Roedd gweddill ei wyneb yn fasg difywyd, gyda'r gwefusau di-waed, y trwyn miniog, yr arleisiau wedi pantio a gwaelodion y clustiau yn troi tuag allan sydd yn arwyddion o farwolaeth yn agosau.
Heb boeni dim am neb a allai fod yn gwylio, plygodd ei phen yn ôl a'i chusanu'n boeth ac yn galed, nes brifo'i gwefusau.
'Mae'n ddigon hawdd gweld y gwahaniaeth,' meddai yntau'n fyfyrgar, gan syllu ar ei gwallt, ar ei llygaid mawr agored, ei gwefusau llawn addewid.
Yma mae niwl nychlyd yn gysgod, ond un sy'n glynu fel glud ar groen a dilledyn, ac yn chwyrlio yn chwil o dan y ffroenau cyn ysgubo dafnau cydrhwng gwefusau i ymosod yn ddireidus, fel cusan cariadus, ar y drefn sy'n gyfrifol am gwrs yr anadliad.
Taenodd ei fysedd dros ei grudd ac yna teimlodd ei gwefusau yn cyffwrdd ei ên ac yna'n dod o hyd i'w wefusau ef.
Ond cyn cyrraedd y terfyn hwnnw rhaid i Rafe syrthio mewn cariad ag Evelyn (Kate Beckinsale) nyrs brydweddol y mae ei gwefusau cyn goched â'r haul a'i belydrau cochion ar faner wen Siapan.
Roedd ganddi dalcen cadarn a thrwyn hir main a gwelodd Llio ei gwefusau llawn yn toddi'n llinell i'w gwddf hir.
Yr oedd wedi ei choluro ei hun fel doli, ei hwyneb yn wyn, ei gruddiau'n goch tywyll a'i gwefusau yn goch golau golau.
Llithrai geiriau yn ddilyffethair dros eu gwefusau i ysgafnhau'r oriau ac yr oedd y ddau fachgen yn glustiau i gyd.
Cyffyrdded dy Ysbryd Sanctaidd â'n calonnau nes bod gorfoledd yn dygyfor ynddynt a gwefr yr iachawdwriaeth yn troi'n gân ar ein gwefusau.
Wedi i bethau dawelu rhywfaint rhyngddynt, cytunodd y ddau fod popeth drosodd yn eu priodas ac aeth ef i olchi dillad y plant tra bu hi'n golchi'r gwaed o'i cheg a'i gwefusau.
Gwelwn ar unwaith mai'r un persona sydd gan adroddwr y bryddest a'r bardd ei hun mewn ambell gerdd arall: wrth gyfeirio, er enghraifft, at hen bobl nad ydynt yn awr ddeifiol hon ond gwefusau carpiog yn y gwynt a'r lleill y calonnau aeddfetgoch a'u chwerthin yn deilchion yn y brwyn a'r gwallt ar chwal.
Rhoddodd y gusan a fynnai hi ar ei gwefusau a'i gleuo hi am allan.
Pletiodd ei gwefusau.
Roeddent yn loyw wlyb rhwng ei gwefusau main, gor-dyn.
Mor dyner oedd ein horiau olaf gyda hi - ti'n dal ei llaw wan a minnau'n gwlychu ei gwefusau a'th dad yn cadw cynnull yn y Neuadd Fawr.
Ar adegau felly, cyn sicred â dim, y mae gên y gohebydd druan yn tueddu i rewi a'r gwefusau'n crynu wedi oriau'n gwagsymera yn yr oerni, gan wneud y dasg o adrodd yr hanes gerbron y camera'n un hynod boenus.