Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gweddol

gweddol

Gweddol rwydd fyddai ymestyn y model dechreuol i gynnwys sector y llywodraeth a sector masnach tramor yn ogystal â'r sectorau gwreiddiol, sef teuluoedd a chwmni%au.

mater gweddol hawdd wedyn oedd i weithwyr y telegraffau yn y ddau ben diwnio eu peiriannau mewn cytgord a'u gilydd, trwy wrando ar y nodau.

Mae Moss a Morse yn enwau gweddol gyffredin yn yr hen Sir Benfro.

Nid oedd darpariaeth mor gyson yn Lloegr, Ffrainc, a Gwlad Belg, ond golygai cyflwr cymharol ddatblygedig y gwledydd hyn fod canran gweddol fawr o'r plant yn cael addysg o ryw fath, er nad oedd hyn mor wir am y taleithiau ymylol fel Cymru neu Lydaw, o bell ffordd.

Gan fod cymaint ohonom, cymaint o unedau gweddol unffurf, mae yna debygolrwydd fod y rhan fwyaf o'r hil yn mynd i ymateb mewn modd y gellir ei ragfynegi gyda pheth sicrwydd.

Dywedodd Sue Hopwood fod yr ystadegau yn parhau i gynyddu, ond i fis Rhagfyr fod yn un gweddol dawel.

Dylai'r toddiant fod yn hylif ar dymheredd gweddol isel oherwydd fel y cynydda'r tymheredd mae molecylau cymhleth yn dechrau ymchwalu.

Symudai'r arian yn gyflym o law i law, a dyna'r unig grţp gweddol dawel yn y lle i gyd.

'Roedd seicdreiddiaeth a seicoleg yn bynciau gweddol newydd yn y dauddegau, a phobl yn dechrau dod i ddeall syniadau Freud, a phroblemau fel gwallgofrwydd.

O fewn ffiniau rhesymol gall y rhain fod yn unrhyw rif ond mae'n bosib eu mesur yn ddidrafferth gydag offer gweddol syml.

Ar ôl y pum mlynedd cyntaf gweddol dawel, cyffrowyd awdurdodau'r Brifysgol a'r esgobion fwyfwy yn erbyn y mudiad gan nifer o ddigwyddiadau.

Amrywiai'r ysgolion hyn yn ddirfawr o rai gweddol dda i rai a gynhelid mewn ystafell fechan dywyll gan hen wraig a wyddai efallai air neu ddau o Saesneg, ac o'r herwydd yn cael ei chyfrif yn ysgolhaig.

Yn y blynyddoedd diwethaf mae cyffuriau gweddol effeithiol tuag at hwnnw wedi eu darganfod ond, serch hynny, mae'n hanfodol fod y frech hefyd yn cael sylw addas.

Rwyn siwr bod chwaraewyr gweddol dda ganddyn nhw achos maen nhw'n chwarae yn y bencampwriaeth yn Awstralia.

Wrth edrych drwy'r ffenestr a gweld yr eira yn fantell drwchus dros y tir, a chofio fel y bÉm bron â sythu wrth aros am y trÚn ym Mhenybont, penderfynais y byddai'n well i mi gael lle gweddol gynnes.

Ar ôl cyfnod gweddol lewyrchus yn hanner cyntaf y pumdegau dan y Llywodraeth Geidwadol, dechreuodd yr economi wegian unwaith yn rhagor.

Ymddangosodd crochan gweddol o faint wrth droed fy ngwely, a'r un mor ddisymwth dyma bob math o bethau yn hedfan i mewn iddo!

Roedd y tyllau'n wahanol eu maint yn ôl sefyllfa'r graig; byddai twll gweddol fychan ei hyd yn ateb y pwrpas weithiau, tra byddai eisiau twll mwy dro arall.

Roedd blagur bambw yn fwyd gweddol faethlon, a diolchais iddo am ei gynnig.

Ac os gwelir gwelliant gweddol, yna mae rhywun wrthin holi pan na wnaethon ni yn well.

Mater gweddol syml fyddai trosglwyddo copi%au o ganllawiau polisi pob sefydliad i'r Bwrdd hefyd.

Mewn cyfnod gweddol fyr, mae gwyddoniaeth wedi rhannu'r byd yn ddau.

Os mai eich syniad chi o daith ddaearegol yw i fynd allan i edrych ar haenau gweddol amlwg o greigiau er mwyn dod o hyd i olion deinosoriaid, yna dyma'r daith i chi!

Y dref gyntaf o faint gweddol yr aethom trwyddi oedd Plzen.

Morris Lewis yrfa ddiddorol a chyffrous yn ei ddewis waith ac yn siaradwr Cymraeg yn oedd o frethyn gweddol anghyffredin fel swyddog carchar.

Roedd mewn oedran teg, bryd hynny; yn hen ŵr gwargam, gweddol dal, ac yn gwisgo capan bychan du - tebyg i'r rhai a welir gan Iddewon.

Roedd e'n byw mewn tŷ gweddol fawr ar yr Orsaf 'ma - hen dŷ oedd yma cyn i ni gyrraedd; Craig-y-don yw 'i enw fe ...

Mae'r affwysol-dlawd a'r gweddol-dlawd a'r dosbarth canol i gyd yn cymysgu'n rhydd ar y platfform - wel, does fawr o ddewis - ond y tlawd yw'r garfan fwyaf niferus o lawer.

Felly, ni all organebau byw fodoli ar ffurf nwyon, oherwydd molecylau gweddol syml yw nwyon, ac os anweddir unrhyw gyfansoddyn cymhleth trwy ei wresogi, bydd yn dadelfennu.