Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gweithfeydd

gweithfeydd

Awdl a luniwyd ychydig cyn i'r gweithfeydd glo ddechrau cau fesul un.

Byddai arweinwyr y mudiad i godi eglwysi newydd - a dderbyniai gryn gymorth gan y Llywodraeth yn cyson alw sylw at esgeulustod digywilydd y diwydianwyr a wrthodai ddarparu rhagor o addoldai yn ardaloedd eu gweithfeydd.

I gymharu â siroedd Penfro ac Aberteifi, ym Morgannwg roedd llawer o'r plant yn llai na phum mlwydd oed, a'r plant dros ddeg yn llawer prinnach, am fod cyfle ganddynt i fynd i weithio yn y gweithfeydd, a dyna a wnaeth i Lingen gefnogi nid yn unig ddeddfwriaeth yn erbyn gadael i blant bach weithio, ond hefyd i roi pwys ar ganolbwyntio ymdrechion i gael ysgolion babanod yn yr ardaloedd diwydiannol.

Gwelir hen adeiliadau, simneiau, a thomennydd gwastraff yn gysylltiedig â'r gweithfeydd glo a haearn a'r chwareli ym mhobman ar hyd a lled y wlad; ond, yn amlach na pheidio, mae'r hen longau hwyliau wedi pydru ers blynyddoedd yn y dŵ'r hallt, neu wedi cael eu dinistrio neu eu symud er mwyn gwneud lle mewn porthladdoedd.

Rowland Hughes a oedd yn ingol ymwybodol o broblemau cymdeithasol yn ar ardaloedd y chwareli a'r gweithfeydd glo.

Yr oedd tlodi'r wlad yn ei gwneud yn amhosibl i filoedd hepgor yr amser i'w plant gael addysg am flynyddoedd; yr oedd pob ceiniog a enillai'r plant wrth weithio ar y ffermydd ac yn y gweithfeydd yn help i ysgafnhau cyni'r teulu.

Mi fyddai hynny'n golygu y byddai gweithfeydd Prydain yn gallu cystadlu ag unrhyw gwmni yn y byd.

Y pryder ydy y bydd y cwmni'n cynhyrchu llai ac yn diswyddo gweithwyr yn eu gweithfeydd yng Nghymru.

Pnawn addysgiadol arall yn olrhain hanes datblygiad y lein, y gweithfeydd oedd yn gysylltiedig a'r datblygiad yma a'r bobl oedd ynglŷn â'r holl fenter.

Erbyn diwedd y ganrif mae'r diwydiant glo wedi diflannu i bob pwrpas, mae'r gweithfeydd dur mawr yn Shotton, Glyn Ebwy a Chaerdydd wedi cau, ac mae nifer y rhai sy'n gweithio mewn amaethyddiaeth wedi haneru.

O flaen y trên roedd Pont yr Undeb, lle y rhuthrodd aelodau o'r pwyllgor Streic o Ysgol y Gweithfeydd Copr wedi iddynt glywed am yr helynt.

Cyfarfu'r Pwyllgor Streic hefyd, yn Ysgol y Gweithfeydd Copr, i drafod yr argyfwng a'u hwynebai hwythau, gan nad oedd mwyafrif o'r picedwyr yn cydnabod awdurdod y Pwyllgor bellach.

Cynhaliwyd cyfarfod rhyngddo ef, Capten Burrows, Thomas Jones, Frank Nevill, y Prif Gwnstabl a chynrychiolwyr y Pwyllgor Streic, yn Ysgol y Gweithfeydd Copr.

Roedd yr Ymneilltuwyr yn fwy hyblyg, a chynyddai nifer y capeli o bob enwad wrth i'r mewnfudwyr dyrru i'r gweithfeydd o gefn gwlad Cymru.