Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gweinyddiaeth

gweinyddiaeth

fel aelod o'r Is-bwyllgor Gweinyddiaeth a Rheolaeth ac yn hapus i gynorthwyo gydag unrhyw ymholiad y bydd gan CCPC.

Pedro Bisset Puebla oedd pennaeth brigâd Gweinyddiaeth Fasnach y llywodraeth.

Credwn felly mai newid sylfaenol ym mholisi iaith gweinyddiaeth y Cyngor sydd ei angen, yn hytrach na newid polisi penodiadau.

Mae Gweinyddiaeth Amddiffyn Lloegr newydd gyhoeddi ei bwriad i ehangu mastiau a gwifrau ei pharatoadau rhyfel ar ochr Mynydd y Rhiw.

Ni welwn fawr ddim diben mewn gwneud y Gymraeg yn brif gyfrwng addysg holl ysgolion Categori A y sir, oni ddaw'r Gymraeg wedyn yn brif iaith gweinyddiaeth gyhoeddus a mewnol ein prif sefydliadau.

Yn ogystal ceir cyhoeddiadau sy'n gysylltiedig a gweinyddiaeth a rheolaeth yr amryw gymdeithasau bridiau - y rheolau, yr adroddiad blynyddol, y fantolen ariannol a meysydd cysylltieding eraill.

Mae bron draean yn mynd ar grantiau a'r gweddill ar gyfer gweinyddiaeth.

Y mae defnydd ohoni wedi'i chyfyngu i'r llafar gan nad oes iddi ffurf ysgrifenedig gydnabyddedig na gramadeg sustematig, na dim o'r offer ieithyddol ychwanegol fyddai ei angen i'w haddasu'n iaith ar gyfer addysg, gweinyddiaeth a defnydd swyddogol ffurfiol.

Os penderfynir mai'r Gymraeg yw prif iaith gweinyddiaeth fewnol adran o'r cyngor, fe ddilyn yn naturiol fod yn rhaid wrth swyddogion Cymraeg a hynny er mwyn effeithlonrwydd gweinyddol.

Rhaid trawsnewid y diwylliant sy'n cadw'r Gymraeg ar y cyrion a sefydlu'r Gymraeg yn elfen integredig o bob agwedd ar bolisi, gweinyddiaeth a gwasanaeth yng Nghymru.

Mae'r Cynigion hyn yn ymwneud â: · Gweinyddiaeth fewnol Cyrff yng Nghymru · Y Gymraeg yn y Cynulliad Cenedlaethol · Y Cyfryngau a iaith y Cyfryngau yng Nghymru · Gwasanaeth Suful Cenedlaethol i Gymru · Papur Dyddiol Cymraeg · Addysg Bellach yng Nghymru · Tai a Chynllunio yng Nghymru · Cymreigio Cyfrifiaduron Nid cynigion yn unig fydd yn cael eu trafod yn y Cyfarfod Cyffredinol.

Mae'r Cyfarfod Cyffredinol yn cyfarwyddo pob Rhanbarth perthnasol i ymgyrchu dros newid iaith gweinyddiaeth fewnol yn ein hardaloedd - fel y byddwn yn symud ymlaen at sefyllfa lle bu llywodraeth leol yn yr ardaloedd Cymraeg yn cael ei weinyddi trwy gyfrwng y Gymraeg.

Galwn felly am fabwysiadu strategaeth gynyddol i wneud y Gymraeg yn brif iaith gweinyddiaeth fewnol y Cyngor Sir - gan ddechrau yn syth yn yr Adran Addysg, ac yn ymledu dros gyfnod rhesymol i Adrannau fel Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyfathrebu, Cynllunio nes cwmpasu pob adran gan gynnwys Swyddfa'r Prif Weithredwr ei hun.

(ii) Bod y Cyngor newydd yn sefydlu polisi iaith cryf er sicrhau gweinyddiaeth trwy'r Gymraeg ac yn anelu trwy benodi ac hyfforddi bod pob un o'r swyddogion â gwybodaeth o'r iaith Gymraeg.

Bellach mae bron pob plentyn ysgol yn dysgu rhywfaint o bynciau o leiaf trwy gyfrwng yr iaith ac mae rhaglenni uchelgeisiol i newid iaith y gweithle, iaith gweinyddiaeth, iaith y gymuned a chreu cyfiawnder cymdeithasol ieithyddol.

Un ohonynt oedd yr Oleuedigaeth, a sbardunai lywodraethau (yn arbennig yn ei ffurf wleidyddol, Unbennaeth Oleuedig) i geisio moderneiddio eu tiriogaethau ffiwdal, gan roi gweinyddiaeth ganolog, effeithiol iddynt.

Gellir awgrymu nifer o resymau am y teyrngarwch rhanbarthol hwn, sef twf gweinyddiaeth a datblygiad sefydliadau sirol, cynnydd cyfoedth y bonedd gwledig a'u tuedd gynyddol i briodi aeresau lleol, eu diddordeb mewn hanes, hynafiaeth a chyfraith, a thwf trefi sirol yn ganolfannau cymdeithasol, diwylliannol a gweinyddol.