Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gweddu

gweddu

Felly mewn ffordd roedd o'n benderfyniad hollol bragmatig, ond fel mae'n digwydd mae o'n bendant yn rhywbeth yr ydw i'n cael cic ohono fo, felly mae o'n gweddu i'r dim.

Yn y pnawn roedd Meic Stevens yn perfformio ac er iddo fo ddweud ei fod wedi cerdded bob cam o Gaerdydd heb fy ffon yr oedd ei berfformiad yn gwbl bleserus - do, fe gafwyd y clasuron Dournanez a Môr o Gariad, ai lais rywfodd yn gweddu i awyrgylch yr Wyl.

Ceir yma arddull wahanol i Carreg, gan fod y penillion yn weddol acwstig eu naws, ac yn sicr mae llais Mei yn gweddu'r math yma o gerddoriaeth yn well.

Ar adegau fel hyn mae'n drueni nad oes gan unrhyw eiriadur air Cymraeg sy'n gweddu, am y gair Saesneg, indignant.

Fe fyddwn i'n dadlau fod Eirin Peryglus yn gweddu i ddiwedd yr 80au a dechrau'r 90au, tra bo Llwybr Llaethog o flaen eu hamser.

Rhywsut roedd hynny yn gweddu i Mike England, ac yn wir cyn hir dechreuodd rhai o'r chwaraewyr sôn amdano fel "Howdy!".

Yn sicr mae'n ddiddorol, os nad yn arbrofol tu hwnt, ond nid yw'n gweddu gweddill yr albym yn ei chyfanrwydd.

Efallai ei fod o'n iawn i chwaraewyr rygbi blewog ruthro ar ei hyd a'i led ond doedd o ddim yn gweddu gystal ar gyfer y rhai hynny sy'n cicio yn hytrach na thaflu pêl at ei gilydd.

Roedd y gymeriadaeth wedi ei hangori mewn hen chwarelwr cwbl gredadwy (o Ddeiniolen, mae'n siwr!) Roedd rhythmau iaith lafar John Ogwen yn gweddu yn gwbl fanwl i rythmau cryf y sgrifennu a'i gymeriad yn rhan o'r gymdeithas a ddisgrifiwyd mor hoffus gan Gwenlyn ei hun yn y rhaglen fywgraffyddol a gyflwynodd y gyfres.

Ar wahân i hynny mae Clockwork yn plesio'n arw, ac mae hi'n brawf pellach o'r ffaith fod cerddoriaeth ysgafnach yn gweddu Gwacamoli i'r dim.

Teimlwyd yr angen oherwydd nad oedd y label Sain, bellach, yn addas, nac yn gweddu o ran delwedd i rai grwpiau newydd, cyffrous, oedd yn ffurfio.

'Tric rhad', meddech, ddim yn gweddu i ddifrifoldeb meddwl cynulleidfa theatr 'genedlaethol.' Mae'n anodd i awdur llwyddiannus anwybyddu'r elfen o wirioni plentynnaidd sydd yn rhan o theatr.