Sylweddolodd Lingen fod tebygrwydd mawr rhwng yr ysgolion o dan adain y gweithiau diwydiannol newydd a'r hen ysgolion plwyf, gan fod y gweithiau, fel y sylwodd mewn cymhariaeth drawiadol, wedi cymryd lle'r hen faenor gynt.
Fy amcan i yn yr ysgrif hon yw mynd gam ymhellach,a gosod gweithiau Cymraeg a Saesneg ochr yn ochr, nid er mwyn cyffredinoli ynghylch hanfodion neu ragoriaethau y naill na'r llall, ond gan obeithio y daw natur arbennig rhai gweithiau unigol yn amlycach o'r cyferbynnu.
Oherwydd, yn y pen draw, adlewyrchu y mae gweithiau a rhagymadroddion y dyneiddwyr Cymraeg deimladau ac agweddau meddwl a oedd yn cyniwair drwy Orllewin Ewrop i gyd.
Mewn soned arall, 'Y Rhufeiniaid' (Synfyfyrio), mae ef yn ceryddu'r gwŷr a adeiladodd yr Ymerodraeth Rufeinig, nid am fod yn ormweswyr creulon a diystyrllyd o hawliau pobloedd eraill, ond am fethu â sylweddoli na fyddai eu gweithiau hwy yn parhau yn dragwyddol.
Nid peth newydd yw diffinio'r pwnc fel hyn gan gyfeirio at fframwaith gwyddonol; cyfeiriwyd at y pwnc fel hyn yn y lle cyntaf gan chwilotwyr tanfor ym Môr y Canoldir a chysylltir yr agwedd hon â gweithiau Diole\ yn bennaf.
Rhai gweithiau eraill fe'i clywais yn ddigalon.
Llew o gael rhyddhad oedd mynd ati i ysgrifennu gweithiau gwreiddiol a hefyd addasu chwedlau gwerin a ffeithiau hanesyddol, gan beri bod storm ym mynwes sawl plentyn wrth iddo fynd o antur i antur wrth droi'r tudalennau.
Fe ddylai barn fedru cydnabod mawredd gweithiau y mae chwaeth yn eu gwrthod.
Ond yn fwy na hyn, y mae eu gweithiau yn dangos eu bod yn barod i drin y llenyddiaeth honno fel rhywbeth byw, rhywbeth ac ynddo neges ar gyfer y darllenydd modern.
Dyn a menyw, glowr ac athrawes, comiwnydd a chenedlaetholwraig, Rhondda Saesneg ac Arfon Gymraeg, mae'r gwrthgyferbyniadau'n amlwg, ac fe gant eu hadlewyrchu'n glir yn eu gweithiau.
Roedd ei rhaglen yn anodd - yn cynnwys dwy gân o waith Hanus Domansky, gweithiau ac iddynt nerth arbennig.
'Roedd tirlun Cymru yn ogystal ag economi a diwylliant y wlad yn newid, a gwlad y creithiau, nid gwlad y gweithiau, oedd hi bellach.
Yn anuniongyrchedd bwriadus y gweithiau a'r datganiadau hyn, mae rhywbeth anfethodistaidd, dieithr.
Dosbarthu holiaduron trwy'r post a wnaeth Wenker ar gyfer ei waith ar dofodieithoedd Almaeneg, dull y mae iddo lawer o anfanteision, ond ar gyfer Ffrangeg, tua'r un cyfnod, gweithiau Gillieron trwy anfon cyd- lafurwyr at y siaradwyr a chofnodio'r deunydd wyneb yn wyneb.
...paham mae cymaint o ysgrifenwyr galluog yn Nghymru, yn ysgrifio traethodau campus; ac hefyd yn llanw y cyhoeddiadau misol â gweithiau talentog (heb gael na Choleg, nac Athrofa, nac hyd yn oed ddiwrnod o Ysgol) mwy nâ'n cymydogion yn Lloegr, a'r Iwerddon, a gwledydd eraill?
Ond er iddi fynd ati i geisio'n goleuo; wedi llwyddo y mae hi i sgrifennu llyfr sydd cyn anodded i'w ddeall - os nad yn anos i'w ddeall - na'r gweithiau gwreiddiol mae'n ceisio eu hegluro.
I gydfynd â'r dathlu, bydd llawysgrifau a llyfrau printiedig yn cynnwys gweithiau Chaucer yn cael eu harddangos yn y Llyfrgell Genedlaethol.
At hyn wrth gwrs, mae wedi cyfrannu gweithiau i antholegau, llunio nofelau a cherddi i oedolion ac ennill y gadair genedlaethol ddwywaith, yng Nglynebwy a Chaernarfon.
Clywodd y prynwr o Groesoswallt am Oliver Thomas a'i ddarllen, nid hwyrach; a chlywodd y prynwr o Gaerfyrddin, oddi ar dafod ei dad a'i dad-cu, rai o benillion y Ficer Prichard; - ond yn eu gweithiau hwy yr oedd trefn ein lleferydd ar y brawddegau ac ystyron sobr ein byd-bob-dydd i'r geiriau.
Mae i'r Wasg restr hir o amrywiol deitlau yn cynnwys gweithiau enwog ar bob math o bynciau, ac mae dros 500 o deitlau mewn print ar hyn o bryd.
(Er mai barddoniaeth yw prif bwnc y papur, nid amhriodol fydd tynnu sylw at rai gweithiau rhyddiaeth hefyd, pan fo'r rheini yn dangos syniadau tebyg i'r rhai a geir yng ngweithiau'r beridd.) Cafodd beirdd y genhedlaeth honno eu haddysgu cyn i syniadau modern ynghylch addysg ddisodli'r clasuron o'u lle blaenllaw yn y rhan fwyaf o ysgolion y wlad.
Mae nifer y copi%au llawysgrif o'r ddau destun hyn, ac eraill ar yr un thema, yn dyst i boblogrwydd eithriadol chwedlau'r Greal yn Ffrainc yn ystod y drydedd a'r bedwaredd ganrif ar ddeg, ac yn ystod y ddwy ganrif hynny hefyd fe welwyd tuedd - bron na allwn alw'r peth yn ffasiwn - i gyfieithu gweithiau llenyddol o'r Ffrangeg i ieithoedd brodorol eraill gorllewin Ewrop a'r tu hwnt, a'r Gymraeg yn eu plith.
Ei batrwm oedd gweithiau fel The Children's Encyclopaedia yn Saesneg.
Cawsai gweithiau gŵyr fel Luther a Melanchthon lwyddiant ysgubol yno.
'Mor frwd meddai Puleston Jones yn Y Seren wrth adrodd gweithgareddau'r cyfarfod cyntaf, 'mor frwd ydyw yr yspryd Cymreig yma ar hyn o bryd, fel y dywedir i un brawd o ganol brysurdeb paratoi at ei arholiad ddiweddaf, roi un bore ar ei hyd i astudio prydyddiaeth Gymreig Gwn ddarfod i un arall ddarllen gweithiau barddonol Goronwy i gyd bron mewn un diwrnod" "Chwi synnech', meddai eto wrth adrodd am gyfarfod diweddarach, 'mor gyflawn o addysg ydyw papurau fel hwn (sc.
Mae wedi'i wneud yn gelfydd ar siâp llyfr agored o bren derw a rhai o gymeriadau gweithiau Mary Vaughan Jones (rhai fel Tomos Caradog, y llygoden unigryw) wedi'u llunio mewn arian yn sefyll ar lwyfan o'i flaen.
Nofelau yn dilyn hynt yr enaid unigol yw'r ddwy nofel am Leifior yn hytrach na gweithiau sy'n dehongli'n wrthrychol wleidyddol strwythur ein cymdeithas.
Ond, yn rhyfedd ddigon, ni wnaed ymdrech i ddadansoddi neu ddehongli'n chwedloniaeth ni, yn Gymry ac yn Geltiaid, naill ai ar ffurf llên gwerin cyffredin neu yn y gweithiau a goethwyd ar gyfer eu rhoi ar glawr.
Llew yn unigryw ymhlith awduron gan fod plant heddiw'n mwynhau'r un gweithiau ag yr oedd eu rhieni'n eu mwynhau pan oedden nhw'n ifanc.
Nid arwr i'w glodfori yw Arthur yn y gweithiau hyn.
Teimlai Vera'n agosach ato ef nag y gwnâi at eraill y gweithiau iddynt; roedd hi'n gartrefol ac yn gysurus yn ei gwmni, ac er nad oedd hi'n un i hel clecs, roedd Edward Morgan wastad yn barod am sgwrs ac ni fyddai, fel y rhan fwyaf o'i chyflogwyr, yn siarad byth a beunydd am ei hunan.
Llew gychwyn ysgrifennu gweithiau i blant bron yr un pryd.
O ddarllen y rhain, ynghyd a'r gweithiau eu hunain, ceir darlun sy'n cyfuno'r personol a'r swyddogol-gyhoeddus.
Rhai gweithiau yn unig y gwelais hi'n wirioneddol ddigalon, a hynny pan oedd y briwiau ar ei choesau mor enbyd o boenus fel na allai symud o'i chadair o flaen y tân nwy yn ei chartref.
Er iddo gasglu a chyhoeddi gweithiau llu mawr o lenorion, nid oedd ganddo'r chwaeth i dderbyn a gwrthod fel Morris-Jones.
Mae hi'n bendefigaeth, newydd, anfydol.' Felly mae'r nofel yn llinach gweithiau eraill Saunders Lewis lle mae'r cymeriadau'n fwy amlwg bendefigaidd.
Felly tuedda'u gweithiau i fod yn fwy confensiynol na'r realiti y maent yn honni ei gynrychioli.
Er hynny, wrth ymdrin â gweithiau fel nofelau Daniel Owen a Charadog Prichard, a cherddi megis 'Atgof' Prosser Rhys, yn unig y cawsom ddirnadaethau seiciatreg yn cael eu cyfaddasu at feirniadaeth lenyddol Gymraeg.
Yn Lloegr yn y tridegau cafwyd gweithiau Arthur Eddington, Edmund Whittaker, James Jeans, Bertrand Russell ac eraill a lwyddodd i gryn fesur i gyflwyno darganfyddiadau ffisegol y dydd mewn iaith ddealladwy i ddarllenwyr difathemateg.
Ond creadigaeth fodern yw categori 'y tair rhamant' oherwydd nid oes tystiolaeth fod copi%wyr, nac, mae'n debyg, ddarllenwyr, y gweithiau hyn yn eu gweld yn hanfodol gysylltiedig â'i gilydd.
Gweithiau Talfan bob amser yng nghwmni ei giang.
Heb gymoedd glo a gweithiau'r Deheudir troesai'r dylifiad pobl o Gymru wledig yn dranc i'r Gymraeg megis y bu'r newyn yn Iwerddon yn dranc i'r Wyddeleg.
Ar yr un pryd nid rhywbeth mympwyol yw barn o werth, ond rhywbeth wedi ei sylfaenu ar ddarllen dwys a chatholig: nid yn unig darllen gweithiau gwreiddiol ond darllen ac astudio datganiadau beirniaid llenyddol yr oesau ynghylch natur barddoniaeth.
Yn sgil y rhain fe ddaw gweithiau eraill yn y ddwy iaith i mewn i'r drafodaeth.
Nid yw'r rhain yn yr orgraff wreiddiol er bod y cyfeiriad at Gweithiau M.
I'r ganrif newydd y perthyn cyfrolau glanwiath Cyfres y Fil - tua hanner cant ohonynt - yn cynnwys gweithiau llenorion Cymru yn fach ac yn fawr, llyfrau defnyddiol hynod hyd yn oed heddiw.
A thystiolaeth sicrach i hyn fyddai gweithiau blynyddoedd cynnar William Salesbury, yn enwedig Kynniver llith a ban.
Mae ei gynnyrch yn gyfartal hefyd o ran natur y gwaith a gyhoeddodd yn y ddwy iaith: ceir barddoniaeth, emynau, pregethau, ysgrifau, cofiannau, trafodaethau hanesyddol, gweithiau defosiynol, gwaith golygu, oll yn y Gymraeg a'r Saesneg.