Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gweithgar

gweithgar

Nid bywyd ynysig ar wahân i'r boblogaeth ehangach yw gwleidydda yma, yn rhannol efallai am nad symud yma a wnaeth yr aelodau mwyaf gweithgar.

Mae'r chwe mis ers ethol swyddogion presennol y grwp wedi bod yn brysur, gweithgar a chyffrous iawn, gyda'r gwaith yn gydbwysedd o lunio dogfennau a strategaeth polisi, ac o ymgyrchu a gweithredu uniongyrchol.

Roedd Richard Owen yn ddyn gweithgar a darbodus, ac yn berchennog ar amryw o dai yn y plwyf.

Yr arweinydd cyntaf oedd Mr Goronwy Jones, dyn gweithgar yn yr ardal oedd yn gweithio yn y Ffatri Laeth yn Rhydygwystl ac yn cadw siop gyda'i wraig ym Mynydd Nefyn.

Er hynny, gobeithiaf yn fawr na fydd hyn yn amharu'n ormodol ar ddyfodol y grwp, yn enwedig gan eu bod mor frwdfrydig a gweithgar.

Bu yn aelod ffyddlon a gweithgar o Eglwys Santes Fair Trefriw a Chymdeithas yr Henoed.

Wedi'i fagu yn ardal ddiwylliedig Uwchaled, daliodd yntau ar bob cyfle i ddringo ysgol gwybodaeth, a bu'n fyfyriwr brwd a gweithgar yng Ngholeg y Brifysgol ym Mangor.

Yr oedd y Calfiniaid ymhlith y teilwriaid yn aelodau ym Methesda, capel gweithgar, bywiog a blaengar y Methodistiaid Calfinaidd yn yr Wyddgrug.

Mae e'n mynd i gyflawni'r gwaith dyngarol hwn o dan adain Canolfan Eglwys Lindon, Y Mwmbls lle mae Rhidian wedi bod yn aelod gweithgar yn ystod ei yrfa golegol.

roedd gan unol daleithiau america ei hapostol heddwch hefyd, sef elihu burritt, ac roedd gan y wlad honno ei mudiadau heddwch gweithgar.

* bod digon o ymglymiad gweithgar neu brysurdeb pwrpasol i'r plentyn a bod profiadau uniongyrchol a pherthnasol iddo/ i mewn amgylchedd sy'n gyforiog bosibiliadau.

Mae gennyn ni'r grwp gorau a mwyaf gweithgar o ymgeiswyr ac rydyn ni wedi dewis ymgeiswyr ar gyfer bron bob un o seddi San Steffan.

Ar unwaith creodd y Blaid Bwyllgor Amddiffyn yn Y Bala gyda Mrs Morovietz, a aned yng Nghapel Celyn yn ferch i Watcyn o Feirion, yn ysgrifennydd hynod o effeithiol a gweithgar, a Dafydd Roberts o Gaefadog yn Nghwm Tryweryn yn gadeirydd.

O blith y rhain cafodd Clwb Llanystumdwy ddwy o rai gweithgar iawn - Mary Pritchard (May) o Edern a ddaeth i Gefn-y-Meysydd, Pentrefelin, a Rhian Owen (Griffith gynt) a ddaeth i Bach-y-Saint, Cricieth.

Am yr ugain mlynedd bu yn byw yn Moriah, bu yn aelod ffyddlon a gweithgar yn y capel a'r ardal, ac yn ddiweddarach yn Bethel-Gaiman.