Saif Mari Lewis yn ymgorfforiad o'r gwerthoedd Calfinaidd, 'pur', fel y'u gwelid ganddo.
Bob tro y gwelid ef, byddai ganddo lyfr yn ei law.
Dyn cymesur a golygus oedd Daniel, ac ym mha le bynnag y gwelid ef, yn y gwaith tun neu yn y Sedd Fawr, perthynai rhyw urddas iddo, a rhoddai argraff dda ar bawb a gyfarfyddai ag ef.
Yn nhymor yr ŵyn gwelid mynaich lleyg Abaty Aberconwy yn yr hafotai hwnt ac yma, a draw tua Moel Fleiddiau a Moel Cibau yr oedd sŵn corn yr helwyr yn darogan fod rhyw newydd yn y tir.
'Nos trannoeth gwelid y tri yn ôl yn eu cuddfan.
Mae'n debyg, petai modd mesur y Seisnigo, y gwelid mai proses pur gyfyngedig oedd hi mewn gwirionedd, o ystyried y boblogaeth gyfan.
Gwelid ef ar y teledu yn ogystal, yn siarad a darlithio.
O hynny ymlaen fe'i gwelid yn lled fynych yn mynd i mewn i'r Banc wrth wneud ei neges yn y bore.
phan welsant ar etholiad y `Rail-splitter o Illinois' [Abraham Lincoln], ys gwelid ef, fod tebygolrwydd y buasent hwy bellach yn colli llyw y peiriant o'u dwylo, gadawsant Washington mewn dicter a soriant - wedi moni: symudasant gyda'i gilydd i ganolbarth gwlad y cotwm; yna sefydlasant ym Montgomery, prifddinas y dalaith hon, a gosodasant i fyny lywodraeth fawr o'r eiddynt eu hunain, ac etholasant cotton planter o dalaith Mississippi yn ben arnynt - `yn engineer in chief' - i redeg y peiriant.
Anaml y gwelid ef yn sefyll yn bwyllog yn ei unfan, am y byddai'n gwingo'n barhaus.
Nid oedd fy mam yn grefyddlyd, ac ar nos Sul yn unig y gwelid hi yn y capel.
Pan fyddai gan y gof egwyl ym misoedd yr haf, a'r ffermwyr yn brysur gyda'r cynhaeaf, byddai yntau yn 'troi pedolau', rhai ugeiniau o barau o wahanol faint, a gwelid hwy yn rhesi yn hongian yn yr efail.
Ar ddechrau'r ganrif gwelid dros drigain o aelodau a thros gant o wrandawyr.
Gwelid ambell un allan gyda'i wedd ddechrau'r gwanwyn, yn aredig ei dir, ac yn hanner gobeithio y caent aros wedi'r cwbl.
A phe gwelid ein planed fechan ni gan rywbeth yn un o'r galaethau hyn, byddai hithau hefyd yn chwyrnellu draw oddi wrtho yr un mor chwim a'r un mor ddistaw, trwy'r 'mudandod mwyn'.
Gwelid ffrwyth darpariaeth drylwyr yn y cydweithrediad hapus a llyfnder y perfformiad drwyddo; yn wir, roedd cydsymud sicr y grwpiau, y cydadrodd a'r llefaru croyw yn y ddwy iaith, a hunan-hyder yr actorion wrth chwarae'n gartrefol ac yn urddasol ar lwyfan eang y Neuadd yn dangos disgyblaeth ryfeddol mewn plant mor ifanc.
Tyfodd o hadau eu collfarn hwy gerddi gwarchod lawer a geisiai gelu'r ffaith fod lles y genedl, fel y i gwelid gan ei hyrwyddwyr, yn gofyn gostwng gwerth y famiaith.
Fel y cwympodd gwerth cyflogau yn ystod y blynyddoedd dilynol, heb unrhyw leihad yn yr oriau gwaith, gwelid mwyfwy o ymryson a streicio ar lefel leol.
Pe baem yn caniata/ u iddi ddod i'r iard byddai bron yn amhosibl iddi fynd yn ôl, a phe gwelid hi yno efo Jock a minnau byddai ar ben arnom.
Cofiaf yn dda fel yr ymddangosai'r llyfrau amryliw tua diwedd y flwyddyn ym mhlith y rhai nas gwelid eto ar ôl gwyliau'r haf, ac fel y cafodd Islwyn a Keats ac Eifion Wyn a Fitzgerald ac Eben Fardd a Milton bawb eu sbel ym mhlith rhigymau llai anfarwol.
Yn yr adroddiad cyntaf hwnnw trawyd nodau y byddai adroddiadau diweddarach yn cydgordio â hwy: un oedd y ffaith - fel y gwelid pethau - nad tlodi oedd wrth wraidd y diffyg truenus yma o ysgolion neu gyfarpar.
Pe gwelid ni'n cyfathrachu â hi mewn modd yn y byd, fe gaem ein cam-drin, a'n lladd o bosibl.
Anaml y gwelid amaethwyr y gorffennol yn mynd oddi cartref am ddiwrnod neu ddau, ond erbyn hyn, daeth mynd ar wyliau yn beth cyffredin - ac ambell waith i'r cyfandir.
Yn yr eglwysi drachefn y gwelid y rhan fwyaf o ddigon o gerfluniaeth y cyfnod, yn ddelwau o Grist a Mair a'r saint, yn feddfeini urddasol (yn enwedig yn y Gogledd-Ddwyrain) ac yn groglenni coed rhyfeddol o gywrain.
Mewn pwyllgor, er y gwelid ac y clywid BLJ y rhefrwr wrthi-hi weithiau, yr oedd fel arfer yn bwyllog eithriadol.
Dro arall gwelid y golygyddol yn troi'n adolygiad ar lyfr pwysig, un a roddai gyfle i'r golygydd roi ei farn arno, a thynnu sylw at yr hyn a fyddai'n berthnasol i'r ymofynwyr Undodaidd.
Gwaetha'r modd, ni chafodd y gweinidog arall ei "visa% yn ôl mewn pryd, gan fod yn rhaid i'w basport, lle gwelid ei enw fel "The Rev., gael ei ddanfon ymlaen i'r awdurdodau ym Mhrâg cyn cael ei brosesu.
Yr oedd dyhead o du'r ifanc yn y Lluoedd i weld byd gwell lle gwelid cyfiawnder, rhyddid, a heddwch yn teyrnasu, ond nid oedd gan na chrefydd nac Eglwys ddim i'w wneud â sylweddoli'r dyhead hwnnw.
Fe'i gwelid yn gyson yn angladdau'r fro, ac ar adegau felly gofalai pob offeiriad a gweinidog ei wahodd i gymryd rhan yn y gwasanaeth, un ai gyda gweddi neu ddarlleniad o'r Ysgrythur.
Yn raddol, gwelid trafaelwyr o'r trefi ac o Loegr yn galw heibio i'r seiri gwledig a chynnig iddynt fylau i olwynion wedi eu tyllu'n barod.
Yn hyn y gwelid Phil ar ei orau.