Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gweision

gweision

Serch hynny, ychydig a boenai'r lleidr profiadol o Lundain am dreulio cyfnod o gaethiwed yn Awstralia, ond ystyriai'r gweision fferm yr alltudiaeth gyda'r ansicrwydd eithaf.

Y gwahaniaeth a welodd rhyngddynt oedd hyn: yn yr ardaloedd gwledig o'r braidd y gallai'r gweision fyw ar eu henillion, ac ni allai'r ffermwyr fforddio talu rhagor iddynt.

Cysga'r gweision yn y tai allan (outbuildings), gan fyned i'w gwelyau pan fynnont; gofyn y morwynion am ganiatâd i fyned allan yn y nos ac yna cyferfydd y dynion â hwynt yn y tafarndai; yn y ffordd hon ceir llawer o anfoesoldeb.

Diwrnod mawr i ni pan oeddem yn yr ysgol oedd diwrnod te parti Plas Gwyn (ni allaf gofio y flwyddyn), ond yr arfer oedd te parti yn y pnawn a "concert" gyda'r nos, a byddai wythnosau o baratoi, canu ac adrodd a "drillio%, ac roedd meibion y sgweiar a rhai o'r gweision a'r morynion yn cymryd rhan yn y "concert" mawr yma.

Wrth gwrs fy mod in cydymdeimlo ar pedair mil o blant syn dioddef ond mewn oes pan ydym yn ymddiried cymaint o bethau i gyfrifiaduron y mae rhywbeth yn llesol mewn gweld nad yw y rheini mor anffaeledig ag y mae rhai ou gweision yn tybio.

Yn gynharach yn y flwyddyn, roedd The Office yn olwg dreiddgar y tu ôl i'r llenni ar y Swyddfa Gymreig oedd yn dangos gweision sifil wrth eu gwaith yn datblygu ac yn llywio'r ddeddfwriaeth ac yn trafod cartref y Cynulliad.

Ffermwyr cefn gwlad, ysgolheigion, athrawon a gweision sifil oedd swmp y siaradwyr Gwyddeleg ers oes.

Carlamodd y ceffylau ymlaen drwy giât y Royal Hotel, a'r gweision yno'n rhedeg allan i weld beth oedd wedi digwydd.

Dyna pam roedd Sydna, y forwyn fawr, yr eiliad honno, ar riniog y drws ffrynt yn ceisio boddi y gofid â'i chroeso a'r hwsmon, Obadeia Gruffudd, ar ei liniau ar lawr cegin y gweision yn chwilio am feddyginiaeth wahanol.

Yn y drafodaeth a ddaeth wedyn daeth hi'n amlwg fod y Gymdeithas wedi bod yn eitha' llwyddiannus yn nhermau adeiladu cysylltiadau o fewn y Cynulliad (er enghraifft gyda gweision suful) ac o safbwynt dylanwadu ar y corff ei hun.

Crwydrai'r gweision dibriod dros y wlad yn y nos ac y mae'n ffaith gydnabyddedig fod y morwynion yn eu derbyn i'r tai.

Mae geiriau Gruffydd Robert, wrth gwrs, yn enwog iawn: 'E fydd weithiau'n dostur fynghalon wrth weled llawer a anwyd ag a fagwyd im doedyd, yn ddiystr genthynt amdanaf, tan geissio ymwrthod a mi, ag ymgystlwng ag estroniaith cyn adnabod ddim honi.' A dyma Sion Dafydd Rhys yntau yn mynegi'r un pryder: 'Eithr ninheu y Cymry (mal gweision gwychion) rhai o honon' ym myned morr ddiflas, ac mor fursennaidd, ac (yn amgenach nog vn bobl arall o'r byd) mor benhoeden; ac y daw brith gywilydd arnam gynnyg adrodd a dywedud eyn hiaith eynhunain' - ac ymlaen ag ef i ddiarhebu'r cyfryw bobl mewn iaith braidd yn rhy liwgar i'w dyfynnu yn gysurus yn Hebron Clydach!

Fel y caent drafferth i gadw gweision a morynion, ac yn y diwedd gorfod gwerthu'r ffarm, a'r modd y bu iddynt gweryla'n chwerw, a hynny yng ngŵydd pawb, ar ddydd yr arwerthiant.

Y ffarmwr ei hun, fel rheol, fyddai'n cymeryd y "gwasanaeth", syml hwn, a'r gweision a'r merched yn gwrando ac yn ymuno yn y defosiwn o gwmpas y bwrdd.

Mae'n siwr na fynnai iddynt fyned i'r gwaith glo i golli eu bywydau fel eu tad a'u brodyr, ac nid yw'n debyg y byddai gwaith fferm wedi apelio atynt fel plant tref, hyd yn oed pe na bai ganddi hi wrthwynebiad Mari Lewis i'w phlant fynd yn weision ffermydd: fe gofiwch na welodd honno yn ei bywyd bobl mor ddi-fynd 'a'r gweision ffarmwrs yma', na phobl a llai o'r dyn ynddynt.

Deffrowyd pawb yn y tŷ gan y sŵn a wnai Gwyll, a phan ddaeth y gweision yno gyda'u lampau gwelsant gorff Lowri Cadwaladr eu meistress yn gorwedd yn farw ar y gro o flaen y drws.

Cysgu'n y llofft stabal oedd y gweision un noson ychydig wedyn, pan ddeffrowyd pawb ohonynt gan sūn ceffylau'n carlamu i'r iard, ac yna sūn ratchet brêc yn cael ei dynnu.

Roedd yn rhaid i wraig fonheddig ofalu am ei phlas, gan archebu bwyd, gofalu am yr arian a rhoi gorchmynion i'r gweision wrth iddynt baratoi bwyd.

Fe lofruddiwyd miloedd o ddoctoriaid, gweision sifil, athrawon ac artistiaid.

Pan fo un plaid mewn awdurdod am ddegawd a rhagor yn ddi-dor gall y gweision sifil mewn adran gymharol fychan lithro i rigol meddwl sy'n eu dallu rhag gweld rhinweddau'r gwrthddadleuon.

Er bod yr iaith yn destun gwawd ac ymosod barnwyr ac esgobion a gweision sifil, ni chododd neb i fynnu ei hawliau iddi yn y Senedd nac ar lwyfan.

Ni fedrai gweision cyflog heb gyfalaf, heb fuddsoddiad mewn cymdeithas, fod ag unrhyw deimlad o ymrwymiad, tra tueddai cystadleuaeth y farchnad rydd i ostwng nifer y cyfalafwyr i rif llai a llai o ŵyr gor-gyfoethog.

Gweision fferm oeddynt ill dau, eithr nid eu dwyn yn nes at ei gilydd yw dweud hynny.

Wrth ymadael â'r orsaf, wedi dychwelyd adref o'r coleg ar gychwyn Cysgod y Cryman, mae'n taro'i docyn yn llaw'r gorsaf-feistr fel un sy'n 'gynefin â gweision'.

Yn ôl John Johnes, Ynad, 'ceir llawer o anfoesoldeb rhwng y ddau ryw, yn bennaf ymhlith gweision fferm.

Dyfynnwyd tystiolaeth nifer gan gynnwys y Parchedig Edward Williams, gweinidog yr Annibynwyr yn Llanfair-ym-Muallt a gyfeiriodd at blant anghyfreithlon ym Mrycheiniog a chyfathrach rywiol ymhlith gweision a morwynion ffermydd.

Yn sydyn, cododd Medrawd a tharo'r gong i alw ar y gweision.

Y peth mwya tebygol ydi bod un o'r gweision wedi gadael drws y celloedd heb eu cloi, a'u bod nhw wedi llithro allan a chael hyd i guddfan mewn rhyw fwthyn dinod yng nghanol y goedwig.

Funud neu ddau yn ddiweddarach, pan ddaeth gweision Medrawd heibio i gymryd golwg ar y carcharorion, cawsant fod y ddwy gell yn wag.

Mae'r ystafell gyntaf yn wag er bod yna gryn lanast yno, gyda'r dodrefn ac eiddo gweision Eiryl wedi eu gwasgaru i bob cyfeiriad.

Anfonodd Harri ddau o'r gweision i gladdu'r ceffyl nid oedd yn werth ganddo ofyn iddynt ei flingo.

Dylair cyhoedd fod yn wyliadwrus o'r hyn y mae gweision sifil yn ei alwn arbenigwyr.

Gweision y Goresgyniad Mawr yw'r gwyr hyn.

Yr oedd hefyd eisiau amod y byddai'r clerigwyr (gweision suful eu dydd) a gâi eu penodi yn medru'r Gymraeg, ac yr oedd galwad ynddo hefyd am ddwy Brifysgol i Gymru, yn hytrach na chorffori sefydliadau Cymraeg gyda sefydliadau Saesneg.

Daeth telegramau yn ôl i Dy Undod (pencadlys Cymdeithas y Gweision Rheilffyrdd) fel hwn o Gasnewydd: '...' .

Dywedodd un o arweinwyr Cymdeithas y Gweision Rheilffyrdd yn Llanelli, sef Jack Bevan, gofalwr arwyddion o Hanner-ffordd, wrth bapur lleol: '...' .