Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gweinyddu

gweinyddu

Jones yn gweinyddu'r cyfan.

Y Bwrdd Hyfforddi sy'n gweinyddu'r profion bellach a Choleg Meirionnydd gyda Llewelyn Evans a Dewi W.

Mae hon yn foment dyngedfennol sy'n dangos yn glir bellach mai twyll oedd datganoli i hwyluso gweinyddu polisiau Llundain yng Nghymru, yn hytrach na chymryd y cam cyntaf tuag at ffurfio polisiau datganoledig gwirioneddol Gymreig.

Mae holl weinyddiaeth y Cynulliad yn dal i ddilyn patrwm Saesneg y Swyddfa Gymreig ac yn dibynnu ar gyfieithu yn hytrach na cheisio newid diwylliant a sicrhau gweinyddu dwyieithog effeithiol.

Ni fyddai'n dderbyniol i'r Pwyllgor fod cyfrifoldeb strategol yr awdurdod addysg lleol am ddarparu a gweinyddu ystod o sefydliadau, gan gynnwys ysgolion penodedig Cymraeg, yn cael ei ddileu a'r cyfrifoldeb yn cael ei roi i gynghor cyllido enwebedig newydd.

Mae rheolaeth leol ar gyllid a dyletswyddau cynyddol o ran gweinyddu ac asesu'n gosod baich aruthrol ar brifathrawon sydd bellach â'r cyfrifoldeb statudol o gyflawni'r holl ddyletswyddau hyn yn eu hysgolion nhw.

Yno y mae eglwys y plwyf ers yn fore iawn; hon oedd canolfan gweithgareddau'r Festri am ganrifoedd, a gweinyddu'r offeren.

Wedi chwarter canrif o brofiad gwelwn mai gwaith cyson y Swyddfa Gymreig - ar wahan i'w chyfrifoldeb am y Gymraeg - yw (a) gweinyddu gyda help y cyrff annemocrataidd sydd dan ei rheolaeth, bolisiau craidd Adrannau nerthol Whitehall, boed y polisiau yn gyson â'n dyheadau yng Nghymru a'i peidio, a (b) cymryd cyfrifoldebau iddi ei hun a ddylai fod yn nwylo cynrychiolwyr etholedig y bobl.

ff) Gweinyddu is-bwyllgor cyhoeddusrwydd CYD a gweithredu'r penderfyniadau a wnaed.

Y perygl amlwg yw fod y Ddeddf Seisnig hefyd yn cynnwys Cymru, sy'n golygu mai unig rôl y Cynulliad fydd gweinyddu polisiau wedi eu llunio yn Lloegr.

Gwaradwydd o benderfyniad gan unrhyw gorff sy'n honni gweinyddu cyfiawnder.

At ei gilydd, mae gweinyddu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn ffenomen gymharol newydd ac er bod defnydd cyhoeddus o'r Gymraeg wedi cynyddu'n aruthrol yn ystod y degawdau diwethaf, nid yw gweithredu drwy gyfrwng y ddwy iaith eto'n beth cwbl arferol a diffwdan.

Priodwyd hwy yn Eglwys annibynol Seilo, Y Felinheli, gyda'r Parchedig RW Hughes (tad Buddug) yn gweinyddu, a Miss Elsie Jones, Dinorwic Villa wrth yr organ.

Costau Gweinyddu a Swyddfa

Y Parchedig John Butler, y Caplan, oedd yn gweinyddu'r Cymun Bendigaid a'r pregethwr oedd y Parchedig Madalain Brady.

Gwerthiant llai costau gweinyddu

Yn ei lythyr heddiw i Alun Michael mae Ffred Ffransis llefarydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar Addysg yn hawlio fod hon yn foment dyngedfennol fydd yn dangos ai twyll oedd datganoli i hwyluso gweinyddu polisiau Llundain yng Nghymru ynteu a gymerir y cam cyntaf tuag at ffurfio polisiau datganoledig Cymreig.

Er bod amrywiaeth fawr yn y ffordd y ffurfiwyd y grwpiau, yn eu dulliau o weithredu ac yn eu ffyrdd o drefnu a gweinyddu'r profion a rhoi cydnabyddiaeth amdanynt, yr oedd nifer o ffactorau'n gyffredin iddynt i gyd.

Gofynnwn iddynt gefnogi'n galwad i ddileu'r Bwrdd Iaith ar y sail ei fod yn Quango a sefydlwyd yn sgîl Deddf Iaith 1993 i wneud dim ond gweinyddu polisïau'r Torïaid ar yr iaith Gymraeg.

Os ydys am weld darparu deunyddiau addysgol yn y Gymraeg yn y tymor byr, ystyrir bod angen manteisio ar sgiliau arbenigol prin y canolfannau ar gyfer gwaith golygu, cyfieithu, dylunio, a chysodi a bod angen manteisio ar brofiad a sgiliau gweinyddu'r cyfarwyddwyr eu hunain, sydd wedi denu a meithrin y sgiliau hyn o fewn eu gweithlu ac wedi sefydlu perthynas weithredol nid yn unig gyda'r gweisg a'r cyhoeddwyr ond gyda'r awdurdodau a'r athrawon unigol.

'Roedd y ffordd y bu rhai awdurdodau'n gweinyddu eu swyddogaeth gynllunio yn annerbyniol.

Yr oedd hwnnw'n galw am fynd yn ôl at symlrwydd y Testament Newydd, gan bwysleisio ochr ddeallusol ffydd, gweinyddu'r Cymun bob Sul a chynyddu nifer yr henuriaid yn yr eglwysi.

Heb gydweithrediad y dosbarth swyddogol hwn o Gymry ni allesid fod wedi gweinyddu na'r Dywysogaeth na'r Mers.

Y perygl amlwg yw y bydd y Ddeddf Seisnig hefyd yn cynnwys Cymru, sy'n golygu mai unig rol y Cynulliad fydd gweinyddu polisiau wedi eu llunio yn Lloegr.

Gweinyddu, pwrcasu, yswirio etc ar ycyd.

Yn wir, gallai pwysigrwydd cynyddol Technoleg Gwybodaeth mewn gweinyddu a chynnal busnes beunyddiol ymhob sector ddod yn fygythiad difrifol o ran hyblygrwydd corff i weithredu'n ddwyieithog, gan mai yn Saesneg yn unig yn aml y mae'r deunyddiau ar gael.

Mae'r ymdriniaeth o'r cwmwd fel yr uned oedd yn sylfaen gweinyddu yr arglwydd Cymreig yn ddadlennol yn ogystal a'r un o'r treflannau.

Gwaith rhaglaw gynt oedd gweinyddu polisi%au'r ymerawdwr.

Y mae pob agwedd - gwerthu, prynu, cynhyrchu, cyflogi, buddsoddi mewn offer, gweinyddu a sicrhau cyfalaf i gyd ynghlwm wrth ei gilydd.