Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwastraff

gwastraff

CYNIGION: Yn ogystal â dilyn canllawiau adrannol ynglŷn â defnyddio ynni ac adnoddau a rheoli gwastraff, gallai'r Adain ddilyn nifer o faterion.

Ond gwelir y pwyslais o hyd ac o hyd ar y ddadl fonetaraidd gul o 'Proffit, Proffit a mwy o Broffit.' Nid oes angen dweud nad yw'r cyfryngau hyn yn gweld gwastraff gwariant ar y lluoedd arfog.

Gwastraff amser ydi'u hanner nhw, ond mi fyddaf i'n ateb bob un, ond byth yn cytuno i fynd i unlle heb gael sgwrs ar y ffôn â'r dyn y pen arall yn gyntaf.

O ganlyniad i hyn, bydd y gwastraff yn cael ei gludo i safle Cilgwyn, a fydd yn arwain at Lwyn Isaf gael ei gau mewn amser.

Gwelir hen adeiliadau, simneiau, a thomennydd gwastraff yn gysylltiedig â'r gweithfeydd glo a haearn a'r chwareli ym mhobman ar hyd a lled y wlad; ond, yn amlach na pheidio, mae'r hen longau hwyliau wedi pydru ers blynyddoedd yn y dŵ'r hallt, neu wedi cael eu dinistrio neu eu symud er mwyn gwneud lle mewn porthladdoedd.

Mae pren gwastraff yn cael ei losgi i wresogi'r adeiladau ac mae'r glaw yn cael ei ddefnyddio hefyd yn ein toiledau, meddai Rhodri Clwyd Griffiths, Swyddogol Gwyddoniaeth.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn dweud mai gwaith dur Llanwern ger Casnewydd sy'n cynhyrchu'r gwastraff gwenwynig ucha yng Nghymru a Lloegr.

Daeth dan feirniadaeth hefyd oherwydd "gwastraff arian" gyda chyfaill o'r enw Kevin Myers, colofnydd gyda'r Irish Times, y beirniad halltaf a mwyaf huawdl.

CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Iechyd Amgylchedd yn egluro'r drefn o ganiatau trwyddedau gwaredu gwastraff.

(a) Safle Pwlfereiddio Gwastraff, Llwyn Isaf, Clynnog CYFLWYNWYD

Mae'r carbohydradau ynddynt yn symbylu cynhyrchu ensymau treulio; y selwlos yn hybu symudiadau cyhyrau'r cylla; a'r alcalinedd yn cynorthwyo gwaredu deunydd gwastraff.

Mae cynhyrchu a rheoli gwastraff yn rhan ganolog o hyn.

Roedd peirianwyr yn gosod sustemau dŵr a charthffosiaeth tra bod rhai'n codi llwybrau neu'n clustnodi rhannau arbennig o'r caeau ar gyfer sbwriel a gwastraff.

Bydd hyn yn effeithio ar feysydd fel llygredd, ynni a defnydd adnoddau, gwarchod natur a'r tirwedd a rheoli gwastraff.

Mae'r dewisiadau yn lle mawn yn cynnwys compost heb fawn, rhisgl, llwydni dail, gwrtaith anifeiliaid a gwastraff y cartref (ar ffurf compost).

y broblem yw penderfynu pryd y mae stori yn tyfu'n ddigon hir i fod yn nofel ond gwastraff amser yw poeni am bethau fel na.

(Mae pry genwair yn gallu bwyta gwastraff gegin ac yn gadael gwrtaith defnyddiol).

A phan eir ati o ddifrif i argyhoeddi dynion mai gwastraff o adnoddau ymborth prin yw porthi anifeiliaid i'w bwyta, yn hytrach na bwyta'r llysiau a'r blawd a borthir iddynt yn uniongyrchol, byddai gwrthwynebu'r ymdrech, o'm safbwynt i, yn amhosibl.

Pan welant gorff Alcwyn dywed Maelgwn Magl mai gwastraff amser fyddai dy ddwyn i lys barn ac mai'r unig beth i'w wneud yw dy grogi ar unwaith.

Mae'r gwastraff yn cael ei bentyrru'n uchel, a phridd yn cael ei daenu drosto o bryd i'w gilydd.

Mae'n well gan lawer o bobl ddefnyddio porthiant planhigion naturiol a wneir trwy bydru gwastraff llysieuol, gweddillion bwyd a throiadau gwair mewn tomen gompost neu dail.

Gwastraff ar amser!

Penderfynwyd derbyn y tendr isaf, a oedd yn rhoddi manteision ariannol sylweddol, a gyflwynwyd gan Gwmni Gwastraff Môn Arfon (cwmni a sefydlwyd ar y cyd gan Gynghorau Bwrdeistref Ynys Môn ac Arfon), yn hytrach na thendr Cwmni Llwyn Isaf Cyf.

Mae'r Grwp yn cefnogi defnydd cerrig mâl eilaidd am y rhesymau hyn a rhesymau eraill, ac eistedda Arweinydd y Grwp ar grwp llywio prosiect ymchwil o eiddo Adran yr Amgylchedd, ar ddefnydd a defnyddiau amgen ar domennydd gwastraff llechi a'r modd y gellid eu trin.

Na gwastraff ar amsar gwerthfawr, yn ymylu ar bechod oedd chwaraeon i'r hen bobol." A dyna ni'n dau yn ymroi i gyd-fwynhau orig o atgofion maboed cyn i Gruff orfod troi am adref.

O bryd i'w gilydd meddiennid Elystan â'r meddyliau rhyfeddaf a 'doedd ryfedd i'r Cripil ddannod iddo mai gwastraff amser oedd ei holl

Fel cyrsiau eraill y Coleg bydd y cyrsiau diploma hefyd yn rhan o'r cynlluniau arfarnu rheolaidd a drefnir gan y Pwyllgor Sicrhau Ansawdd pan roddir ystyriaeth i ddangosyddion ystadegol (ceisiadau, derbyniadau, canlyniadau, gwastraff etc.), adborth myfyrwyr, adroddiadau arholwyr allanol, staffio ac adnoddau.

Cyfeiriodd at gwestiwn y llynedd ynghylch trefniant gwaredu gwastraff i'r dyfodol drwy ddweud bod y Cyngor wedi derbyn dau dendr ac wedi ystyried adroddiad manwl ar y tendrau.

Mi fu'r rhieni'n protestio yn agoriad swyddogol yr estyniad gan ddweud mai gwastraff arian oedd adeiladu'r estyniad os na fydd yna athrawes i lenwi'r dosbarth.

Bowen, yn afrad o ddihidio, yn taro chwechau i'r dde a chwechau i'r chwith...ie, a gwastraff ar amser fyddai iddi hi gredu y byddai e'n ei derbyn yn ôl unwaith eto, o ie.

Ers degawdau bellach, mae pobl wedi edrych ar y môr fel rhyw domen sbwriel gyfleus i'w gwastraff.

RHEOLI GWASTRAFF: Gall is-gynhyrchion cloddio mwynau gael effeithiau andwyol sylweddol os na chânt eu hail-ddefnyddio, eu hail-brosesu neu eu gwaredu'n ddiogel ac mewn modd heb fod yn rhy amlwg.

Ac yn y rheolau sy'n dilyn, gwaherddir torri addewid, amharchu'r Saboth, glythineb mewn bwyta ac yfed, gwisgo dillad ffasiynol sy'n meithrin balchder, anlladrwydd a gwastraff.

Hwyrach fod pob gwastraff yn ymddangos yn fwy o bechod i Gardi nag i neb arall, ac mae angen esbonio o ble y daeth y syniad fod yn rhaid prynu llyfrau Cymraeg wrth y cannoedd, ac mai llyfrau Saesneg yn unig oedd angen eu prynu bob yn dri neu ddeg ar y mwyaf!