfa hon penderfynodd Awdurdod Addysg Dyfed ymateb i'r gwasgu a fu arnynt of du undebau a mudiadau tebyg i UCAC a Chymdeithas yr iaith.

Yn wir, er gwaethaf neu oherwydd y gwaed oedd yn pistyllio o'm trwyn, mewn dau funud roedd fy mhen-glin chwith yn gwasgu ar gorn-gwddw fy ngwrthwynebwr, a chawn foddhad neilltuol o weld y croen o dan ei lygaid yn twitsian yn nerfus, cynyddai fy mwynhad am fod haid o blant o'n cwmpas rŵan yn sgrechian eu gwerthfawrogiad.

nychu a'i gwasgu i farwolaeth gan ormes y pleidiau Seisnig.

Toc cyn i Therosina gyrraedd, roedd dyn mewn siwt wen wedi gosod cyrn clustiau trwm am ei ben ac wedi gwasgu botymau ar banel bach yng nghornel yr ystafell.

Teimlodd fysedd ei fam yn gwasgu, gwasgu ar ei fraich.

Ymhell cyn cyrraedd y gwaelod 'roedd llinynnau'r coesau'n tynnu a gwasgu, a blaen bysedd traed yn swp yn nhu blaen ein sandalau.

Wrth weld 'y fath olwg ddiafolaidd anifeilaidd' ar ei thad, teimlai Winni fel 'ei lindagu a gwasgu ei gnawd nes byddai yn sitrws fel tatws drwg wedi eu berwi i foch' (Haul a Drycin).

Fel arfer roedd e'n gorfod gwasgu'n reit galed, ond y tro hwn roedd y pedal yn hollol llac.

'Tasai rhywun yn ceisio fy mygio i, mi faswn i'n gwasgu ei beli o nes y basen nhw'n slwj.' Dyna fyddai ei eiriau.

Mae o'n gwasgu'i wyneb i'r ffenest ac yn crafu'i ewinedd hyd y gwydr.

Rhag i anlwc o'r math yma ddigwydd i'r sawl sy'n gweld ambiwlans yn mynd heibio iddo dylai'r person hwnnw afael yn dynn yng ngholer ei got, dal ei anadl a gwasgu'i drwyn nes gweld ci brown neu ddu!

Gwyddom hefyd pa mor barod yr oedd Evan Jones i roi benthyg arian i'w gwsmeriaid pan fyddai'r esgid fach yn gwasgu, yn ogystal a gadael i ddyled y 'llyfr siop' redeg am flynyddoedd.

Cawsom ein cinio ar yr ochr draw, cyn i'r haul ddiflannu tu cefn i Lliwedd ac i'r oerfel ddechrau gwasgu.

Ni ddaeth unrhyw fesurau eraill ar warthaf y gwasgu ar fudiadau adain dde, ac felly yn aml iawn ymffurffiodd y rheiny'n fudiadau newydd dan enwau eraill.

Y mae'r distawrwydd di-sūn yn gwasgu ar y carcharor nes ei yrru i weiddi a llefain.

Fe ges fenthyg cyllell gan Nedi Pen-dre Hi naddiff fel nedde o chwith ac o dde Rhaid gwasgu'n bur gethin cyn torro bren crin Ni waeth iddi lawer y cefen na'r min.

"Felly roeddwn i'n tybio." Cyn iddi fedru'i osgoi, tynnodd hi i'w freichiau a'i gwasgu ate i fron.

Byddant yn heidio amdano fo ac yn neidio ar ei gefn, yn gwasgu'u sbardunau pigfain i'w ystlysau ac yn ei fflangellu'n ddidrugaredd â'u gwiail tân.

Tynnodd ei sbectol a gwasgu pont ei drwyn â'i fys a'i fawd.

Roedd ganddo fwstas melyngoch, llygaid gleision a gwisgai sbectol gwasgu-trwyn.

Ond ar gyfer y diog, mae rhes o fulod ac asynnod sy'n ddigon o ddychryn wrth iddyn nhw ruthro heibio a'ch gwasgu yn erbyn y wal os mai wedi penderfynu cerdded y llwybr cul, igam-ogam, ydych chi.

'Dal o, Mwsi,' gwaeddodd y gŵr bychan, tew, a theimlodd Siân law drom yn syrthio ar ei ysgwydd ac yn ei gwasgu.

Yna prysurodd i gusanu a gwasgu Ceri'n llawen.

Wrth gwrs, 'roedd eglwys hynafol Sant Dyfrig wedi ei gwasgu i gesail y mynydd ganrifoedd cyn hyn, ac yn ddiweddar bu rhywun mor ddifeddwl â gollwng 'sgubor o gapel Annibynwyr yn blwmp ar ganol y rhos yn y man mwyaf diarffordd posib'.

Weithiau, wedi gwasgu arno, fe adroddai ran ddilynol y stori; a rhywsut roedd gyda ni - fi yn arbennig - fwy o ddiddordeb yn y rhan hon o'r stori nag oedd ganddo ef.

Wrth syllu tua Bae Malltraeth fe welwch ol nerthoedd terfysgodd ieuenctid y byd yn gwasgu'r creigiau ar graig goch ynys fechan.

Ond os bydd y cwstard yn cael ei goginio'n rhy hir bydd y rhaffau protein yn cael eu gludio yn dynnach wrth ei gilydd a bydd hyn yn gwasgu'r hylif allan.

Roedd y broblem yn dechrau gwasgu arno ni, y son am yr Eglwysi, yr enwadau.

Deudwch y dowch chi." Teimlwn ei bysedd byrdew yn cydio yn fy mraich a'i gwasgu.