Gwelais gerflun o'r llanc Dafydd fab Jesse Ban un o'r meistri, yn gryf a hardd o gorff, a dyna'r argraff a adawai Phil ar bawb a'i hadwaenai.
Gwelais frawddeg: "Hyd ei ymddeoliad cynnar gwasnaethodd ar Staff Banc y Barclays".
Ac fel yr oeddwn yn edrych, gwelais law wedi ei hestyn tuag ataf gyda sgrôl ynddi.
Gwelais enghraifft ddramatig o'r blys hwn am eiddo.
Teimlaf wefr bob tro y deuaf o hyd i rywogaeth nas gwelais o'r blaen ond rhwng cloriau llyfr.
Ond breuddwyd gwrach ar ôl uwd ydoedd fel y gwelais yn o fuan.
Fodd bynnag, ar hyn gwelais filwyr yn gadael eu paciau ac yn mynd heibio rhyw gornel ac mi euthum innau i edrych i ble'r aent.
Tybiais mai'r sefyllfa filwrol oedd yn gyfrifol am hyn, ond yna gwelais un o swyddogion y Cenhedloedd Unedig yn gwenu.
Gwelais ef unwaith yn ~ynnu ceffyl haearn bob darn oddi wrth ei gilydd ac yn ei osod yn ~i ôl yn daclus a di-drafferth.
Wyddech chwi mai ymgais rhywun i gyfieithu trifle yw, er nas gwelais erioed mewn print, treiffl yw ymgais dila y llyfryn Terman Coginio, Ysgol Addysg Prifysgol Cymru, a 'melusfwyd cymysg' yn Y Geiriadur Mawr.
Gwelais fod yno gantîn wedi agor ac ychydig o giw yn casglu.
Gwelais ddigonedd o bys y ceirw, teim gwyllt, clustog Fair, a thresgl y moch fodd bynnag.
"Come here John Jones," meddai'n awdurdodol, a gwelais f'amddiffynnydd yn mynd ato, ac i mewn i'r ysgol, a'r plant eraill i gyd yn swilio.
A buan y gwelais fod cynhyrchion y Thinker is Library yn fwy awgrymog na holl ddyfroedd Israel.
Cyn cyrraedd Rhuthun, codais i edrych drwy'r ffenestr a gwelais fod tipyn o bobl yn y stesion yma.
Gwelais y gloyn cyntaf ar y pedwerydd o Fai, ac amryw ar ôl hynny.
Wrth lwc roedd lle iddo fynd heibio ond arafodd a gwelais wyneb mawr coch yn gwenu drwy'r ffenestr.
Gwelais nodi allan lle yr oedd y Railway i fod, a gwelais ei gwneud o Holland Arms i'r Benllech, a chofiaf ddydd ei hagor yn iawn, a sploet fawr yn Bryniau Plas Gwyn.
Yn Ysgol Haf y Weinidogaeth Iacha/ u yn Aberystwyth y gwelais i am y tro cyntaf berson yn cymryd arddodiad dwylo dros berson arall a oedd yn glaf.
Gan RT Jenkins y gwelais un o'r paragraffau hyfrytaf o fyr-foliant i werth diwylliadol y Beibl.
Fe'i gwelais hi ar y stryd ymhen ychydig ddyddiau wedyn.
Ar ôl ymbalfalu am y switsh lectrig mewn ystafell anghyfarwydd, gwelais ei bod yn hanner awr wedi dau yn y bore a meddyliais fod rhywun yn siwr o fod yn chwarae tric go wael arnaf.
Wrth bwffian fel taid i fyny i'r man gwylio, gwelais wraig ifanc yn gwthio pram yr holl ffordd a gwr arall yn cario plentyn swnllyd fel iau ar ei ysgwyddau.
Gwelais dair ffilm Gymraeg (un yn Gymraeg, Isalmaeneg a Saesneg, ac un yn Gymraeg, Rwseg a Saesneg - ac maen nhw'n dweud ein bod ni'n gul a phlwyofl), ffilm hir yn iaith Gaeleg yr Alban a ffilm Ddaneg.
'Wedyn mi'i gwelais i o,' meddai hi.
Yn y Gymdeithas Gymraeg yr oedd ffilm yn cael ei dangos o ymweliad Côr Gyfynys a Phatagonia -- a gwelais amryw o gylch Stiniog ar y ffilm.
Ces fy nghroesawu'n wresog gan un o gynrychiolwyr y cwmni, ac wrth i fi gael fy ngyrru allan o'r maes awyr, gwelais, am y tro cyntaf y shanty towns oedd ar bob ochr i'r ffordd.
Gwelais y Capten druan fwy nag unwaith yn ceisio'u difa gyda dwr berwedig o'r gegin.
Edrychais yn y drych i'r ochr chwith a gwelais Now yn cerdded ar y ffordd!
Rydw i'n cofio ble y gwelais i o o'r blaen.'
Dyna pryd y gwelais ei wyneb am y tro cyntaf.
Gwelais olygfa o'm blaen sydd bob amser yn ddolur i'm llygaid.
Ar lan yr Iorddonen - ffrwd fechan bellach - y gwelais i'r enghraifft orau fel arall o rym y wasg.
Mewn coleg yn Havana, gwelais fyfyrwyr yn glanhau'r adeilad ac yn golchi llestri.
Ar ôl cael trefn arnynt, gwelais fy mlerwch.
Gwelais rhyw foi ar gefn beic, gweithiwr ar fferm mae'n siwr, a chodais fy llaw arno, yntau'n gwneud yr un fath arnaf i.
Ond 'roedd hi'n falch o gael siarad gyda mi, a gwelais fod ei llygaid yn crefu'n daer arnaf i'w helpu.
Fe'i gwelais ar gae'r Eisteddfod ddoe.
Gwelais y trapiwr nos drannoeth.
Cofiaf adegau o orfod rhedeg, gan gario'n pac a'n dryll, am bum milltir a hynny mewn deugain munud, ac yn ddiweddarach gwelais (os cofiaf yn iawn) orfod rhedeg deng milltir mewn awr a deugain munud.
'Mi wyddwn i fod rhywbeth o'i le neithiwr yn y wledd, man y gwelais i'r hen ddyn yna.
Yna gwelais fod y dyn yn y siaced law wedi dechrau crynu'n sydyn, roedd dagrau yn ei lygaid.
Yno, gwelais olygfa a'm syfrdanodd.
Gwelais y palmwydd marw y tu ôl i'r to, y cacti truenus o flaen y ffenest - arferai eu dyfrhau yn ffyddlon o brydlon heb os - planhigion swyddfa allan yn yr awyr agored.
Gwelais ef yn cael sawl ffafr ar gamlesi'r cyfandir ar ffin lle'r oedd Almaenwyr ar ofalaeth, drwy esbonio mai Cymro oedd ef, yn gofalu am long wedi'i chofrestru yn Llanelli porthladd heb fod nepell o Gaerdydd!
Gwelais grwp yn heidio ar fryn bach - sgiais atynt a holi'r hyfforddwr pa le'r aeth fy un i - gan yr hoffwn innau ei ddilyn?
Hyd y gwelais i, ni chafwyd yr un gair o gŵyn yn erbyn bywyd gorwyllt Wil Dafydd.
e'i gwelais, ond ni fedrai hwnnw ychwaith addo dim gan fod pethau'n bur wan.
Deffroais yn y man a gwelais fy mod fy hun, teimlais am fy hosan ac yr oedd yn llawn.
Gwelais hysbysebion yn ddiweddar am Brif Weithredwr i Sianel Pedwar Cymru.
Dyma a ddywed ef: Wrth ddarllen hen ddyddiadur ddoe, gwelais nodyn fel hyn, A fedrir cychwyn cymdeithas Gymreig yn Rhydychen; gofyn i DM Jones.
Un bore, wrth ddihuno, gwelais golomen wen yn disgyn ar sil fy ffenestr Wrth edrych arni, meddyliais am y lleianod wrth y llyn, am fy nyweddi ac am rai eraill a oedd wedi marw, yr oedd cwlwm ysbrydol rhyngof a hwy.
Gwelais bob gwedd a lliw ar y Foel Famau a'i thŵr, am rai blynyddoedd ar ol hyn: clywais ambell hwyrnos sŵn dwfn mud o'r tu cefn iddo, y dywedid mai atsain ydoedd o ddrycin pell ar y Werydd.
Cyn inni ddechrau ffilmio fe gerddais o gwmpas ar fy mhen fy hun, ac, yng nghornel fy llygad, gwelais ddarn o bapur ar ochr un o'r tyllau mawr.
Fe'i gwelais gyntaf un min nos braf ym mis Mehefin ar dir sych uwch clogwyni'r môr ym mhen dwyreiniol yr ynys.
Gwelais ddyn cryf cydnerth yng nghrafangau poenau arteithiol.
Rhai gweithiau yn unig y gwelais hi'n wirioneddol ddigalon, a hynny pan oedd y briwiau ar ei choesau mor enbyd o boenus fel na allai symud o'i chadair o flaen y tân nwy yn ei chartref.
Ar y ffordd wrth fynd i Lunden Gwelais wraig yn bwyta bricsen Dywedais wrthi am beidio tagu, Fod y dþr yn agos ati.
Yn y Rhos Herald y gwelais farddoniaeth I. D. Hooson gyntaf, ei Gerdd Goffa i Mattie Price, merch Mr a Mrs D L Price.
Ac fe'i gwelais yn suddo hefyd ddwy flynedd yn ôl i fis Gorffennaf diwethaf." Ceisiais feddwl sut y gallwn i drechu ofnau'r truan.
Yn Ionawr y gwelais i e.
Gan imi orfod disgwyl am beth amser, gwelais yn dda i elwa ar lyfrgell yr eglwys.
Yng ngolau'r ffaglen gwelais y sewin crand.
Prun bynnag, gwelais ar unwaith mai pechod anfaddeuol oedd rhoi nofel yng nghanol y llyfrau crefyddol.
Gwelais gario cenedlaethau o blant a llawer o gysur a helynt hefyd.
Gwelais ef a chil fy llygad wrth ei basio, a bu raid i mi stopio'r car, a gyrru'n ol ryw ddeg llath i wneud yn siŵr.
Pan oedd Ahab (brenin Israel) a Jehosaphat (brenin Jwda) yn cynllwynio i ymosod ar Ramoth Gilead, dywedodd y proffwyd Micheah wrthynt yn blaen beth fyddai'r canlyniad: 'Gwelais holl Israel yn wasgaredig ar y mynyddoedd,fel defaid ni byddai iddynt fugail .
Gwelais rai o gyfeillion Saunders Lewis ar fy nhaith, ac y maent yn disgwyl wrthym.
"Os oes ar rywun eisio cweir, mi ro i hi iddo fo." Trois fy mhen i edrych pwy oedd wedi f'achub, ac er syndod mawr i mi, gwelais mai un o fechgyn y siwt lwyd oedd ef.
Yn naturiol, mi aethon ninnau yn y car i weld y lle ac yno y gwelais un o'r golygfeydd mwya' trawiadol.
Am ryw reswm, mae dwr yn tarddu yno, gan roi inni fyd hollol wahanol ar ei union Yn Oman y gwelais i rasus camelod am y tro cyntaf - a dyna ichi olygfa ydi honno.
Wel, yn ôl yn y tŷ lle yr arhoswn gwelais yn ôl y mapiau fy mod mewn gwlad 'Indianaidd' os goddefir y term.
Droeon tra'n teithio yn fy nghar (piws!) ar hyd y ffordd brysur rhwng Caernarfon a Bangor yn y mis bach, gwelais sguthannod yn gelain ar y lôn wrth droed wal fawr Stad y Faenol.
Fe'i gwelais un bore ar fy ffordd i'r ysgol yn rhuthro o'r tŷ a thynnu'r drws yn glep ar ei ôl a gweiddi: 'Cadwch eich pres 'ta.