Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwastad

gwastad

Er mwyn cyfleu hyn ni wna ragor nag awgrymu ffurf y môr, y felin, y tir gwastad gan adael i'r awyr lywodraethu'r darlun cyfan.

Safai'r orsaf reilffordd ar dir gwastad, yn wahanol i orsafoedd dyrchafedig Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd.

Gorwedd y maes uwchlaw'r Wyddgrug ar y ffordd i Wernaffild, a maes hyfryd yw hefyd, eang a gwastad, ac yn ddelfrydol ar gyfer 'Steddfod Bro Delyn.

Yr oedd gwastad y buarth yn is na gwastad y stryd, ac yr oedd o dan y ddau dŷ seleri a ffenestri ganddynt yn edrych dros y buarth i gyfeiriad y stabal.

Ac o ganlyniad y mae'r sawl sy'n credu yn Nuw a'r sawl sy'n gwadu'r gred ar yr un gwastad.

Yn y llun fe welir darn helaeth o dir gwastad o boptu'r afon.

Ond ar y cyfan cyflawnodd y gyfundrefn wasanaeth mawr drwy roi sicrwydd i lefel prisiau allanol mewn byd lle yr oedd prisiau mewnol yn newid yn weddol raddol; ac yn ychwanegol fe orfodwyd ambell i drysorlys i gadw ei fantolen yn fwy gwastad.

Darllenwch ei ryddiaith, naill ai ei ysgrifau beirniadol neu yn ddiweddarach ei Nodiadau Golygyddol yn Taliesin, a'r hyn a welwch yw eglurder meddwl a mynegiant gŵr gwastad, doeth.

Wedi clirio wyneb yr hen fynydd o'r cerrig rhydd roedd yn rhaid cael cynllun i dorri'r graig, ac hefyd rhyw fath o le gwastad fel y medrai'r dynion weithio'r cerrig.

Yn ei chynllun hi bydd pum gwastad i lywodraeth.

Funtauna (ffynhonnau) ydyw enw'r alp eang, gwastad, a'r hafoty uchaf ichwi ei gyrraedd ar ochr ddeheuol y bwlch.

Ar un gwastad mae fel petai (a rhagofal yw'r 'petai' hwn) ef yn dweud fod yr hyn a fu rhyngddo ef a'r ferch - y chwerthin, y tristau a'r tewi, y distawrwydd, yr 'awel wynt', 'cnawd dy law' - fod hyn i gyd yn parhau i fod yn y man lle buont ar ryw fis Medi flynyddoedd lawer yn ol.

Ar yr un pryd, nid yw pob lladd ar yr un gwastad â'i gilydd.

Roedd Mynydd Mwyn yn rhoi iddo gartref a sicrwydd a'r wlad o gwmpas yn cynnig amrywiaeth di-ail o olygfeydd: tiroedd gwastad Môn, wybren lawn golau, mynyddoedd a môr, y cyfan yn newid yn gyson i gyfeiliant y ffryntiau tywydd a sgubai drosodd o'r Iwerydd.

Pan tua thair neu bedair milldir o Memphis, a'r ffordd yn rhedeg drwy ganol meysydd llydain a gwastad o bob tu i ni, gofynnai Mr Eleazar Jones i deithiwr a ddigwyddai eistedd ar ei gyfer, gan gyfeirio at faes ar lechwedd bychan gyferbyn â'r ffenestr, â rhyw fath o growcwellt hir yn tyfu arno, nad oedd Mr Jones yn hollol sicr beth ydoedd, - `Cnwd,' ebe fe, `o ba beth yw hwn ar y maes yna?' Ebe'r dyn, gan godi ei ysgywddau ac ysgwyd ei ben gydag ochenaid, `that is a war crop!' - Cnwd rhyfel ydyw hwnyna!

"Yn nwylo'r bagad o bregethwyr a chlerigwyr, yn gystadleuwyr a beirniaid, a'i cynhaliai ni allai'r eisteddfod lai na bod ar bob gwastad, yn sefydliad ymatalgar a byddai'n annichon i feirdd a llenorion y dosbarth gweithiol a fynnai 'ymddyrchafu' drwyddi droseddu yn erbyn chwaeth...