Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwellt

gwellt

Ond doedd dim gwellt glân o tanyn nhw.

Ac wedyn bydd yn lluchio grant yn awr ac yn y man (tan y penderfynith o beidio - a mae ganddo bob hawl i wneud hynny) i gadw'r defaid i droi gwellt yn wlân a chachu, a chadw gwên ar wyneb y gwladwr hawddgar.

Rhwng hyn a llai yn cael ei dyfu'n gyffredinol trwy'r cynllun neilltuo tir fe fydd haidd gwanwyn yn brin y gaeaf nesaf ac felly hefyd y gwellt sydd yn bwysig i ffermwyr yr ardal yma.

Oedd dada yn un o ddeg o blant a chollodd ei fam pan oedd ond plentyn bychan, ond yn wahanol i blentyn "Y Bwthyn Bach To Gwellt", cafodd dad cyfrifol, gofalus i chadarn i'w magu i gyd efo'i gylydd a'u codi o dan do o safon cysegredig.

'Roedd pedwar ugain mlynedd o ymgyrchu dros ryw fath o ymreolaeth wedi mynd i'r gwellt.

Roedd fel petai'r rhai a arbenigai yng nghelfyddyd ymladd a lladd, wedi bod yn rhy brysur yn hela'r llwynog, a sicrhau bod eu lle breintiedig o fewn y gymdeithas yn ddiogel, i fedru rhoi amser i ddysgu unrhyw wers ers dyddiau'r rhyfel byd arall hwnnw Roedd y wlad ar ei thin - yn llythrennol felly, ac oni bai am ddewrder dall y rhai a gredai fod Ffasgaeth yn waeth na chaethwasiaeth, ac ysfa bwli o ddyn a dynnai wrth ei sigâr ac yfed ei hun i anymwybyddiaeth, am ymladd a rhyfel, mi fyddai pob dim wedi mynd i'r gwellt.

Mae ongl yr eglwys ychydig yn wahanol yn yr un ffordd - cornel dywyll y tu ôl i'r eglwysi yn goleuo at yr ochor arall a gwyrdd llachar y gwellt o flaen y ddwy.

Dydym ni ddim yn byw mewn bythynnod to gwellt yn byseddu ein gramadegau Gwyddeleg.

Gellir defnyddio matiau gwellt, neu bolythen du, yn lle gwellt naturiol ar gyfer hyn.

Cydiodd y fflamau yn y gwellt a'r rhedyn a chyn hir roedd y ddaear i gyd yn wenfflam.

Llonydd hefyd y peiriant siaffo, heb na gwair na gwellt nac eithin mân i'w falu.

Pethau'n mynd i'r gwellt heb i mi wneud dim byd i frwydro yn erbyn hynny; dim ond gorwedd yn ddiymadferth o dan ergydion creulon y tawelwch a adawai glwyfau a chleisiau newydd o ddieithrwch bob eiliad.

Caled yw hi, caled yw hi." Gorweddodd y cardotyn yn llonydd ar y gwellt gan geisio gwneud rhyw fath o ben a chynffon o hyn i gyd.

Oherwydd hynny i'r gwellt yr aeth ei frwdfrydedd rhyfelgar ar y pryd oherwydd pan deleffoniodd yr heddlu cafodd wybod fod gwlad Belg yn wir wedi cymwpo.

Ond unwaith yr aeth y bwthyn-bach-to-gwellt a'i ben iddo, medrodd dadrithiad dreiddio o'r diwedd, yn swyddogol felly, i aelwyd yr awen Gymreig.

Mae'r un ddelfrydiaeth yng ngwyrdd y gwellt ac yn oren y tywod, ac yn hwn eto ceir afon yn rhedeg ar y tywod a dau blentyn yn chwarae wrth ei hymyl gyda phwced a rhaw - y ddau mewn trywsus cwta.

"Bob yn ail ddiwrnod," ebe Owen Owens, gan aros i boeri i'r tân, 'y ngwaith i oedd mynd lan ar hyd llwybr mynydd i ryw hen dŷ allan tua milltir o'r tŷ ffarm, a llanw'r rhastal â gwair o'r dowlad, a rhoi gwellt glân o dan y bustych ac edrych eu bod nhw'n iawn.

Muriau clai a tho gwellt oedd iddynt hwy a dim ond twll yn y to i'r mwg ddianc trwyddo.

Yna byddai rhywun yn gofyn beth ddigwyddodd wedyn, achos fe fyddai'r stori'n gorffen yn swyddogol pan fyddai Owen yn dweud nad anghofiodd e ddim rhoi gwellt o dan y bustych cyn

Ni allai wneud rhych na gwellt o'r geiriau diarth arni.

Roedd mintai o'r tai yma ledled y wlad, wedi eu hadeiladu o laid a tho gwellt, er mwyn i aelodau'r llywodraeth allu aros ynddynt ar eu teithiau ynglŷn â'u gwaith.

Byddid yn arfer llosgi'r gwellt hwn hwfyd fel y llosgid y grug - er mwyn cael tyfiant ifanc yn ei le yn y gwanwyn.

Rhedai i fyny'r bonciau ar ôl yr hogiau a lluchio'i chorff ar y gwellt nes bod cwmpas ei gwisg laes yn un llanast wrth ei thraed.

Ar fore o Fai gwelodd y bardd brydferthwch naturiol ein hamgylchedd a chyfeiriwyd yn hyfryd at 'emrallt astud y gwellt a'r lloi llonydd'. O weld 'ganhwyllbren y gastanwydden' cafwyd darlun rhyfeddol o lestri'r offeren yn ymbaratoi ar gyfer addoliad.

Nes ymlaen, cafodd fynd i aros i le Richard Williams ar lechwedd Mynydd Llwyd i ddod a'r eneth fach wrth ei sgîl ar gefn ceffyl i'r ysgol fach to gwellt o dan ofal yr athro Owen Williams o Gymru.

Dywedodd gŵr y bwthyn wrtho am guddio tan y gwellt yn y cwt oedd tu cefn i'w gartref.

Arhosodd un Almaenwr wrth y twmpath gwellt lle cuddiai'r peilot.

"Mae'n rhaid i mi beidio â thisian," meddai wrtho'i hunan tra'n swatio tan y gwellt a gosai ei drwyn.

Fel y bydd ffrwythau'r mefus yn datblygu, mae'n rhaid gosod gwellt glân rhwng y rhesi.

Weithiau, er mwyn manteisio ar y gwres, fe ddawnsient uwch ben cannwyll olau a rhoi gwellt sych yn eu clocsiau pren i gadw'r tamprwydd allan.

Ni welwyd unrhyw gerdyn yn eu plith a stamp tramor arno, gan i drefniadau'r sawl a arfaethasai fwrw'u gwyliau ym Majorca fynd i'r gwellt trwy fethiant alaethus y cwmni gwyliau.