Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gweithlu

gweithlu

Gohiria Tref hwy'n hyf er mwyn rhoi cyfle i'r gweithlu wagio'r sinema a chludir y madarch nas casglwyd i'w cuddio yn yr hen waith glo.

Petai rhywrai'n digwydd gweld y ffilm hon ar ei hanner, a'r olygfa o'r gweithlu ym mol buwch y sinema, oll yn eu lifrai gwynion a'u helmedau lampiog a'u lanternau yn eu dwylo, gellid maddau iddynt am dybio mai glowyr oedd ar y sgrin.

Sefydlwyd gweithlu uniongyrchol i fod yn gyfrifol am gynnal a chadw a thrwsio.

I'r diben hwn rhaid i ni ddatblygu sgiliau'r gweithlu gan symud tuag at ddiwylliant o ddysgu-ar-hyd-oes ac ar yr un pryd hyrwyddo twf cwmni%au bychain a chanolig eu maint a all gyflenwi'r cwmni%au rhyngwladol.

Chwarae Teg - Mae Chwarae Teg yn gorff annibynnol a sefydlwyd yn 1992 i hyrwyddo a datblygu rôl menywod yn y gweithlu yng Nghymru.

Ond yn yr ardaloedd gweithfaol newydd, roedd y cyflogwyr yn ysu am wneud ffortiynau, yn barod i dalu cyflogau uchel, ac eto'n edrych ar eu gweithlu fel bwystfilod, yn methu cynnig iddynt amodau cymdeithasol teilwng i fyw.

Yn rhinwedd ei swydd aruchel fe aeth i ymweld a ffatri ym Moscow un tro, medden nhw, ond fe'i synnwyd ac fe'i siomwyd yn arw oherwydd fod y gweithlu mor ddiystyriol ohono.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, er enghraifft, bu nifer y gwragedd priod a ymunodd a'r gweithlu yn llawer uwch na'r disgwyl, tra bu'r cynnydd mewn cynhyrchaeth llafur, ar y llaw arall, yn is o gryn dipyn.

Os ydys am weld darparu deunyddiau addysgol yn y Gymraeg yn y tymor byr, ystyrir bod angen manteisio ar sgiliau arbenigol prin y canolfannau ar gyfer gwaith golygu, cyfieithu, dylunio, a chysodi a bod angen manteisio ar brofiad a sgiliau gweinyddu'r cyfarwyddwyr eu hunain, sydd wedi denu a meithrin y sgiliau hyn o fewn eu gweithlu ac wedi sefydlu perthynas weithredol nid yn unig gyda'r gweisg a'r cyhoeddwyr ond gyda'r awdurdodau a'r athrawon unigol.

Yn 1945 yr oedd 30% o'r gweithlu Cymreig (dynion) yn gweithio yn y diwydiant glo neu ddur a 10% yn ymwneud ag amaethyddiaeth.

Os ydym am ddatblygu gweithlu sy'n gynyddol rugl yn y Gymraeg ac yn medru ei defnyddio'n rhwydd ym myd gwaith, bydd yn rhaid cynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc dderbyn addysg a hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.

Mae'n sylweddoli fod yna gyfnewidiadau mawr yn digwydd yn Rwsia ar hyn o bryd ac mai profiad o ddiwylliant ac amgylchiadau pur wahanol sydd yn ymaros pob un ohonynt, ond fel cenhadon hedd maent yn ffyddiog yn eu cenhadaeth ac yn diolch am y cyfle, a'r fraint o fod yn rhan o'r gwaith, a'r gweithlu.

Wrth i'r gweithlu ddychwelyd i'r Ynys Werdd mae mwy o'r tô ifanc yn ailafael yn y camán.

Yn ogystal â gweithlu estron, y mae testun pryder i wledydd 'niwtral' fel Iwerddon a Norwy, mewn datblygiadau eraill.