Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwatwar

gwatwar

Yn Iwerddon, fe fu gwrthwynebiad, beirniadaeth, a gwatwar y sianel newydd-anedig.

Hyn hefyd a greodd y rhwyg yn enaid y Cymro cyfoes, yr ysgariad rhwng y bersonoliaeth sy'n ymhyfrydu yn ei rhyddid, yn gwatwar hen safonau moesol a chonfensiynau cymdeithasol y gorffennol, ac eto'n byw mewn byd wedi ei reoli gan ddeddfau diwrthdro lle mae'n hawdd credu gyda'r astrolegwyr fod ein tynged yn dibynnu ar gylchdro'r sêr a chyfosodiad eu cysawdau ac nid ar ras Duw - Duw sydd bellach wedi ei garcharu yng nghelloedd cyfrin ein profiad preifat personol.

Ond yr ydych etto yn dilyn y cnawd, yn canu carolau i gyffroi eich chwantau, yn darllen llyfrau bydron anllad, ac yn gwenwyno y gwreiddyn pur, yn dilyn tafarnau, a thablerau, a llwon...yn dibrisio'r tlawd, yn byw yn hoyw, yn nhommen masweidd-dra, yn gwatwar sobrwydd...yngwely'r buttain, mewn gwleddau a glothineb, mewn meddwdod, a chwerthin, mewn cydorwedd a chywilydd...Deffro, Cyfod.

O'n cwmpas, cannoedd o lyffantod mawr yn crochlefain ac wrth ein pen yn y goedwig, yr adar lliwgar yn gwatwar fel tonic solffa.