Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwelwch

gwelwch

Diogelwch Os gwelwch yn dda rhowch wybod i'r cynorthwy-ydd labordy (neu un o'r tiwtoriaid) pan fyddwch yn defnyddio'r labordai a pheidiwch a gweithio yno ar eich pen eich hun os oes unrhyw berygl yn debygol o godi o'ch gwaith.

Peidiwch â rhoi'r gorau i fwydo'r adar os gwelwch yn dda, - mae cnau pys yn faethlon iawn, yn uchel mewn oel amlannirlawn a phrotîn.

Fel y gwelwch chi mae ffaith a ffuglen, yn ogystal â'r hyn a ddigwyddodd gynt a'r hyn sy'n digwydd nawr, wedi cael eu cydblethu yn y stori ryfedd ac enwog hon.

Os oes gennych unrhyw syniadau, awgrymiadau, cwynion, sylwadau, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda -- byddem yn falch o glywed oddi wrthych.

Deilwen, os gwelwch chi'n dda, mae'n well gen i.

Hyd yn oed wedyn os edrychwch yn syth at yr alaeth mae'n annhebyg y gwelwch chi hi.

Wnewch chi roi hwn iddo fo, os gwelwch chi'n dda?

Gwelwch dystiolaeth o nerth y lefiathan wrth gerdded i fyny at geg y cwm, yn bonciau o gerrig, powlenni mawnoglyd rhyngddynt a marian terfynnol o gerrig dwad, graean a phridd o'r tu cefn i'r hwn y crewyd y llyn bas.

Os crafwch ar y sepalau dan y blodau efallai y gwelwch glystyrau o ewyn gwyn arnynt, a dyma ni gysylltiad arall a'r gog, sef pwyri'r gog.

Fel y gwelwch mae'r gair Untitled wedi ei ddewis yn barod felly gellwch deipio'r teitl newydd i mewn yn syth.

Wedi darfod tyllu, byddai'r tyllwr yn mynd â'i ebillion oedd wedi colli min erbyn hyn i'r efail i'w hogi, felly gwelwch fod angen gof yn y chwarel, a llawer yw'r helynt sydd wedi bod yn yr efail rhwng y gof a'r gweithwyr, fel y cawn sôn ymhellach ymlaen.

TELEDU: Fel y gwelwch oddi wrth y llun lloeren, mae'r gwasgedd isel enfawr hwn yn dal i eistedd dros y rhan helaethaf o Ogledd Ewrob.

Os byth yr ewch i'r Amgueddfa Brydeinig yn Tring fe'i gwelwch wedi'i stwffio ar silff, a golwg digon hiraethus arno.

Gwelwch ddigon o goed wrth syllu i lawr Nant Gwynant i gyfeiriad Beddgelert, ond welwch chi fawr yma.

Ar y creigiau o'n blaenau gwelwch y bilidowcars a'r fulfran, yn sefyll fel milwyr ar wyliadwriaeth, yn barod i godi a gwibio o fewn trwch blewyn i'r ewyn ar sgwat am bryd blasus.

Dyw'r ymosodwyr ddim yn ddigon galluog i ddryllior amddiffyn ac yn dilyn hyn gwelwch gemau anniddorol syn ein suo i gysgu.

Fel y gwelwch yn y llun mae'r goeden yn ymddangos yn farw gan ei bod wedi ei dinoethi o ddail - mae'n enghraifft o goeden goll ddail.

'Ydy Mr Puw yma, os gwelwch yn dda?' holodd Llio.

Rydym eisiau gwybod suth fath o broblemau sy'n codi, ac ymhle, felly os gwyddoch am unrhyw weithgaredd fel hyn yn eich ardal, gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda.

Mwynhewch y profiad a byddwch yn barod i newid eich rhaglen os gwelwch unrhyw beth annisgwyl a all hyrwyddo eich nodau ymhellach.

Ac a wyddech chi mai Gradd Trydydd Dosbarth mewn Botani, o bopeth, ar ôl pipio ddwywaith, sydd gan Bennaeth yr Adran Moes ac Adloniant Dyrchafol a'i fod o'n hoff o godi'i fys bach, a'i wraig o, os gwelwch chi'n dda, yn drewi o ddyledion?

Rhyw bump neu chwe troedfedd roeddynt yn ei dyllu mewn diwrnod, felly gwelwch mai gorchwyl go araf oedd hon.

Er enghraifft, yn yr adran Chwaraewch' ar BBC CYMRU'R BYD, efallai y gwelwch yr icon yma os nad oes gennych estyniad Shockwave.

Lle rhyw dair llath o led oedd y fargen, a dyna oedd gweithdy'r malwr, ond gyda hyn o wahaniaeth, mai'r awyr oedd ei do; felly gwelwch fod y creadur hwn yn dibynnu'n hollol ar y tywydd am ei fywoliaeth.

'Tasa hi'n ola' dydd a finna' ar 'y nhraed, mi faswn i'n 'nabod Pen Cilan 'ma fel cefn fy llaw.' 'Wel diawl, gwaeddwch os gwelwch chi o yn rwla.' 'Mi 'na i, Ifan Ifans.' Oherwydd eu difyrrwch wrth weld hwch a'i pherchennog yn eistedd yn y sêt flaen bu'r teithwyr yn hir cyn sylweddoli bod y Paraffîn wedi cymryd tac gwahanol a'u bod bellach yn pellhau oddi wrth y pictiwrs yn hytrach na dynesu ato.

Sieciau'n daladwy i BBC Cymru, os gwelwch yn dda.

Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o hybu cadwraeth yw dweud eich barn yn glir wrth eich cynrychiolwyr etholedig - helpwch ni os gwelwch yn dda.

G~n hynny, rni gasglais fy Meddyli~ thredig ynghyd, yn oreu ~g y rnedrwn"c ~'u rhoddais mewn Ysgrifen fel y gwelwch .

Rhowch nodwydd sych, neu'ch bys sych ar y haenen sebon ac mae'n debyg fe'i gwelwch yn torri.

"Ceisiwch, medd Rhigyfarch, "y ffynhonnau dyfroedd a dyrr eich syched, dyrchefwch eich llygaid i fyny, a gwelwch y ceinder a'r harddwch sydd fry.

Yr un oedd y gân, neu ganeuon, ymhob man, a dyma nhw fel y cofiaf heddiw: 'O meistres fach annwyl A siarad yn sifil Calennig os gwelwch yn dda, Yna llwyddiant i'r gwydde A'r moch a'r ceffyle A hefyd i'r defed a'r da.' Os byddai seibiant go hir cyn i ffenestr y llofft gael ei hagor fe fyddem yn canu'n uchel a chyflym: 'Os ych chi'n rhoi, Dewch yn gloi Ma' nhrad i bron â rhewi.' Mewn ty arall, neu fferm arall, fe fyddai'r gân yn wahanol rhywbeth fel hyn: Mae'r hen flwyddyn wedi mynd Wedi cuddio llawer ffrind, O!

Er enghraifft, yn yr adran ‘Chwaraewch' ar BBC CYMRU'R BYD, efallai y gwelwch yr icon yma os nad oes gennych estyniad Shockwave.

Nodwch, os gwelwch yn dda, fod gwybodaeth ychwanegol i'w chael mewn pecyn briffio ar wahân ar gyfer y rhai sy'n ystyried lleoliad mewn gwlad Ewropeaidd arall.

Pan dynnir y ffurf, neidiwch allan o'r amlinell sialc, a gwelwch wedyn a fedrwch ffitio'n ol i'r union fan.

Gwelwch fod yna dair cenhedlaeth uniongyrchol yn dwyn yr enw Elis yn y teulu yma.

Felly gwelwch fod gan Owain bob hawl i'w alw'i hun yn Dywysog Cymru.

Rwyf wedi talu am fy ffolineb, fel y gwelwch.' 'Petawn i ond wedi sylweddoli ar y pryd i ble ac i ba amser yr oedden ni wedi dychwelyd .