Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gweddus

gweddus

Os caf aralleirio Orwell a dweud bod pawb yn unigryw ond bod rhai yn fwy unigryw na'i gilydd, gweddus dweud bod Bedwyr yn un o'r mwyaf unigryw.

Nid gweddus felly difri%o saint Duw, ni waeth i ba enwad y maent yn perthyn.

Ar ei ysgwyddau ef fynychaf y rhoddid y cyfrifoldeb i feithrin parch ac ymarweddiad gweddus ymhlith ei blant.

Wedi fy arswydo gan dlodi difenwol fy mhobl sy'n byw mewn gwlad gyfoethog; wedi fy nhrallodi gan y modd y cawsant eu hymylu yn wleidyddol a'u mygu yn economaidd; wedi fy nghynddeiriogi oherwydd y difrod wnaed i'w tir, eu hetifeddiaeth gain; yn pryderu tros eu hawl i fyw ac i fywyd gweddus, ac yn benderfynol o weld cyflwyno trefn deg a democrataidd drwy'r wlad yn gyfan, un fydd yn amddiffyn pawb a phob grwp ethnig gan roi i bob un ohonom hawl ddilys i fywyd gwâr, cysegrais fy adnoddau deallusol a materol, fy mywyd, i achos yr wyf yn credu'n angerddol ynddo, ac ni fynnaf gael fy nychryn na'm blacmêlio rhag cadw at yr argyhoeddiad hwn.

Tydi a blannodd y dalent yn eu calonnau a gweddus yw inni dy gydnabod Ti yn ddiolchgar am gynnyrch eu doniau.

Wedi rhoi i Feibl yr Esgob Morgan y clod a haedda, gweddus yw inni nodi rhai gwendidau ynddo, gwendidau a gywirwyd gan y Dr John Davies.

Hyd heddiw ymhlith rhai pobl, yn arbennig y to hyn, ceir cred nad gweddus mynd allan i 'wydd pobol' wedi cyfnod o salwch heb yn gyntaf fynd i'r capel neu'r eglwys i ddiolch.