Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwelsom

gwelsom

A chyn inni gyrraedd Pencader gwelsom eu Hallegro lliw'r cwstard yn tynnu i mewn i'r clais yn ymyl y bont sy'n croesi'r heol sy'n arwain i Landysul.

Wrth agosa/ u at y llyn, gwelsom bedair lleian yn cydganu.

Gwelsom hyn yn digwydd droeon a thro yn ystod y gêm yn erbyn De Affrica a maen elfen a barodd loes imi.

Cawsom ginio yn Amlwch ac wrth gychwyn oddi yno am Gaergybi gwelsom un o longau cwmni y Blue Funnel yn hwylio'n weddol agos i'r arfordir, ac 'roedd gwledd arall yn ein haros yng Nghaergybi, sef cael mynd ar fwrdd y llong Cambria.

Gyda golwg ar y tair stori a leolir ym Morgannwg, straeon am gyfnod y Streic Fawr yng nghanol y dauddegau ydynt; ac yn un ohonynt, sef yn 'Gorymdaith,' teflir cip yn ôl ar y cyfnod yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan ddaethai hen dadcu a hen famgu Bronwen i'r cymoedd am y tro cyntaf, 'wedi teithio mewn cert o Sir Gaerfyrddin.' Un o ferched Arfon oedd Kate Roberts wrth gwrs - ni chaiff neb anghofio mai yno y'i maged: Arfon (fel y gwelsom) oedd y magned a'i tynnai hyd yn oed ar ei gwely angau - a chan mor gysa/ ct a thriw y portreada hi fywyd y werin-bobl a drigai yno, ei llenyddiaeth hi yw'r nesaf peth at hanes cymdeithasol bro'r chwareli a luniwyd erioed.

Gwelsom gannoedd o weithiau, yn ystod y pedair blynedd, ddarluniad ohonynt yn y newyddiaduron, ond dyma'r peth ei hun!

Ond gwelsom eisoes i modernismo fod yn gyfrwng naturiol i ing yr ansicrwydd ynghylch ein bodolaeth mewn byd a drodd yn ddi-Greawdwr, ac yn ddi- ben.

Gwelsom Mr Jones, Dolwar, yn croesi'r cae â phâl yn ei law, wedi bod yn chwilio am ddiferyn o ddŵr i'w ddiadell, ac yr oedd honno'n ei ddilyn gan frefu mor daer â'r hydd a glywsai'r Salmydd gynt yn brefu am yr afonydd dyfroedd.

Gwelsom chwiorydd yn cerdded law yn llaw - un mewn gwisg ddu o'i chorun i'w sawdl a'r llall mewn Levi's.

Gwelsom fod y Cyfrif Elw a Cholled yn adrodd canlyniadau gweithgareddau'r busnes yn ystod cyfnod o flwyddyn, a'r Fantolen yn dangos adnoddau a goblygiadau'r busnes ar ddyddiad arbennig.

Ac wrth ddynesu at fro'r goleuni gwelsom olygfa brydferth annisgwyliedig.

Yn Angkor gwelsom olion y diwylliant gogoneddus a flodeuai rhwng y nawfed a'r bymthegfed ganrif ac yna a ddiflannodd yn sydyn.

Ac fel y gwelsom, byddai'n aml yn anghofio disgyblaeth lem ei glasuriaeth yn ei afiaith wrth drafod llenorion unigol.

Gwelsom eisoes i fardd a oedd ymhlith y Cywyddwyr cyntaf - Llywelyn Goch ap Meurug Hen - ganu i Hopcyn ap Tomas, ond ar fesur awdl.

Gwelsom ei lyfr 'sgwennu ac o'r eiliad honno am gyfnod fe'i galwyd yn 'Reverend'.

Dyma wybodaeth y gellir o leiaf ei defnyddio i lenwi'r bylchau yn ei hanes cynnar - hanes sydd, fel y gwelsom, braidd yn annelwig.

Ar hyd y lle i gyd gwelsom faneri - llawer ohonynt yn datgan yr achlysur arbennig - Majove Dni - Y cyntaf o Fai, sef diwrnod pwysig yng nghalendr y comiwnyddion.

Gwelsom yn barod fel yr oedd Llanddewi Brefi'n ganolfan bwysig oherwydd cysylltiad y lle â Dewi Sant.

Fel y gwelsom gyda'r stori gyntaf, mae cadernid enwog y dderwen ar y naill law a gwendid gostyngedig y brwyn ar y llaw arall.

'Roedd y coffi, fel y gwelsom yn gyffredin yn y wlad, yn gryf, a'r gwpan yn hanner llawn o raean.

Mewn un ganolfan yn rhanbarth Arsi gwelsom sut y caiff hadau eu rhoi mewn silindrau bach plastig sy'n cynnwys cymysgedd o bridd a gwrtaith.

Gwelsom amryw o lynnoedd bychain llonydd, gyda niwl y bore'n dechrau codi oddi arnynt.

ond gwelsom drwy ddadeni ffiseg y ganrif hon mai y gwrthwyneb sy'n wir.

Gwelsom nad yw'r Esgob Morgan yn brin o ddatgan ei ddyled i'w gynorthwywyr, ond nid yw'n rhestru John Davies yn eu plith.

Fel y gwelsom yn y bennod flaenorol, mae'n dra thebygol fod yn well gan y mwyafrif o'r trigolion gynt fynychu'r Twmpath Chwarae ar y Suliau, yn hytrach na mynd i'r Eglwys.

(Gwelsom eisoes fod y ddau gyda'i gilydd yn fwy o werth na'r Frenhines.) Y ffordd orau i gael y ddau i weithio gyda'i gilydd yn gynnar yn y gêm yw trwy Gastellu mor fuan ag sydd yn bosibl.

Gwelsom fod traddodiad eglwysig cynnar yn cofio am Arthur fel amddiffynnydd i'r Ffydd Gristnogol, ond ymddengys fod hynny wedi ei roi heibio erbyn cyfnod y Bucheddau.

Ond gwelsom fod y coleg yn disgleirio ac yn cynnig hyfforddiant o'r safon uchaf mewn campau fel rygbi, pêl-fasged, pêl-rwyd, athletau, criced.

Gwelsom droeon fod eirolaeth yn rhan hanfodol o weddi%o.

Rhwng popeth gwelsom ysgubo ymaith lawer o'r hen derfynau.

Er bod y gwersyll mewn ardal goediog braf, a bod yna gyfleusterau chwaraeon pur foethus gerllaw, buan y gwelsom nad ar gyfer pobl gyffredin Prâg yr oedd y rhain.

Cadarnhau a wnant ar y cyfan fy marn mai cul-de-sac yw'r nofel hanes fel y'i gwelsom yn Gymraeg hyd yn hyn, ond mae'n ddifyr ac addysgiadol ei throedio, yn arbennig yng nghwmni llenorion mor loyw a Rhiannon Davies Jones a Marion Eames.