Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gweli

Look for definition of gweli in Geiriadur Prifysgol Cymru:

Drwy ganghennau'r coed gweli fod yna lwybr arall yn torri ar draws yr un yr wyt yn ei ddilyn.

Mae'n troi i'th wynebu a gweli ei fod wedi torri ei law chwith i ffwrdd yn llwyr - dyna a ddigwyddodd ar ôl i ti weiddi.

Yna rwyt yn troi pen dy geffyl i ddilyn yr afon, ac ar ôl milltir neu ddwy gweli'r rhyd a'r ffordd sy'n arwain o'r afon i Glan Gors.

Newidia a golyga fel y gweli di, gan y byddi di'n gweld ôl brys ar y teipio mae'n siwr.

Yn ymyl y pentref gweli dwr o blant yn chwarae ac yn rhedeg o gwmpas yng nghysgod nifer o goed cyll.

Fe ei i mewn i'r ystafell a gweli mai storfa ydyw.

Rwyt yn llwyddo i ddal dy afael ac yn y golau gwan gweli nad yw'r bleiddiaid i'w gweld yn unman.

Tynni dy gleddyf ac wrth agosa/ u atynt gweli arwydd y Goron Dân ar eu clogynau.

Yna gweli ddau o filwyr Naferyn yn straffaglio i dynnu cwch bychan allan o'r dŵr.