Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwddf

gwddf

Fe â'r firws i mewn trwy'r geg a'r gwddf, ac wedyn mae'n cynyddu yn y corff mewn celloedd arbennig am ddeng niwrnod cyn ail-gyrraedd y gwaed ac achosi pothelli ar y croen a thu fewn y gwddf.

Roedd pawb wedi'u gwisgo mewn siaced brown a'r rheiny'n botymu'n glo\s at y gwddf, a throwsusau brown gyda lastig yn cau'n dynn am eu fferau.

Trawodd ef sawl gwaith yn erbyn y wal a theimlai ei ddwylo'n tynhau am y gwddf main bob tro.

Roedd egni bywyd yn gryf yn y llygaid tywyll, a doedd dim rhwnc yn ei gwddf.

Dechreuodd feichio crio wedyn a brysiodd Sharon ati hi a mynd i roi ei breichiau am ei gwddf.

Roedd ganddi dalcen cadarn a thrwyn hir main a gwelodd Llio ei gwefusau llawn yn toddi'n llinell i'w gwddf hir.

Petae dolur gwddf gan un person, maen siwr gen i y bydde pawb yn cael dolur gwddf.

Ond mi g'ledais fy nghalon, a chau botymau'r ffrog i'r gwddf.

Gwnaeth Joni ei wddf yn dew fel gwddf hipopotamws, a'i gorff yn fain fel corff jira/ ff.

Ni thrafferthai'r wraig ei wthio'n ôl i'w le; daliai goler ei chot ar gau yn dynn wrth ei gwddf â'i llaw dde a chariai fag siopa lledr coch yn ei llaw chwith.

Tri thei o'r dror acw, wedi eu clymu yn ei gilydd oedd am ei gwddf" Gwaethygodd y briwiau bob awr ar garlam gwyllt.

Fe gawson ni ein bygwth tra'n ceisio ffilmio gŵr oedd wrthi'n torri camel yn ddarnau, yr anifail wedi'i rannu'n goesau, pen, gwddf a thafelli o gig coch ac ar fin cael eu hongian ar un o stondinau prysur y farchnad.

Pa fedal fyddai fyth yn ddigon cymwys ac addas i hongian o gylch ei gwddf fel teyrnged i'w dewrder yn sefyll yn yr adwy i'n hatal ni y gwþ þ ie, y rhai cryfaf, i fod þ rhag llwyr golli ffydd a mynd ar ddisberod gyda'r genfaint foch?

Roedd hi fel petai yn ymestyn ei phen a'i gwddf allan.

Cyfyd braidd lwmp i'm gwddf yn awr wrth gofio'r awr.

Mae'n rhy boeth yma i ddyn â gwaed yn ei wythiennau." Sefais a thynnais fy ngh^ot oddiamdanaf a thynnais fy hances boced allan a sychais fy wyneb a'm gwddf a chefn fy ngarddyrnau.

Daeth Miss Lloyd i agor y drws a rhyw gochni tywyll anarferol yn llenwi ei hwyneb ac yn lledu i lawr ei gwddf.