Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwcw

gwcw

Hêd y gwcw, gwna un siwrne, Hêd ymhell i'r dwyrain dir, Dal ar linell haul y bore, Ar dy aden dal yn hir; Gerllaw Tigris, er mor anodd, Dyro gân o gôl y gwynt, Yn yr anial, yno tawodd Un a ganodd lawer gynt.

Dyma ddau bennill o'i gerdd 'Hêd y Gwcw':

Amser y Gwcw.

Yr oedd chwant cnoi yn ei ddannedd; y poer tan daflod ei enau yn wyn a phluog fel poer y gwcw; ei ben yn boen a'i gorff yn llesg ac yn llaith ac yn darfod o fodfedd i fodfedd.

(Myfyrdod ar y gwcw lwydlas neu'r aderyn prengoch glas (o wyn elltydd Dover draw), neu'r hudol Dr Red(efallai)waed o Gaint - o waldiwch fy mhen hefo potel sôs coch (neu salad crîm), yr wyf ar ganol hynllef gyda'r waethaf...

Roedd yn siŵr na fyddai'r hen gwcw yna wedi cefnu ar Rod pe bai hi'n mynd allan gydag e.

Ffaldi-rai-tai-to, mae'r Blw-byrd (dur) ar ben ei ddigon hefo Cymru fach - fel y gwcw lawen lwydlas ar ei nyth newydd, ac yn wir yn Sonnig, ar lannau Tafwys dlawd y trig mewn bwthyn bach distadl, yntau yno wedi agosa/ u cryn filltiroedd at Gymru o fro ei febyd yng Nghaint, wedi symud yno'n fwriadol i ragddisgwyl am y job.