Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwelw

gwelw

Neidiodd y cerddwyr o'r ffordd i ben y palmant wrth i'r gyrrwr gwelw frwydro i geisio cadw'r lori ar y ffordd.

Tra bwyf fe gofiaf wyneb gwelw HR a'r olwg freuddwydiol a fyddai yn ei lygaid fel pe bai'n gweld ymhell, gweld ei Gymru rydd ddelfrydol, tu hwnt i ffiniau ei oes ei hun.

Y cwbl sydd raid i ti ei wneud ydy tynnu sylw'r ddau oddi ar eu gwaith am eiliad." Cofiodd Jean Marcel am wynebau gwelw y bobl yn y dorf ychydig oriau ynghynt.

Roedd Gareth Lloyd yn chwech ar hugain oed, fodfedd yn fyr o'r chwe troedfedd traddodiadol, ond nid angenrheidiol, yr heddlu, du ei wallt ond golau, os nad gwelw, ei wynepryd.

Wil oedd y gwas bach, tua phedair ar ddeg oed, a'i ben sgwâr, a'i wyneb fflat, gwelw; byddai'n gwlychu'r gwely, er i f'ewythr Vavasor roi cynnig ar lawer meddyginiaeth, ond doedd dim yn tycio, a Gwladys yn ddig bob bore y byddai'n gorfod llusgo'r matras gwlyb i lawr y grisiau cerrig o'r llofft stabal.

Dim ond daearyddiaeth oedd hynny; y tu ôl i'r wynebau gwelw ar y strydoedd, roedd hanes a diwylliant na fedrai dyn ond braidd- gyffwrdd ag ef.