Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gweled

gweled

Ddydd Sadwrn diwetha' fe ddaeth criw o artistiaid proffesiynol ac aelodau o'r cyhoedd i'r Prom yn Aberystwyth i ferfio talpiau o sebon - un o weithgareddau dathlu dengmlwyddiant Cymdeithas Gymraeg y Celfyddydau Gweledol, Gweled.

Ei weled fe cyn gweled y John arall a wneuthum i, a'i wir adnabod ar ôl methu clywed ei oslef arbennig ef yn llais y llall.

'Dos i'w lys', meddai Rhisiart Phylip am Siôn Salbri o Lyweni ac yno, meddai ymhellach, y ceir 'gweled unben' sydd gystal â 'gweled nerth ein gwlad'.

'Bu (ei fam) agos allan o'i phwyll am lawer o wythnosau, gan godi bob awr o'r nos wedi claddu ei gŵr a'i dau fab, ac agor y ffenestr gan rhyw led-ddisgwyl eu gweled (ei gŵr a'i dau fab) yn dyfod adref o'r gwaith.

Dyna fe, ddarllenydd - yn llafn main, tal, teneu, gwledig, - mewn gwisg ddiaddurn a digon cyffredin yn dyfod trwy ddrws y capel - am dano y mae coat winlliw o frethyn gwlad wedi ei wau yn lled fras, a hono wedi gweled ei dyddiau goreu; ac oblegid ei fod wedi tyfu ar ol ei chael, edrychai yn fer a chwta - gwasgod o stwff ac un rhes o fotymau yn cau i fynu yn y glos am ddolen ei gadach India oedd yn dorch am ei wddf - llodrau o ffustian rhesog; a phar o esgidiau mawrion cryfion, gyda dwbl wadnau am ei draed, wedi eu pedoli yn ol ac yn mlaen; a'u llenwi â hoelion, ac ymylau hoelion y rhesau allanol yn amgylchu ymyl y gwadnau, fel y gallesid tybio y buasai eu cario yn ddigon o faich i unrhyw ddyn, heb sôn am gerdded ynddynt.

Buom yn cerdded am tua milltir yn eu dilyn ar hyd y Broadway - yn gofyn ambell gwestiwn i un a'r llall, ac yn gweled y derbyniad cynnes a roddid iddynt gan y New Yorkiaid ar eu taith drwy eu dinas tua'u cartref.

Nid ydym wedi cael un Binney i'n dysgu i blygu yn wylaidd syn yn yr olwg ar y 'Goleuni Tragwyddol', nac un Alford i'n galw gyda 'Forward be our watchword' i adael ofn y diffydd, a gweled goreu Duw a dyn yn y dyfodol; ac ni chawsom un Newman i weddio gyda ni am arweiniad yr 'hawddgar oleuni'.

`Cael ysgwyd llaw â 'nghefnder yn ei gegin ei hun'; sgrifennu am arferion byw yr Americanwyr cyffredin; `cael cyfle hefyd i ysgwyd llaw â rhai o'i ddynion cyhoeddus'; rhoi blas o wleidyddiaeth a pholisi; `gweled hefyd rai o olion y galanasdra ofnadwy diweddar'; fel newyddiadurwr o'r iawn ryw, cyfleu rhywfaint o gyffro'r funud.

I ganol yr olion yma o ddinistr ac ymrafael y cyrhaeddodd John Griffiths, gyda'r bwriad, fel yr esboniodd yn ei lith cynta' o ddangos `olion y galanasdra ofnadwy diweddar - olion y trychineb y mae y wlad newydd ddyfod drwyddo - Gweled rhai o gleision y dyrnodiau - o doriadau a chreithiau yr ymdrechfa aruthrol sydd yn bresennol newydd ddyfod i derfyniad.

Mawr y llawenydd fydd gweled eu hwynebau melynion wedi cael byw i ddychwelyd - a dychwelyd yn fuddugoliaethus, dychwelyd wedi gorffen eu gwaith!

Ond yn wir, ni wyddai ba un oedd galetaf, gweled Wiliam yn cychwyn i ffwrdd, ai ei weled yn dyfod adref bob nos yn surbwch a digalon.

Amlygir hyn yn y llun Y Chwarel lle mae'r arddull rydd i'w gweled yn effeithiol yn y ffordd y mae'r adeiladau yn toddi yn un i'w hamgylchfyd.

Gyda hyny dyma'r rhan gyntaf o'r fyddin yn marchio i'r golwg - yn cael ei blaenori gan hen flag - hen flag ag oedd wedi gweled caledi, wedi ei rhwygo gan fwledi nes yr oedd yn rags.

A minnau wedi disgwyl gweled y baedd yma hefyd yn ffornochio ac yn codi ei drwyn tua'r nef mewn ysgrech o fygythiad, a dangos cil- ddannedd fel cilbostiau adwyon wedi eu gwneud gan yr hen bobl.

Rhaid iddo aros am ddwy flynedd cyn gweled sigaret mwy.

Ar ôl ei Wasanaethau Iacha/ u ef, fel y dangoswyd yn y Bumed Bennod, y mae deillion yn gweled, rhai byddar yn clywed ac efryddion yn cerdded.