Hyd yn oed wrth droi'n ddiweddar at destunau'n nes adref yng Ngwent am ysbrydoliaeth, mae gweddillion chwareli mewn llefydd fel Clydach, heb fod ymhell o'r Fenni, wedi galluogi Bert Isaac i barhau â'r thema.
Er rhyddhad iddo gwelodd ddau ben yn dod i'r golwg yn y trochion dŵr o gwmpas gweddillion yr hofrennydd.
A dyma nhw - gweddillion un o'r byddinoedd ag yr ydym wedi bod am y pedair blynedd ddiweddaf yn siarad yn eu cylch - yn dilyn eu camrau o fan i fan, brwydr ar ôl brwydr - dyma hi!
Y mae'n ddiamau mai yn nhemlau Angkor y claddwyd eu gweddillion ac y cedwid y cof amdanynt hwy ac am ogoniant eu cyfnod.
Darganfuwyd gweddillion yn Llansantffraid a'r Gors-goch sy'n awgrymu bod unwaith Wyddelod, ychydig ohonynt o leiaf, yn byw rhwng Dyfi a Theifi.
Argymhellir y diffiniad canlynol ar gyfer dibenion y papur hwn, sef bod archaeoleg môr yn wyddor, lle cyfunir sawl disgyblaeth gan geisio cynyddu ein gwybodaeth am weithgareddau morwrol dyn drwy archwilio gweddillion llongau a safleoedd tanfor.
Y prif broblem oedd dull yr ymchwiliad; eisoes bu sawl ymdrech i ddarganfod gweddillion llongau yn aflwyddiannus oherwydd y cerrynt cryf a maint y Swnt ei hun.
Dro arall, chwarddai peilot Messerschmitt wrth weld awyren o Brydain yn ffrwydro, a'r gweddillion yn plymio fel tân gwyllt i'r môr.
Gosodwyd ei weddillion yn y gladdgell ym mynwent eglwys Penbre ac yno y mae gweddillion y Bowsers o'r cylch i gyd ar wahân i'w ferch Elisabeth.
Claddwyd y gweddillion ym mynwent Pencoed.
Pan ddarganfuwyd gweddillion y Santa Maria de la Rosa (is-longfaner sgwadron Guipuzcoan yr Armada) prin y gellid ei chanfod ar wely'r môr gan mor llwyr yr ymdoddai i'w hamgylchedd.
Ynys o graig a'i bilidowcars yn teyrnasu arni, y goleudy'n gannaidd, amlinell croes Dwynwen ar las y nen, gweddillion ei heglwys yn swatio yn y pant a bae bach perffaith oddi tanoch.
Yn un llun gwelir sgrîn deledu yn dangos gweddillion tū a chwalwyd mewn ffrwydrad - tū un o fodrybed david Gepp un Belffast, a oedd yn ffodus i beidio â bod yno ar y pryd.
Mor wrthodedig y gweddillion gwair yn y preseb, a'r sarn anniben, a'r sodren aflan.
Eid ar bererindodau i eglwysi lle y ceid delwau enwog o Grist neu o Fair neu lle y cedwid gweddillion saint.
Mae'n well gan lawer o bobl ddefnyddio porthiant planhigion naturiol a wneir trwy bydru gwastraff llysieuol, gweddillion bwyd a throiadau gwair mewn tomen gompost neu dail.
Claddwyd Ann Parry gyda'i gwr ym Mynwent Eglwys Llanrhaeadr, a digwyddodd rhywbeth hynod iawn ynglŷn â gweddillion corff y wraig hon.
Rhoddwyd ei gweddillion i orffwys ym mynwent Trefriw.
Heddiw mae gweddillion ymylon y ceudwll hwnnw i'w gweld mewn hanner cylch o glogwyni sy'n codi'n serth dros fil o droedfeddi o'r môr.
Claddwyd ei gweddillion ym mynwent Eglwys Llangynwyd.
Yma y gorffwys gweddillion yr hen a'r ifanc o bob rhyw, meistr a gwas, y medrus a'r anfedrus.