Er mai cerddor oedd Ffrancon Thomas o'i ben i'w sawdl nid dyma ffon ei fara oherwydd gweithiai o ddydd i ddydd yn swyddfa'r cyfreithwyr Carter Vincent a'i Gwmni ym Mangor.
Rhoddai ef y senglau i mewn, a gweithiai bartau'r senglau, y dyblau a'r pedwarau, a thynnu'r wythau allan yn olaf, heb sôn am danio'r ffwrnais ddwywaith bob twymad drwy gydol y twrn.
Y rheswm pennaf am hynny, y mae'n siŵr, yw cymhlethdod rhyfeddol y traddodiad testunol; at hynny ystyriai ysgolheigion Lladin, o gyfnod y Dadeni ymlaen, mai gweithiai clasurol a phatristig a haeddai eu sylw hwy, ac er bod i feirniadaeth destunol le blaenllaw ar raglen waith rhai o'r miniocaf eu meddwl ymhlith yr ysgolheigion hynny, bach iawn o le a roesant yn eu llafur i lenyddiath Ladin yr Oesoedd Canol.
gweithiai ei dad yn y dref ond ni wyddai 'r bechgyn eraill ymhle.
Mewn tywodfaen "laterite% a choed y gweithiai'r penseiri, a ymryddhaodd yn gyflym oddi wrth ddulliau artisiaid yr India.
Yno gweithiai ceffyl yn tynnu wagenni i ben y domen, - ond chwech, a dim mwy na chwech, a dynnai ar y tro.
Ar y dechrau gweithiai o'i stydi yn "Hafan" gan ymroi ati i osod seiliau cadarnach i'r gwasanaeth.
Gweithiai JE yn ddiwyd a thawel gan gano pen trymaf y baich ei hunan bob amser.
Tyfodd Marie i fod yn fyfyrwraig o Nyrs, yn eneth garedig a theimladwy oedd yn ennyn parch a chyfeillgarwch ble bynnag y gweithiai.
Enghraifft o hyn oedd efail gof Abermagwr, lle y gweithiai'r gof y tu mewn i'r adeilad.
Yn y sefyllfa gymysglyd hon rhoddwyd hawl i ddim llai na thri grŵp o nofwyr chwilio am y llongddrylliad ac o ganlyniad gweithiai gwahanol grwpiau ar wahanol rannau o'r safle.
Gweithiai Fleming yn Ysbyty'r Santes Fair, sydd yng nghanol holl fudreddi Llundain.
Yr oedd y ffaith mai yng Nghaernarfon y gweithiai ei hysgrifennydd a'i phrif drefnydd yn adlewyrchu dechreuadau'r Blaid fel mudiad yn y dref a'r fro honno a'r gwreiddiau dwfn a oedd ganddi yng Ngwynedd.
Gweithiai dwy ffactor eisoes fel lefain yn y blawd i newid y ddarpariaeth annigonol hon.
Digwyddiad cyffredin oedd gweld un o'r gwarchodwyr Koreaidd yn anghydweld â'r Nipon y gweithiai iddo.
Ni wn sut y gweithiai'r ddyfais hon yn iawn.
Gweithiai'n galed a chwaraeai yn yr un modd.
Fel Prydeiniwr y gweithiai Wynford Vaughan Thomas, ac yn Saesneg ac i Gorfforaeth Brydeinig y gweithiai'r darlledwr Angus McDermid yn Affrica, er iddo unwaith ddefnyddio'r iaith Gymraeg i osgoi sensoriaid yn Nigeria.
Gweithiai trigain grwp yn annibynnol ar ei gilydd gan ddilyn eu cynlluniau eu hunain i raddau helaeth iawn.
Nid oedd Ann fawr o law ar y gwaith allan y gweithiai hi bob amser, ac yr oeddwn innau'n rhy fychan i fod yn fawr o gymorth.
Yn ddiweddarach, gweithiai Pamela yng nghartref y Boothiaid.
Os gweithiai ei thric hi, byddai bob brwsh a chlwt yn segur yn yr Hen Reithordy drannoeth.